Niwed i'r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i helpu i wella eich ymwybyddiaeth o niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol. Drwy gwblhau'r cwrs, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o'r etioleg, yr achosion a'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig ag ARBD. Amlinellir trosolwg o'r dystiolaeth bresennol sy'n cefnogi asesiadau a gofal parhaus i'r rhai sy'n byw gydag ARBD.
Sut i wneud cais Ymchwil yn PDC
Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn gwella eich ymwybyddiaeth o, a’ch gwybodaeth am Niwed i’r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol
Dyluniwyd y cwrs hwn i wella eich ymwybyddiaeth o Niwed i’r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol. Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth ynghylch achoseg, nifer yr achosion a’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig ag ARBD. Amlinellir trosolwg o’r dystiolaeth gyfredol sy’n sail i asesiadau a gofal parhaus i’r sawl sy’n byw gyda ARBD.
Yn dilyn hyn, cynigir canllawiau i’ch helpu i ddefnyddio’r wybodaeth hon yn eich arferion beunyddiol, yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â diogelu ac asesiadau capasiti mewn oedolion agored i niwed.
Mae dwy Haen gydag adnoddau cysylltiedig i’w lawrlwytho. Mae Haen 1 ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae Haen 2 yn cynnig gwybodaeth fwy manwl ar gyfer ymarferwyr sydd yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â gofal penodol a chymorth i’r rhai sydd ag ARBD.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Yr hyn y byddwch chi'n ei ddysgu
Mae pob haen o’r hyfforddiant yn cynnwys modiwlau. Er mwyn gallu symud ymlaen i Haen 2, rhaid cwblhau Haen 1 yn gyntaf.
- Cefndir: Amcangyfrifon mynychder poblogaeth, amodau cysylltiedig, a ffactorau risg.
- Datblygiad: Ffactorau corfforol, seicolegol ac ymddygiadol allweddol gan gynnwys cyngor ac arweiniad cyfredol ynghylch yfed alcohol.
- Adnabod: Meini prawf a phrosesau adnabod, sgrinio ac asesu; Nodweddion a nodweddion cysylltiedig ag ARBD.
- Rheolaeth a Chymorth: Trosolwg o argymhellion rheoli arfer gorau cyfredol, gan nodi gwybodaeth cyfeirio a chynnig awgrymiadau ar gyfer arfer o ddydd i ddydd, waeth beth fo'ch rôl.
- Argymhellion cymorth a gofal ehangach: Trafodir ystyriaethau ymarferol mewn perthynas â gweithio gydag unigolion ag ARBD ac atal llithro'n ôl.
Addysgu ac asesu
Mae astudio cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) byr ym Mhrifysgol De Cymru yn cynnig nifer o fanteision, mae’n ffordd hyblyg i symud ymlaen ym maes yr yrfa o’ch dewis, ymestyn eich gwybodaeth a chael cydnabyddiaeth. Dylech gael gwybod bod mynediad i'r deunyddiau dysgu ar-lein yn ddilys am gyfnod o dri mis o'r dyddiad cofrestru. Sicrhau bod y cwrs yn cael ei gwblhau'n brydlon o fewn yr amserlen hon.
Mae’r rhaglen ar gael ar blatfform digidol y mae modd mynd ato ar unrhyw adeg, gan wneud dysgu’n fwy hyblyg i gyd-fynd â’ch amserlen.
Cynhelir asesiadau byr drwy gydol y cwrs i wirio’r dysgu, gydag asesiad ar ddiwedd y cwrs a fydd, o’i gwblhau, yn cynnig cymhwyster digidol i chi o’ch portffolio CPD. Mae’r cwrs CPD ar-lein yn unig hwn yn cynnig dysgu, ble y gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun er mwyn cyd-fynd â’ch amserlen waith brysur. I gofrestru eich diddordeb ac am fwy o wybodaeth, byddwch cystal â llanw ein ffurflen ymholiad.
Ffioedd y cwrs
- Haen 1: £20
- Haen 2: £20
Arbedwch £10 wrth archebu'r ddwy haen gyda'i gilydd am ddim ond £30.
Archebwch nawr