Ffilm (Ysgrifennu ar gyfer y Sgrîn)
Mae MA Ffilm (Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin) yn gwrs sydd wedi'i gynllunio i fireinio'ch sgiliau ysgrifennu creadigol a thechnegol. Byddwch yn meistroli technegau uwch, gan saernïo naratifau cymhellol, datblygu cymeriadau cyfoethog, a strwythuro sgriptiau deinamig.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/film-and-visual-effects/ma-film-script-writing.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cyfle i gydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chyd-fyfyrwyr PDC, cael mewnwelediadau, myfyrio'n feirniadol a chywreinio eich ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau cynhyrchu gyda myfyrwyr o’r llwybrau MA Ffilm eraill ar ymarferion ffilm yn semester 1 ac wedyn ar ffilm fer yn semester 2.
Wedi'i gynllunio ar gyfer
Mae'r cwrs MA Ffilm (Ysgrifennu ar gyfer y sgrin) ar gyfer darpar awduron sydd am wella eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer y sgrin a pherffeithio eu crefft. Mae'r cwrs hwn yn eich dysgu sut i greu naratifau cymhellol, datblygu plotiau deinamig, ac ysgrifennu deialog sy’n ennyn diddordeb.
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr cynhyrchu
- Cynhyrchydd teledu a ffilm
- Cydlynydd cynhyrchu
- Rheolwr lleoliad
- Ymchwilydd cyfryngau
Sgiliau a addysgir
- Technegau camera, goleuo a sain
- Amserlennu cynhyrchu
- Sgiliau rheoli tîm
- Cynllunio, datblygu ac ymchwilio
- Cydweithio
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu ar gyfer y sgrin, gan gynnwys adrodd storïau, creu cymeriadau a strwythur sgriptiau. Byddwch yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a myfyrwyr eraill PDC i ennill profiad ymarferol a dyfnhau eich gwybodaeth, gan eich paratoi i ysgrifennu ar gyfer byd ffilm, teledu a’r cyfryngau newydd. Yn ystod y flwyddyn byddwch yn mynychu gweithdy diwydiant ar ysgrifennu ar gyfer y sgrîn yn stiwdios Bad Wolf ac yn gweithio gydag awduron ar gyfer y sgrin yn y diwydiant mewn Ystafell Awduron dros gyfnod o wythnos.
Diwydiant
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno profiad gwaith yn eich maes dewisol, dan arweiniad partneriaid yn y diwydiant. Mae'r darlithoedd yn cwmpasu mynd i mewn i'r diwydiant a phroffesiynoldeb, gwyliau ffilm a chodi arian, ac yna gweithdai i'ch helpu i ddatblygu eich presenoldeb ar-lein a phortffolio CV/rîl arddangos.
Ymarfer Crefft Arbenigol / Ymarfer Crefft Arbenigol Uwch
Cyfle i ddatblygu sgiliau uwch yn y ddisgyblaeth o’ch dewis mewn darlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Byddwch yn datblygu portffolio i’w gyflwyno sy'n bodloni meini prawf asesu a safonau'r diwydiant.
Ffilm: Theori a Chwarae
Mae'r modiwl hwn yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol. Byddwch yn cydweithio â myfyrwyr o'r llwybrau eraill, gan archwilio cysyniadau a thechnegau drwy gyfres o weithdai ac ymarferion ffilm.
Ymarfer Cydweithredol
Yn y modiwl hwn, byddwch yn gweithio gyda myfyrwyr o'r llwybrau eraill mewn grwpiau cynhyrchu, gan wneud ffilm 6 – 9 munud. Byddwch yn dysgu sut i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, yn dod i ddeall prosesau cynhyrchu a hierarchaethau, ac yn dysgu cwrdd â therfynau amser a rheoli cyllidebau.
Prosiect Cynhyrchu Mawr
Yn y prosiect mawr olaf hwn, byddwch yn creu corff sylweddol o waith yn yr arbenigedd o’ch dewis chi, gydag arweiniad ac adborth parhaus. Bydd hyn yn cynnwys sgript ffilm hyd llawn 90-120 tudalen neu'r hyn sy'n cyfateb ym myd teledu i 2 bennod + amlinelliad ar gyfer penodau pellach o'r gyfres gyntaf.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol priodol; neu HND/HNC a phrofiad perthnasol; neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol. Bydd unigolion heb gymwysterau o'r fath yn cael eu hystyried fesul achos, lle bydd profiad blaenorol yn cael ei ystyried.
