MBA Byd-Eang (Rheoli Gweithrediadau a'r Gadwyn Gyflenwi)
Ewch ati i wella eich cyflogadwyedd rhyngwladol ac agor drysau i rolau rheoli lefel uchel, drwy gwblhau ein rhaglen MBA Byd-eang gyda ffocws arbenigol ar Rheoli Gweithrediadau a'r Gadwyn Gyflenwi.
Sut i wneud cais Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£15,500*
Myfyrwyr rhyngwladol
£18,970*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Datblygwch yr wybodaeth strategol a gweithredol sydd ei hangen arnoch i arwain cadwyni cyflenwi mewn byd sy’n prysur newid. Mae'r MBA Byd-eang (Rheoli Gweithrediadau a'r Gadwyn Gyflenwi) yn paratoi gweithwyr proffesiynol i reoli cymhlethdod, risg a thrawsnewid cynaliadwy.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Pobl sydd â chymhelliant i feithrin eu sgiliau arwain, datblygu'n broffesiynol, a deall busnes a rheoli cadwyn gyflenwi o safbwynt byd-eang. Mae'r cwrs hefyd wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio 180 credyd yn PDC.
Llwybrau Gyrfa
- Dadansoddwr Cadwyn Gyflenwi
- Arbenigwr Caffael a Chyflenwi
- Arweinydd Logisteg a Dosbarthu
- Dadansoddwr Gwella Prosesau
- Gweithiwr Cyswllt Rheoli Gweithrediadau
Sgiliau a ddysgir
- Dylunio cadwyn gyflenwi strategol
- Dadansoddi a rhagweld gweithrediadau sy'n seiliedig ar ddata
- Rheoli risg a chynllunio gwydnwch cadwyn gyflenwi
- Rheoli perthynas â chyflenwyr
- Gwella prosesau ac effeithlonrwydd gweithredol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Adeiladwch sylfeini cryf mewn arweinyddiaeth, strategaeth ac arloesedd wrth ddatblygu ffocws arbenigol mewn rheoli cadwyn gyflenwi. Trwy fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r mewnwelediad i ffynnu mewn busnes byd-eang.
Arweinyddiaeth a Thrawsnewid Sefydliadol
Archwiliwch sut i arwain sefydliadau trwy newid, tarfu a thrawsnewid digidol. Datblygwch sgiliau arweinyddiaeth moesegol, cynhwysol i adeiladu timau gwydn ac arwain sefydliadau trwy amgylcheddau busnes cymhleth sy'n esblygu.
Strategaeth a Chreu Gwerth
Datblygwch sgiliau strategol i greu a chynnal gwerth sefydliadol mewn marchnadoedd byd-eang sy'n newid yn gyflym. Byddwch yn archwilio cystadleuaeth, mewnwelediad cwsmeriaid, tarfu digidol a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata, i ddylunio strategaethau busnes cyfrifol, cynaliadwy ac effeithiol yn fasnachol.
Arloesedd, Cynaliadwyedd a'r Economi yn y Dyfodol
Dysgwch sut i ddylunio arloesiadau cynaliadwy, moesegol gyfrifol ar gyfer economi sy'n esblygu'n gyflym. Archwiliwch ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, meddwl drwy ddata a systemau i greu modelau busnes sy'n barod ar gyfer y dyfodol a chyflwyno atebion ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Trawsnewid Cadwyni Cyflenwi
Archwiliwch sut mae technolegau digidol ac arferion cynaliadwy yn ail-lunio cadwyni cyflenwi byd-eang. Datblygwch y sgiliau i ddylunio strategaethau gweithredu sy'n barod ar gyfer y dyfodol, yn foesegol ac yn wydn mewn amgylcheddau rhyngwladol cymhleth.
Gweithrediadau Strategol a Rheoli Cadwyn Gyflenwi mewn Cyd-destun Byd-eang
Dysgwch ddylunio a rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi byd-eang gwydn. Archwiliwch gynaliadwyedd, risg ac arloesedd digidol wrth ddatblygu sgiliau gwneud penderfyniadau strategol ar gyfer amgylcheddau busnes cymhleth, sydd wedi'u cysylltu'n rhyngwladol.
Rhowch eich dysgu ar waith yn y byd go iawn trwy interniaeth a Phrosiect Copa’r Labordy Arloesi. Byddwch yn mynd i'r afael â heriau busnes byw, yn dyfnhau'ch arbenigedd ac yn graddio'n barod i arwain newid ystyrlon.
Interniaeth yn y Gweithle
Enillwch brofiad ymarferol gyda chwmni allanol, gan roi eich sgiliau ar waith mewn prosiectau ystyrlon. Gyda chefnogaeth ein partneriaid yn y diwydiant, byddwch yn datblygu mewnwelediad a phrofiad ymarferol sy'n eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Interniaeth gwaith yn seiliedig ar brosiect
Gweithiwch ar brosiect â ffocws gyda chwmni allanol, gan roi eich sgiliau ar waith mewn heriau busnes go iawn ac ennill profiad ymarferol o gyflawni canlyniadau pendant, proffesiynol.
