MSc

Seiberddiogelwch Cymhwysol

Gyda soffistigeiddrwydd cynyddol y bygythiadau i’r dirwedd seiber, ynghyd â’r cynnydd cyflym mewn ymdrechion i amharu ar ein systemau critigol a chipio data masnachol a phersonol, mae galw cynyddol am raddedigion seiberddiogelwch medrus iawn i amddiffyn unigolion a sefydliadau o amrywiaeth eang o seiberdroseddau.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsiwch â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Chwefror

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd y cwrs MSc Seiberddiogelwch Cymhwysol yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf i chi o’r bygythiadau seiber sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg mewn busnes a sut i ddelio â nhw. Byddwch yn ymdrin â’r meysydd technegol a rheoli/llywodraethu sydd eu hangen i weithredu yn y proffesiwn seiberddiogelwch, gan eich galluogi i wella eich sgiliau presennol a datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd wedi cwblhau gradd sy’n ymwneud â TG neu sy’n gweithio yn y diwydiant Seiberddiogelwch ar hyn o bryd ac sy’n dymuno datblygu sgiliau neu drosglwyddo i’r diwydiant seiberddiogelwch.

Wedi ei Achredu gan

  • BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG

Llwybrau Gyrfa

  • Gorfodi'r Gyfraith
  • Rheolwyr Diogelwch TG
  • Asiantaethau Cudd-wybodaeth y Llywodraeth
  • Dadansoddwr Ymateb i Ddigwyddiadau
  • Dadansoddwr Diogelwch

Y sgiliau a ddysgir

  • Sgiliau Dadansoddi
  • Sgiliau Cyflwyno
  • Deddfwriaeth
  • Datrys Problemau
  • Ysgrifennu adroddiadau ffurfiol

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Creu Arbenigwyr

Mae’r cwrs hwn yn rhan o’r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy’n dod â’r Brifysgol, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr yn y diwydiant at ei gilydd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a chreu arbenigwyr sy’n gallu brwydro yn erbyn seiberdroseddu.

Cyfleusterau Rhagorol

Mae ein cwrs yn defnyddio cyfleusterau arloesol, sy’n golygu y byddwch yn cael y cyfle i ddefnyddio’r technolegau diweddaraf mewn labordai o’r radd flaenaf, a Chanolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC), sy’n nodweddiadol o’r rhai a ddefnyddir gan y diwydiant Seiberddiogelwch.

Achrediadau Proffesiynol a Safonau Rhagoriaeth

Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG. Mae’r adran yn cael ei chydnabod fel Canolfan Ragoriaeth Safon Aur mewn Addysg Seiberddiogelwch gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU.

Enillydd Gwobr Prifysgol Seiber y Flwyddyn

Enillydd Gwobr Prifysgol Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol yn 2019, 2020, 2021 a 2022.

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr drwy ddefnyddio amgylchedd dysgu “yn y gweithle” sy’n efelychu sut beth yw gweithio ym maes seiberddiogelwch, gan ddefnyddio labordai Seiber sy’n cynnwys y systemau a’r offer diweddaraf, ynghyd â defnyddio’r Ganolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC). Wrth efelychu dysgu “yn y gweithle”, ymgysylltir â'r diwydiant trwy gydol y cwrs ar ffurf darlithoedd gwadd, seminarau diwydiant, aseiniadau sy’n cael eu harwain gan brosiectau ac ati, sy’n helpu pob myfyriwr i ddeall a datblygu sgiliau Seiber.

Technegau a Chysyniadau Diogelwch Uwch – 20 credyd
Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth dechnegol fanwl i chi am y cysyniadau uwch sy’n gysylltiedig ag ymosodiadau seiberddiogelwch ac arwynebau amddiffyn.

Deallusrwydd Artiffisial Cymhwysol ym maes Seiberddiogelwch – 20 credyd
Nod y modiwl hwn yw archwilio cysyniadau craidd sy’n tanategu deallusrwydd artiffisial cymhwysol ym maes seiberddiogelwch. Bydd y modiwl yn cwmpasu gwahanol is-barthau deallusrwydd artiffisial (AI) i ddatrys problemau seiberddiogelwch yn y byd go iawn.

Rheoli Diogelwch ac Ymateb i Ddigwyddiadau – 20 credyd
Byddwch yn datblygu sgiliau uwch a dealltwriaeth feirniadol o faterion cymhleth sy'n ymwneud â rheoli diogelwch, gweithrediadau ac ymateb i ddigwyddiadau.

Deddfwriaeth, Risg a Llywodraethu ym maes Seiberddiogelwch – 20 credyd
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o ddeddfwriaeth y DU a’r UE, a chyfrifoldeb sefydliadol mewn perthynas â’r Seiberofod a Thechnoleg Gwybodaeth.

Diogelwch Rhwydwaith – 20 credyd
Gwerthuso, dadansoddi a chyfosod datrysiadau ymchwiliol ar gyfer dyfeisiau symudol.

Traethawd Estynedig MSc – 60 credyd
Byddwch yn defnyddio eich sgiliau cyfrifiadurol ac ymchwil i ymchwilio i fater amserol a gwreiddiol o'ch dewis sy'n berthnasol i'r dyfarniad, cyn llunio ateb cyfiawn a gwybodus. 

