MSc

Fforensig Digidol

Gwellwch eich sgiliau technegol a dadansoddol wrth i ni archwilio byd seiberdrosedd sy'n ehangu'n gyson, sut i ymchwilio iddo a sut mae'n effeithio ar bobl a chwmnïau bob dydd.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £11,060*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,229*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Byddwch yn barod ar gyfer y cam nesaf mewn gyrfa seiber gyffrous wrth i chi ddysgu gyda chyfleusterau arloesol ochr yn ochr ag arbenigedd ein staff a'n partneriaid yn y diwydiant.

Dyluniwyd ar gyfer

Os ydych chi'n berson dadansoddol sydd â dawn mewn technoleg, gallai hyn fod yn berffaith i chi. P'un a ydych chi'n fyfyriwr graddedig newydd sy'n gysylltiedig â TG neu'n weithiwr proffesiynol sy'n wybodus am seiber ac ar hyn o bryd yn gweithio ym maes gorfodi'r gyfraith neu wyddoniaeth fforensig; mwynhewch y cyfle i wella'ch sgiliau wrth i chi drosglwyddo i yrfa fforensig digidol ac ymateb i ddigwyddiadau.

Llwybrau Gyrfa 

  • Gorfodi'r Gyfraith
  • Dadansoddwr Canolfan Gweithrediadau Diogelwch
  • Asiantaethau Cudd-wybodaeth y Llywodraeth
  • Dadansoddwr Ymatebion i Ddigwyddiadau
  • Ymchwilydd Fforensig Digidol

Y sgiliau a ddysgir 

  • Sgiliau dadansoddi
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau ar gyfer rôl tyst arbenigol
  • Datrys problemau
  • Ysgrifennu adroddiadau ffurfiol

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Enillwyr Gwobrau Prifysgol Seiber y Flwyddyn

Enillwyr ‘Prifysgol Seiber y Flwyddyn’ yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol yn 2019, 2020, 2021 a 2022.

Cysylltiadau Sefydliadol

Profiad yn y byd go iawn trwy ein cysylltiadau agos â'r heddlu, sefydliadau gorfodi'r gyfraith, a'r sector preifat.

Cyfarpar sy’n Arwain y Diwydiant

Mae offer fforensig digidol sy'n flaenllaw yn y diwydiant yn ymddangos trwy gydol y cwrs ac yn gwella profiad myfyrwyr.

Safonau Rhagoriaeth

Y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Canolfan Ragoriaeth Safon Aur mewn Seiberddiogelwch, ac un o ddim ond 13 yn y DU.

A close up of a computer screen that is displaying code.

Trosolwg o’r Cwrs

P'un a ydych chi am ddatrys troseddau gan ddefnyddio technoleg ar gyfer gorfodi'r gyfraith neu os ydych chi am ymchwilio i ac atal ymosodiadau seiber, bydd ein cwrs yn eich grymuso gyda sgiliau amhrisiadwy a phrofiad technolegol ar gyfer amrywiaeth o swyddi prysur ym maes seiber.

Safonau Fforensig Digidol a Chydymffurfiaeth
Gwerthuswch safonau, rheoliadau ac achrediad yn feirniadol mewn labordy gweithredol. Dysgwch sut i gymhwyso offer, technegau ac arferion yn y diwydiant wrth gymhwyso egwyddorion fforensig digidol i broblemau amrywiol.

Technolegau Rhwydweithio
Enillwch y sgiliau a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol sy'n ymwneud â sut mae systemau cyfrifiadurol a thechnoleg yn cyfathrebu fel y gallwch ddatblygu atebion rhwydwaith, yn seiliedig ar safonau rhyngwladol, gan ddefnyddio technegau dadansoddi a dylunio priodol.

Technoleg sy'n Dod i'r Amlwg a Fforensig Digidol
Dadansoddwch yn feirniadol y data sy'n gysylltiedig â thechnoleg sy'n dod i'r amlwg. Archwiliwch ei effaith ar y diwydiant fforensig digidol, gan gymhwyso'ch sgiliau a'ch gwybodaeth i gerbydau yn ogystal ag offer fel dronau a deallusrwydd artiffisial.

Gweithrediadau Diogel a Rheoli Digwyddiadau
Byddwch yn gwerthuso, dadansoddi a syntheseiddio'r gallu i berfformio gweithrediadau diogelwch a rheoli digwyddiadau mewn achos o ymosodiad seiber yn erbyn sefydliad, wrth gynnal a sicrhau ymarferoldeb busnes.

Technegau Fforensig Digidol Uwch
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i werthuso a dadansoddi egwyddorion ymarferol a damcaniaethol yn feirniadol ar lefel uwch, ynghylch gwaith fforensig digidol ac adfer data ar gyfer ystod o ffynonellau.

Gwaith Fforensig Dyfeisiau Symudol
Yn y modiwl hwn byddwch yn gwerthuso, yn dadansoddi a’n ymchwilio i ystod o ddyfeisiau symudol, gan gynnwys heriau sy'n ymwneud ag amgryptio, Diogelwch Apple, Apiau, a llawer mwy.

