MSc

Rheoli Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd

Diogelu amgylcheddau yfory. Dyma gyfle i chi fireinio eich sgiliau a datblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes Diogelwch, Iechyd a Rheolaeth Amgylcheddol.

Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Chwefror

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Gyda materion diogelwch, iechyd ac amgylcheddol yn dod yn fwyfwy pwysig, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sydd â’r sgiliau cywir. Mae'r cwrs gradd MSc Diogelwch, Iechyd a Rheolaeth Amgylcheddol yn cynhyrchu ymarferwyr iechyd a diogelwch o'r fath, sy'n gallu nodi, asesu a datrys problemau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol drwy gymhwyso egwyddorion rheoli da.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd, Diogelwch a Rheolaeth Amgylcheddol, a’r rheini sydd am ddeall mwy am systemau a phrosesau rheoli o’r fath. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer y gweithwyr proffesiynol hynny sydd am weithio ym myd busnes a diwydiant er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Wedi’i achredu gan

  • Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH)
  • Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Rheoli Risg a Diogelwch (IISRM)

Llwybrau Gyrfa

  • Rheolwr Amgylcheddol
  • Rheolwr Iechyd a Diogelwch
  • Rheolwr Diogelwch, Iechyd ac Amgylcheddol

Y sgiliau a addysgir

  • Iechyd a Diogelwch
  • Rheolaeth amgylcheddol
  • Gwaith tîm

Placeholder Image 1

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Achrediad Proffesiynol

Mae’r cwrs yn cael ei gydnabod a’i achredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH) a’r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Rheoli Risg a Diogelwch (IISRM).

Perthnasedd uniongyrchol i’r diwydiant

Yn ogystal ag aelodau staff sydd â phrofiad yn y diwydiant sy'n addysgu ar y gwahanol fodiwlau, mae'r cwrs yn croesawu gweithwyr proffesiynol cyfredol i siarad am y materion y maent yn eu hwynebu wrth weithio ar brosiectau.

Rhagolygon gyrfaol byd-eang

Mae galw mawr am yr arbenigedd hwn ledled y byd, gyda sefydlogrwydd swyddi da a photensial i ennill cyflog da.

Trosolwg o’r Modiwl

Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth am feysydd pwnc technegol drwy ffocysu ar y broses o reoli iechyd a diogelwch, wrth roi ystyriaeth briodol i ddatblygiad economaidd cynaliadwy ym maes busnes a’r amgylchedd. Gall graddedigion wneud cais a symud ymlaen tuag at statws cydymaith IIRSM a statws IOSH graddedig.

Rheoli Iechyd a Diogelwch Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau craidd i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu creu a datblygu system reoli effeithiol sy’n cydymffurfio’n llawn â gofynion cyfreithiol a statudol.

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ar gyfer Rheolwyr Sefydliadol Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanwl ar sut y cymhwysir canllawiau ISO 26000, a’r materion sy’n ymwneud â gweithredu o’r fath fel rhan o system reoli integredig ehangach.

Y Gyfraith ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig Mae'r modiwl hwn yn ffocysu ar bwysigrwydd agweddau cyfreithiol ar gyfraith busnes i ategu astudiaethau mewn cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR).

Traethawd Estynedig Unigol Prosiect ymchwil unigol sy’n canolbwyntio ar agwedd astudio benodol y mae’r myfyriwr wedi’i dewis.

Rheoli Amgylcheddol: Gyda ffocws ar Safon Amgylcheddol ISO 14001; bydd myfyrwyr yn gwerthuso strategaethau gwella busnes. Mae’r pynciau’n cynnwys cynllunio amgylcheddol, arweinyddiaeth, gwerthuso perfformiad, dangosyddion perfformiad allweddol fel defnydd ynni, ac archwiliadau.

Gwerthuso a Rheolaeth y Gweithle: Yn systematig, dadansoddi'r risg o beryglon yn y gweithle; deall rheolaeth ddeddfwriaethol; a mynd y tu hwnt i ofynion deddfwriaethol i greu gweithle mwy diogel.

Rheoli Busnes a Risg: Astudio systemau rheoli busnes, cyfathrebu, cyllid, a deall risgiau ar lefelau strategol a gweithredol.