Arweinyddiaeth a Newid Trawsnewidiol yn yr Oes Ddigidol - 20 credyd

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Staff Addysgu

  • Peter Eden, Arweinydd y Cwrs
  • Dr Mamaun Qasem, Darlithydd 
  • Joshua Richards, Darlithydd 
  • Dr Arun Kumar, Darlithydd 
  • Beth Jenkins, Darlithydd 

Cyflwyno ac Asesu

Rydym yn cynnig cyfleusterau arloesol, sy'n golygu y byddwch yn dysgu mewn labordai Seiberddiogelwch arbenigol. Bydd dysgu ymarferol yn cael ei wneud mewn amgylcheddau dysgu “yn y gweithle”, fel y Ganolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC), a bydd hyn yn galluogi dysgu sy’n efelychu’r gweithle. Rydym yn un o ddim ond ychydig o Brifysgolion sy’n cynnig y cyfleuster, ac rydym hefyd yn cydweithio â’r llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant i gefnogi dysgu a datblygiad y sector seiber. O ganlyniad, mae'n wahanol i ddysgu traddodiadol a yrrir gan ddarlithoedd. O ystyried natur y radd MSc hon, nid yw’r cwrs yn cynnwys unrhyw arholiadau ac asesiadau ffurfiol sydd wedi’u cyfyngu o ran amser, ac mae'r asesiadau yn gymysgedd o waith ymchwil academaidd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac asesiadau ymarferol sy’n seiliedig ar brosiectau.

Lleoliadau

Mae’r cwmnïau sy’n rhan o’r cwrs seiberddiogelwch ar hyn o bryd yn cynnwys Bridewell, Y Bathdy Brenhinol, Arloesedd Anadlol Cymru, Tarian RCCU (Uned Seiberdroseddu Ranbarthol) a PureCyber. Bydd y sefydliadau hyn yn cymryd rhan yn y cwrs drwy gydol y flwyddyn/blynyddoedd academaidd.

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau ar flaen y gad, sy’n golygu y byddwch yn defnyddio’r technolegau diweddaraf mewn labordai o’r radd flaenaf, a Chanolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC), sy’n nodweddiadol o’r rhai a ddefnyddir gan y diwydiant seiberddiogelwch i ymgorffori dysgu “yn y gweithle” i ddarparu profiad dilys. Gallwch ymuno â’r cwrs yn ein Hacademi Seiberddiogelwch Genedlaethol a dod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o Arbenigwyr Seiberddiogelwch. 

Rydym yn defnyddio meddalwedd seiber blaenllaw ac yn cynnwys ymgysylltu â diwydiant mewn modiwlau ar yr un pryd â darparu digwyddiadau rhwydweithio ychwanegol i helpu i gefnogi eich dysgu. Byddwch yn cael cyfleoedd ardderchog i ryngweithio â sefydliadau’r diwydiant, fel Splunk, Uned Fforenseg Ddigidol Heddlu De Cymru, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Tarian (ROCU), Bridewell, PureCyber a’r Bathdy Brenhinol.

Wedi'i achredu gan BCS

Pam Prifysgol De Cymru?

  • Un o ddim ond wyth o Brifysgolion yn y DU i dderbyn Safon Aur gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd. 

  • Achredir gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain.

Pam Prifysgol De Cymru?

Enillydd Gwobr Prifysgol Seiber y Flwyddyn yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol bedair blynedd yn olynol.

  • Un o ddim ond wyth o Brifysgolion yn y DU i dderbyn Safon Aur gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd. 

  • Achredir gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain.


Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Gyrfaoedd i Raddedigion
Mae cyfleoedd gyrfa i’r rheini sydd â chymhwyster seiberddiogelwch yn parhau i dyfu, gyda llawer o rolau’n cynnig amgylchedd diddorol, heriol a gwerth chweil i weithio ynddo. O weithredu polisïau diogelwch a rheoli mesurau diogelu mewn systemau rhwydwaith, i gynghori sefydliadau ar sut i leihau risgiau a’u gwneud yn llai agored i niwed, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael ledled y diwydiant cyfrifiadurol. Mae’r rolau cyffredin sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch yn cynnwys dadansoddwyr risg a diogelwch gwybodaeth, rheolwyr diogelwch TG, ymchwilwyr fforenseg ddigidol, ac ymgynghorwyr diogelwch rhwydwaith. Gallai graddedigion hefyd ystyried gradd ymchwil gyfrifiadurol neu PhD mewn cyfrifiadura.

Llwybrau gyrfa posibl

  • Gorfodi'r gyfraith
  • Dadansoddwr Diogelwch
  • Asiantaethau Cudd-wybodaeth y Llywodraeth
  • Dadansoddwr Ymateb i Ddigwyddiadau
  • Rheolwyr TG

Cymorth gyrfaoedd

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn gallu cael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. 

Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau un-i-un gan Gynghorwyr Gyrfaoedd sy’n rhan o’r gyfadran, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu hyd yn oed ar Teams a thrwy e-bost drwy’r gwasanaeth “Gofyn y Cwestiwn”. Mae gennym hefyd adnoddau ar-lein helaeth i'ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. 

Mae gan ein gwasanaeth gyrfaoedd dimau pwrpasol, gan gynnwys tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd, sy'n cynnwys rhaglen cyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm mentergarwch sy'n ffocysu ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth. 

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion sydd ag o leiaf 2:2 gradd Anrhydedd neu gyfwerth. Dylai dechreuwyr fel arfer fod yn raddedigion mewn cyfrifiadura neu faes cysylltiedig a meddu ar sgiliau TG da iawn.

Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac mae angen lefel Saesneg o IELTS 6.0 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth.

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

 

Buddsoddwch yn eich dyfodol

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.