Ymarfer Myfyriol a Gwneud Penderfyniadau mewn Tai Modern

Datblygwch yr hyder, y gwydnwch a'r farn broffesiynol i lywio heriau cymhleth tai modern. Trwy ddysgu trochol, yn seiliedig ar efelychu, byddwch yn archwilio senarios realistig ac yn cryfhau eich sgiliau gwneud penderfyniadau ac ymarfer myfyriol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gweithwyr proffesiynol tai heddiw yn wynebu sefyllfaoedd cynyddol gymhleth sy'n mynd ymhell y tu hwnt i reoli tenantiaeth. O gefnogi unigolion sy'n profi heriau bregusrwydd ac iechyd meddwl i gydbwyso cyfrifoldebau diogelu, lles a thenantiaeth, mae'n aml yn ofynnol i dimau tai wneud penderfyniadau anodd mewn amgylchiadau cymhleth a newidiol. 

Datblygwyd Y Tu Hwnt i'r Denantiaeth gan Brifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol ym maes tai ac ar eu cyfer, er mwyn helpu i feithrin hyder, gwydnwch a sgiliau ymarfermyfyriol sydd eu hangen i ymdopi â’r heriau hyn yn effeithiol. Gan dynnu ar ymchwil a gynhaliwyd gyda gweithwyr proffesiynol ym maes tai ledled Cymru, mae’r rhaglen yn defnyddio efelychu trochol a myfyrio dan arweiniad i greu profiad dysgu realistig sy’n adlewyrchu cymhlethdod arferion tai modern. 


Pam astudio'r cwrs hwn?

Cryfhau gwneud penderfyniadau

Datblygu'r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus mewn sefyllfaoedd tai cymhleth.

Meithrin barn broffesiynol

Dysgu sut i lywio blaenoriaethau cystadleuol, pryderon diogelu ac amgylchiadau heriol.

Datblygu arfer myfyriol

Myfyriwch ar eich gweithredoedd a'ch penderfyniadau i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.

Profiwch senarios realistig

Cymerwch ran mewn efelychiadau trochol yn seiliedig ar heriau go iawn y mae gweithwyr proffesiynol tai yn eu hwynebu.

Gwella hyder a gwydnwch

Adeiladu sgiliau ymarferol i reoli pwysau a chefnogi eich lles proffesiynol eich hun.

Yr hyn y byddwch chi'n ei ddysgu

Drwy senarios tai realistig a myfyrio wedi'i hwyluso, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol mewn gwneud penderfyniadau, barn broffesiynol ac ymarfer myfyriol. Archwiliwch gymhlethdodau tai modern ac adeiladwch yr hyder a'r gwydnwch i gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn eich rôl o ddydd i ddydd.

  • Llywio sefyllfaoedd tai cymhleth a blaenoriaethau cystadleuol.
  • Datblygu hyder wrth wneud penderfyniadau gwybodus o dan bwysau.
  • Cydbwyso cyfrifoldebau tenantiaeth â diogelu a lles unigol.

  • Myfyrio'n feirniadol ar benderfyniadau, gweithredoedd a chanlyniadau.
  • Archwilio gwahanol ddulliau o ymdrin â sefyllfaoedd heriol.
  • Defnyddio myfyrio i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.

  • Ymateb i sefyllfaoedd sy'n cynnwys bregusrwydd a heriau iechyd meddwl.
  • Ystyried pryderon diogelu ac anghenion cymorth unigol.
  • Archwilio heriau realistig y mae gweithwyr proffesiynol tai modern yn eu hwynebu.

  • Datblygu strategaethau ar gyfer rheoli sefyllfaoedd heriol.
  • Meithrin hyder yn eich dull proffesiynol.
  • Cryfhau gwydnwch personol a lles.

Addysgu ac asesu

Mae'r rhaglen undydd hon yn defnyddio dysgu trochol, sy'n seiliedig ar efelychu, gan ganiatáu ichi weithio trwy senarios tai realistig mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Trwy drafodaethau wedi'u hwyluso, dysgu gan gymheiriaid a myfyrio, byddwch yn archwilio gwahanol ddulliau o ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth ac yn datblygu sgiliau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn eich rôl.

Mae dysgu wedi'i ganoli o amgylch cyfranogiad mewn senarios trochol, trafodaethau grŵp a myfyrio wedi'i hwyluso, gan eich helpu i archwilio eich prosesau gwneud penderfyniadau a datblygu eich barn broffesiynol.

A yw'r cwrs hwn yn addas i chi?

Pwy ddylai fynychu

Swyddogion Tai, Timau Rheoli Tenantiaethau, Rheolwyr Tai, Arweinwyr Tîm, Staff Cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes tai.

Wedi'i ddatblygu gyda'r sector

Wedi'i greu gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol tai, gan dynnu ar ymchwil gyda darparwyr tai ledled Cymru.

Available for your organisation

Gellir cyflwyno'r rhaglen hefyd fel cwrs mewnol, gan ei gwneud yn gyfle i ddatblygu gwneud penderfyniadau a hyder proffesiynol ar draws eich tîm ehangach.

Ffioedd cwrs

Pris: £195

Archebwch nawr

Yn barod i gymryd y cam nesaf?