Y Labordy Arloesi – 'Prosiect Copa' MBA Byd-eang
Gweithiwch mewn timau ar heriau byd go iawn a ddarperir gan bartneriaid yn y diwydiant. Rhowch eich sgiliau ar waith, profwch atebion arloesol, ac enillwch brofiad ymarferol o greu strategaethau gydag effaith fusnes go iawn.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd anrhydedd ail ddosbarth o leiaf yn y DU neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol cydnabyddedig.
Mae profiad rheoli perthnasol yn ddelfrydol a byddai pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£15,500
fesul blwyddyn*£15,500
fesul blwyddyn*£18,970
fesul blwyddyn*£18,970
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Wedi iddynt gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr sydd wedi pasio’r modiwlau gofynnol wneud cais i ennill Diploma Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth. Codir £360 ar fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud hyn (y pris yn gywir adeg ysgrifennu).
Cost: £360
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Gallwch chi gwblhau'r MBA Byd-eang mewn blwyddyn neu ddewis llwybr dwy flynedd sy'n cynnwys interniaeth i ennill profiad gwaith gwerthfawr. Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch chi'n astudio pynciau busnes craidd ochr yn ochr â modiwlau dewisol sy'n gysylltiedig â'ch arbenigedd dewisol.
Mae dysgu'n ymarferol ac yn canolbwyntio ar y diwydiant. Byddwch chi'n gweithio ar brosiectau busnes byw, yn cymryd rhan mewn gweithdai, efelychiadau a gweithgareddau grŵp, ac yn archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial ac offer digidol yn cefnogi penderfyniadau busnes drwy gydol y cwrs. Mae eich profiad dysgu yn adeiladu tuag at y Labordy Arloesi, lle byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth i ddatblygu atebion i her fusnes go iawn, sy'n aml yn gysylltiedig â'ch diddordebau arbenigol neu brofiad interniaeth.
Staff addysgu
Mae asesiad ar yr MBA Byd-eang wedi'i gynllunio i adlewyrchu arfer busnes go iawn. Byddwch chi'n gweithio ar heriau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant drwy gydol eich modiwlau, gan ddatblygu eich syniadau dros amser a rhoi’r hyn a ddysgwch ar waith mewn senarios busnes ymarferol.
Byddwch yn cwblhau cymysgedd o asesiadau grŵp ac unigol, gan gynnwys prosiectau ymgynghori, cyflwyniadau, adroddiadau a gwaith myfyriol. Mae'r rhain yn eich helpu i feithrin sgiliau gwaith tîm, arweinyddiaeth a meddwl strategol wrth ddangos eich datblygiad proffesiynol eich hun.
Byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac offer digidol i gefnogi ymchwil, cynllunio ac arloesi. Cewch eich annog i ddefnyddio'r technolegau hyn yn gyfrifol, gan werthuso eu hallbynnau'n feirniadol a deall eu heffaith foesegol ac ymarferol ar wneud penderfyniadau busnes.
Interniaethau
Gall myfyrwyr MBA Byd-eang gwblhau interniaeth yn y gweithle neu interniaeth sy’n seiliedig ar brosiect, gan gynnig cyfle i weithredu gwybodaeth ystafell ddosbarth mewn lleoliadau busnes yn y byd go iawn a datblygu sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae interniaethau'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut mae sefydliadau'n gweithredu a'r heriau y maent yn eu hwynebu, gan helpu i dynnu sylw cyflogwyr a chryfhau eich CV.
Gallwch ddewis interniaeth allanol draddodiadol, gan weithio o fewn sefydliad, neu interniaeth seiliedig ar brosiect sy'n canolbwyntio ar ddatrys her fusnes benodol i gwmni allanol. Cefnogir cyfleoedd gan ein partneriaethau diwydiant cryf, gydag arweiniad tîm y cwrs i'ch helpu i baratoi a llwyddo.
Cyfleusterau
Mae'r MBA Byd-eang wedi'i leoli yn ein campws yng Nghasnewydd, yng nghanol y ddinas ac ar lannau Afon Wysg - dim ond ychydig funudau ar droed o ganolbwynt manwerthu'r ddinas, ac mae ganddo gysylltiadau da â chyflogwyr mawr. Ar y campws, gall myfyrwyr elwa o gyfleusterau gan gynnwys ein llyfrgell ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â'n Canolfan Ymchwil Hydra drawiadol, lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â dysgu efelychiedig ac asesiadau, a gynlluniwyd i'w paratoi ar gyfer heriau busnes yn y byd go iawn. Mae myfyrwyr yn derbyn mynediad am ddim i LinkedIn Learning, gyda ffocws penodol ar Drawsnewid Digidol, Deallusrwydd Artiffisial, a Thechnolegau sy'n Dod i'r Amlwg. Mae tystysgrifau cwblhau cyrsiau LinkedIn Learning, ochr yn ochr â sylwebaeth fyfyriol 1,000 o eiriau, yn ffurfio elfen asesedig o’r portffolio Copa.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.