BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil ac Adeiladu

Paratoi eich hun am yrfa ym maes Peirianneg Sifil. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Sut i wneud cais Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,200*

Ar y radd hon mewn Peirianneg Sifil ac Adeiladu, byddwch yn astudio egwyddorion peirianneg sylfaenol, wedi'u hategu gan fathemateg, iechyd a diogelwch, a chynaliadwyedd. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant ar gyfer dylunio ac adeiladu prosiectau peirianneg sifil. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Pobl sydd wrth wraidd peirianneg sifil. O gyflenwi ynni a dŵr glân i'n cartrefi, i brosesu ac ailgylchu ein gwastraff, mae peirianwyr sifil yn gweithio ar ddatblygu gwasanaethau a chyfleusterau rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Dylunio
  • Peiriannydd Mecanyddol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Ymchwil

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau drwy ddadansoddi gan ddefnyddio theori wyddonol a pheirianneg
  • Gwybodaeth ddatblygedig am dechnoleg flaengar
  • Gwaith tîm, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Deall cyfrifoldebau proffesiynol

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Canolbwyntio ar ddiwydiant

Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant ac rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol sy'n seiliedig ar broblemau.

Cyfleoedd lleoliad gwaith

Mae'r cwrs hwn ar gael hefyd drwy Network75 hefyd, sef llwybr gwaith ac astudio cyfunol. Mae yna gyfleoedd ar gyfer teithiau maes a lleoliadau gwaith hefyd.

Gwybodaeth arbenigol

Mae’r staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, rhai drwy weithgareddau ymchwil a rhai drwy ymarfer proffesiynol mewn gyrfaoedd diwydiannol.

Trosolwg o'r Modiwl

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu egwyddorion peirianneg sylfaenol. Byddwch yn archwilio perthnasedd mathemateg mewn peirianneg ac yn cael gwerthfawrogiad o faterion yn ymwneud â rheoli gwaith adeiladu, deunyddiau a'r amgylchedd.

  • Mathemateg i Beirianwyr - 20 credyd
  • Mecaneg Peirianneg 1 - 20 credyd
  • Mecaneg Thermo-hylif - 20 credyd
  • Deunyddiau Peirianneg Sifil - 20 credyd
  • Peirianneg Broffesiynol - 20 credyd
  • Cyfathrebu Peirianneg - 20 credyd

Ym mlwyddyn dau, cewch gyfle i gymhwyso'r egwyddorion a ddysgwyd ym mlwyddyn un trwy gyfres o fodiwlau sy'n ymdrin â deunyddiau a strwythurau, hydroleg ac arolygu. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf a'ch ail flwyddyn, byddwch yn mynychu cyrsiau maes ymarferol sy'n ymdrin â meysydd pwnc fel peirianneg, arolygu a daeareg/geodechneg.

  • Mecaneg a Dylunio Strwythurol - 20 credyd
  • Geodechneg a Daeareg Peirianneg - 20 credyd
  • Dulliau Dadansoddol a Rhifiadol - 20 credyd
  • Hydroleg a Hydroleg Peirianneg - 20 credyd
  • Ymarfer Peirianneg Sifil - 20 credyd
  • Priffyrdd a Chludiant - 20 credyd
  • Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth - 120 credyd (cwrs rhyngosod yn unig)

 

Ym mlwyddyn 3, byddwch yn canolbwyntio ar ddadansoddi, dylunio a gweithredu systemau peirianneg, a chynaliadwyedd mewn peirianneg sifil. Byddwch yn cael cyfle i gymhwyso eich sgiliau a'ch gwybodaeth am gysyniadau geodechnegol i broblemau dylunio ac adeiladu ymarferol. Yn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol sy'n rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth dechnegol.

Prosiect Unigol - 20 credyd

Prosiect Integredig - 20 credyd

Peirianneg Strwythurol - 20 credyd

Geodechneg – Dadansoddi a Dylunio - 20 credyd

Hydroleg a Pheirianneg Amgylcheddol - 20 credyd

Rheoli Prosiectau Peirianneg Sifil - 20 credyd

Gall y cwrs BEng(Anrh) roi'r cyfle i symud ymlaen i gwrs MEng Peirianneg Sifil sy'n cyfuno'r radd israddedig (BEng) â chymhwyster lefel Meistr. Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, bydd blwyddyn ychwanegol o astudio (blwyddyn 4) yn rhoi sylfaen wybodaeth dechnegol uwch ac yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yn ystod y cymhwyster BEng(Anrh).

Modiwlau MEng Blwyddyn 4 yn unig (y cyfan yn fodiwlau craidd)

  • Prosiect Grŵp Integredig - 40 credyd
  • Deunyddiau Peirianneg Sifil Uwch - 20 credyd
  • Peirianneg Geo-amgylcheddol - 20 credyd
  • Mecaneg Strwythurol Uwch - 20 credyd
  • Dylunio Strwythurol Uwch - 20 credyd

 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch yn dysgu trwy ddarlithoedd, a gefnogir gan diwtorialau, sesiynau ymarferol a grwpiau seminar. Lle bynnag y bo modd, bydd eich gwaith yn seiliedig ar brosiectau byw ac astudiaethau achos, gyda chyfraniadau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Asesir y radd BEng(Anrh) / MEng Peirianneg Sifil drwy aseiniadau, gwaith cwrs, profion dosbarth parhaus ac arholiadau. Cynhwysir cyflwyniadau fel elfennau o asesiadau mewn rhai modiwlau, er mwyn datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno allweddol.

Staff addysgu

Mae ein darlithwyr Peirianneg Sifil yn arbenigwyr yn eu meysydd pwnc, yn sgil gweithio yn y diwydiant neu gydag ef, yn cynnal gwaith ymchwil, yn cyflwyno mewn cynadleddau, yn cyhoeddi eu gwaith, ac yn llywio eich astudiaethau gyda'r syniadau diweddaraf. Yn ogystal â chael eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, byddwch yn elwa o siaradwyr gwadd o'r byd peirianneg hefyd.

Lleoliadau

Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw lleoliadau a phrofiad gwaith ac rydym yn frwdfrydig ynghylch gweld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.

Cyfleusterau

Mae gan ein labordai peirianneg sifil y peiriannau diweddaraf a gynorthwyir ac a reolir gan gyfrifiaduron.

Storïau Myfyrwyr

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn ardderchog. Mae graddedigion ein gradd Peirianneg Sifil yn cael gwaith gyda pheirianwyr ymgynghori, contractwyr peirianneg sifil ac awdurdodau lleol, gydag amrywiaeth gwmnïau sy'n cynnwys Capita Symonds, BAM Nuttall, Hyder Consulting, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, Morgan Est, Carillion, Mott MacDonald, Atkins, Network Rail, United Utilities, a chwmnïau rhyngwladol amrywiol.

Llwybrau gyrfa posibl

Efallai bod gennych lwybr gyrfa clir rydych yn anelu ato, a gallwn eich helpu i gyrraedd yno. Ar y llaw arall, efallai eich bod yn dal i fod yn ansicr ynghylch y cyfeiriad yr hoffech ei gymryd a dyna pam y bydd ein darlithwyr, ein cysylltiadau diwydiannol a'n gwasanaethau gyrfaoedd am siarad â chi am y cyfleoedd hyn. 

Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn Beiriannydd Sifil - mae'r byd yn wynebu heriau mawr ac rydym ar flaen y gad o ran datblygu atebion i lawer o'r rhain.

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar y trywydd yr hoffech ei ddilyn.

 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyngor Derbyn

Rydym yma i helpu. P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Siarad â ni