Dylech ddarparu tystiolaeth o wefan neu bortffolio digidol perthnasol fel rhan o'ch cais. Dylai hwn fod ar ffurf dolen yn adran gyntaf eich datganiad personol neu wedi’i uwchlwytho fel ffeil PDF yn adran 12 o’r ffurflen gais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr gael mynediad at gopi o Microsoft Office ac Adobe Creative Suite am ddim.
Cost: I fyny at £2000
Argymhellir bod sinematograffwyr a myfyrwyr ffilmiau dogfennol yn prynu eu cerdyn SSD eu hunain. Pan fyddwch yn dechrau'r cwrs, cewch eich cynghori ynghylch pa gyflymder a chapasiti i'w brynu.
Cost: I fyny at £40
Argymhellir bod myfyrwyr ar y llwybrau sinematograffeg, cyfarwyddo, ffilmiau dogfennol a golygu yn prynu eu gyriannau caled allanol eu hunain. Isafswm o 2GB, mae mecanyddol yn iawn ond SSD os gallwch ei fforddio.
Cost: I fyny at £120
Efallai y bydd cyfle ar gyfer teithiau addysgol, fel ymweliadau â stiwdios. Ar y cyfan, bydd y rhain yn lleol i'r ardal ac ni fydd unrhyw gost neu gost isel. Bydd unrhyw deithiau posib sydd angen cost teithio sylweddol yn cael eu cyfleu ymhell ymlaen llaw (Gall pob taith newid a hyfywedd mewn perthynas â nifer y myfyrwyr).
Cost: £100
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Ar y cwrs MA Ffilm (Ysgrifennu ar gyfer y sgrîn), byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o weithdai, seminarau, darlithoedd, tiwtorialau, a dosbarthiadau meistr gyda siaradwyr gwadd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Bydd eich asesiad yn seiliedig ar dasgau ymarferol yn deillio o friffiau byw a phrosiectau cynhyrchu (70%), ynghyd â myfyrdodau ysgrifenedig a dadansoddiad beirniadol o'ch gwaith (30%).
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/film-and-visual-effects/ma-film-12.jpg)
Staff addysgu
Rydyn ni’n dîm medrus iawn, gydag ystod eang o brofiad diweddar yn y diwydiant. Mae ein staff yn cynnwys gwneuthurwyr ffilmiau arobryn sy'n parhau i weithio yn y diwydiant, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn gyfredol ac yn flaengar ar draws y radd.
Mae’r MA Ffilm yn defnyddio ein cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol presennol y diwydiant trwy ddarlithoedd gwadd, dosbarthiadau meistr, ymweliadau allanol, a chyfleoedd i ymgynghori.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/film-and-visual-effects/ma-film-2.jpg)
Mynd ar leoliadau a phrofiad gwaith
Rydyn ni’n falch o gydweithio ag ystod eang o sefydliadau'r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Channel 4, BBC Cymru, BAFTA Cymru, RTS Wales, Ffilm Cymru, a Llywodraeth Cymru. Fel partner addysg yn Screen Alliance Wales, byddwch yn gallu mynd ar leoliadau gwaith gydol eich gradd, yn amrywio o rolau gwirfoddoli mewn Gwyliau Ffilm i waith cynhyrchu pan fo rhaglenni teledu a ffilmiau yn cael eu saethu.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys modiwl profiad gwaith unigryw gyda chyflogwyr ffilm a theledu lleol mawr, yn ogystal â llawer o gyfleoedd cysgodi a gwaith â thâl a di-dâl gyda gwahanol gwmnïau'r diwydiant sgrîn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/14-cardiff-facilities/cardiff-facilities-tv-studio.jpg)
Cyfleusterau
Rydyn ni’n cynnig cyfleusterau o safon y diwydiant ar ein Campws yng Nghaerdydd sy'n cynnwys sinema ar y safle lle gallwch chi arddangos eich gwaith a chwarae eich hoff ffilmiau.
Fel myfyriwr ffilm, byddwch yn gallu manteisio ar ein stiwdio ffilm sydd â’r holl offer angenrheidiol gan gynnwys Arri Alexa, Black Magic Ursa, a chamerâu Sony, ystod o feicroffonau proffesiynol, goleuadau LED, traciau, doliau ac offer grip. Popeth sydd ei angen arnoch i ymarfer gwneud ffilmiau mewn man diogel a sicr.
Rydyn ni hefyd yn cynnig ystafelloedd gorffen o'r radd flaenaf ar gyfer golygu fideo proffesiynol, cymysgu sain, a graddio lliw. Mae’r adnoddau yn cynnwys pecynnau Adobe Creative, Movie Magic a Final Draft.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/journalism-and-media/subject-media-production-tv-studio-38596.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.