Traethawd Estynedig Unigol: Prosiect ymchwil manwl o dan arweiniad; bydd myfyrwyr yn dysgu am fethodoleg ymchwil, sut i gasglu tystiolaeth helaeth, dadansoddi’n feirniadol, synthesis dadleuon, ac yn cyflwyno eu canfyddiadau. Cwblheir y gwaith dros gyfnod o ddwy flynedd.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi’n dysgu

Cyflwynir y cwrs yn bennaf drwy weithdai sy’n annog trafodaeth a dysgu drwy brofiadau ar y cyd. Darperir cyfleoedd astudio sy'n seiliedig ar wybodaeth ar-lein, ac mae'r gweithdai wedi'u dylunio i archwilio pynciau ymhellach drwy enghreifftiau a chymhwysiad ymarferol. 

Cynhelir asesiadau yn unigol ac mewn grwpiau. Mae asesiadau'n cynnwys adroddiadau (i hyrwyddo darpariaeth broffesiynol), astudiaethau achos (i archwilio prosiectau go iawn), arholiadau llyfr agored (i brofi cymhwysiad yn ogystal â dealltwriaeth), a chyflwyniadau (i wella sgiliau cyfathrebu). 

Staff Addysgu

Mae’r cwrs MSc Diogelwch, Iechyd a Rheolaeth Amgylcheddol yn cynnig polisi drws agored, lle gall myfyrwyr gael mynediad at staff ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn cynnig Hyfforddwr Academaidd Personol ar gyfer pob un o'n myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau llyfrgell ar gael ar bob campws ac mae'r rhain ar agor i holl fyfyrwyr Prifysgol De Cymru. Yn ogystal â llyfrau a chyfnodolion, y llyfrgell yw eich porth i adnoddau ar-lein fel e-lyfrau, cronfeydd data a chanllawiau pwnc. Gallwch archebu unrhyw gyfarpar arbenigol y mae ei angen arnoch ar gyfer modiwlau ymarferol, a chael mynediad at gymorth technegol pan fo’i angen arnoch.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i Raddedigion

Mae’r rhaglen hon wedi’i hachredu gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH). Gall myfyrwyr cofrestredig gael mynediad at Aelodaeth Myfyrwyr IOSH drwy gydol eu hastudiaethau ac, ar ôl eu cwblhau'n llwyddiannus, byddant yn bodloni'r gofynion academaidd ar gyfer aelodaeth raddedig (Grad IOSH).

Mae ein cysylltiadau cryf yn ein helpu i deilwra ein cyrsiau i ddiwallu anghenion cyflogwyr a sicrhau eich bod yn graddio gyda’r sgiliau cywir i ddatblygu gyrfa ym maes adeiladu. Mae’r berthynas hon â diwydiant wedi’i ffurfioli yn Fforwm Strategol yr Amgylchedd Adeiledig (BESF). Mae'r manteision cyffredin sy'n deillio o'r bartneriaeth hon yn sylweddol ac yn gwarantu gwell potensial cyflogadwyedd i'n myfyrwyr a'n graddedigion.

Llwybrau gyrfa posibl

Aelodaeth raddedig yw’r porth i statws Siartredig. Gan mai IOSH yw’r unig sefydliad yn y byd sy’n cynnig aelodaeth Siartredig i ymarferwyr iechyd a diogelwch, gall hyn eich helpu i gyrraedd y safonau proffesiynol uchaf a chael cydnabyddiaeth ryngwladol.

Mae rhagolygon gyrfa yn ardderchog, yn enwedig gan fod cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiad y byddwch yn eu hennill. Mae cyfleoedd ar gael mewn amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys ym maes diogelu’r amgylchedd, diogelwch galwedigaethol ac iechyd yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Cymorth Gyrfaoedd

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn gallu cael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. Mae gan yr Amgylchedd Adeiledig gynghorydd gyrfaoedd pwrpasol a fydd yn eich cefnogi.

Yn ogystal, mae gennym adnoddau ar-lein helaeth i'ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae gan ein cronfa ddata o gyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr Prifysgol De Cymru, gallwch gael hysbysiadau e-bost wythnosol am swyddi.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd dda mewn pwnc perthnasol, neu gymhwyster proffesiynol priodol, neu HNC/HND gyda phrofiad rheoli digonol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Buddsoddwch yn eich dyfodol

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.