Prosiect MSc
Byddwch yn defnyddio eich sgiliau cyfrifiadurol ac ymchwil i ymchwilio i fater cyfoes a gwreiddiol o'ch dewis sy'n berthnasol i’r dyfarniad cyn cynhyrchu ateb cyfiawn a gwybodus i gynorthwyo’r diwydiant.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyflwyno ac Asesu

Dysgwch gyda chyfleusterau arloesol yn ein labordai seiber arbenigol. O gael mynediad at ddata ar gerbydau sy'n gysylltiedig â damweiniau i ymchwilio i ymosodiadau seiber, byddwch yn profi sut beth yw gweithio yn y diwydiant trwy ein hamgylcheddau dysgu 'gweithle' trochi - gan gynnwys y Ganolfan Gweithrediadau Diogel (SOC), a'r Ystafell Hydra. Rydym yn un o'r ychydig brifysgolion sy’n cynnig y cyfleusterau safon diwydiant hyn wrth hefyd gydweithio â'r llywodraeth, y byd academaidd a'r diwydiant i gefnogi datblygiad y sector seiber. Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn ogystal â sesiynau trochi ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu trwy gymysgedd o ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac asesiadau ymarferol, sy’n seiliedig ar brosiectau.

Staff Addysgu

Dysgwch fforensig digidol gan yr arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd yn y diwydiant seiber. Byddwch yn cael eich addysgu gan amrywiaeth o staff medrus a gwybodus sydd ar flaen y gad yn eu maes pwnc. Trwy gysylltiadau diwydiant ein tîm, byddwch yn elwa ar ddarlithoedd gwadd, seminarau diwydiant a mynediad at feddalwedd drwyddedig a ddefnyddir ar draws y diwydiant.

Cyfleusterau

Mwynhewch ddysgu gan ddefnyddio meddalwedd seiber blaenllaw a'n labordai manyleb uchel. Profwch eich sgiliau technegol a chyfathrebu fel ymchwilydd fforensig trwy weithio mewn tîm i benderfynu beth sydd wedi digwydd yn dilyn ymosodiad seiber gan ddefnyddio ein Canolfan Gweithrediadau Diogel dilys. Darganfyddwch sut beth yw gweithio ym maes gorfodi'r gyfraith gan ddefnyddio ein tŷ lleoliad trosedd ac ystafell ffug lys trochi – byddwch yn dysgu sut i gasglu tystiolaeth ddigidol, sut i fod yn 'dyst arbenigol', a byddwch yn gweld sut beth yw cael eich croesholi mewn lleoliad cyfreithiol. Rydym hefyd yn darparu digwyddiadau rhwydweithio ychwanegol i helpu i efelychu'r amgylchedd gwaith wrth i chi ddysgu.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae cyfleoedd gyrfa i'r rhai sydd â chymhwyster fforensig digidol yn parhau i dyfu gyda llawer o rolau’n cynnig amgylchedd diddorol, heriol a gwerth chweil i weithio ynddo. O weithredu polisïau fforensig digidol ac ymchwiliadau gorfodi'r gyfraith i ymchwiliadau corfforaethol a galluoedd ymateb i ddigwyddiadau - mae amrywiaeth o gyfleoedd ledled y diwydiant fforensig digidol. Gallai graddedigion hefyd ystyried gradd ymchwil cyfrifiadureg neu PhD cyfrifiadureg.

Llwybrau gyrfa posibl

Bydd astudio ein MSc Fforensig Digidol yn agor gwahanol lwybrau gyrfa yn y diwydiant seiber. Mae ein graddedigion wedi dod yn ddadansoddwyr diogelwch, dadansoddwyr ymatebion i ddigwyddiadau, dadansoddwyr Canolfan Gweithrediadau Diogel, ac ymchwilwyr fforensig digidol mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys gorfodi'r gyfraith, asiantaethau cudd-wybodaeth y llywodraeth a chwmnïau technoleg preifat. Byddwch yn sefyll allan i gyflogwyr gan y byddwch yn meddu ar radd PDC – y brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn statws Canolfan Ragoriaeth Safon Aur mewn Addysg Seiberddiogelwch gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU ac mae'n dal i fod yn un o ddim ond 13 prifysgol i feddu ar y dyfarniad ledled y DU.

Cymorth gyrfa

Byddwch yn cael eich cefnogi gan ein staff trwy gydol eich amser ar y cwrs - gyda'ch astudiaethau, y dechnoleg, datblygu eich sgiliau ac edrych ar eich gyrfa sydd i ddod yn y diwydiant. Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio.

Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau un-i-un gan Ymgynghorwyr Gyrfa yn y gyfadran, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu hyd yn oed trwy Teams a thrwy e-bost trwy'r gwasanaeth "Gofyn y Cwestiwn". Mae gennym hefyd adnoddau ar-lein helaeth i helpu gydag ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr.

Partneriaid diwydiant

Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda nifer o gwmnïau sydd ar flaen y gad o ran seiberddiogelwch yn ystod eich amser ar y cwrs hwn. Uned Seiberdroseddu Ranbarthol Tarian (RCCU), Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, EX1 Fforensics, JTOL, Heddlu Gwent, Harper Shaw Investigation Consultants Ltd, a Virgin Media yw rhai o'r cwmnïau y mae ein myfyrwyr yn dysgu wrth eu hochr. Trwy gysylltiadau diwydiant anhygoel ein staff, byddwch yn mwynhau ystod o ddarlithoedd gwadd ac adnoddau gan arbenigwyr seiber yn y diwydiant.

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Mae’r meini prawf mynediad isod yn adlewyrchu ein gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs. Fodd bynnag, caiff pob cais a dderbynnir gan y Brifysgol ei adolygu'n gyfannol ac yn unigol.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion sydd ag o leiaf gradd Anrhydedd 2:2 neu gyfwerth. Dylai ymgeiswyr fod yn raddedigion mewn cyfrifiadura neu faes cysylltiedig a meddu ar sgiliau TG da iawn.

Gofynion ychwanegol 

Gellir gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad gydag arweinydd y cwrs neu aelod perthnasol o dîm y cwrs i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer y cwrs MSc.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.