Gwobrau Ysgolion ac Addysg 2021: Jon Jones
Addysg BA (Anrh) Addysg ac Ymarfer Blynyddoedd Cynnar
Mae gan Jon Jones, sydd wedi graddio, barlys yr ymennydd, sy’n effeithio ar ei gydsymud a’i sgiliau echddygol manwl, ond dyw erioed wedi caniatáu i’w gyflwr ei ddal yn ôl.
Cwblhaodd radd Addysg ac Ymarfer Blynyddoedd Cynnar yr haf diwethaf, gan wireddu ei freuddwyd gydol oes o weithio gyda phlant ac ar hyn o bryd mae’n gweithio mewn meithrinfa.
“Rydw i wastad wedi bod yn frwd dros helpu plant ifanc i ddatblygu a’u helpu i ddysgu drwy chwarae. Rhoddodd y cwrs BA (Anrh) Addysg ac Ymarfer Blynyddoedd Cynnar y wybodaeth a’r profiad gwaith yr oedd eu hangen arnaf i roi fy ngradd ar waith. Dysgais gymaint yn ystod y tair blynedd ac roeddwn wrth fy modd gyda phob eiliad! Mae’r cwrs wedi cael cydnabyddiaeth hefyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn golygu bod graddedigion yn ennill statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ochr yn ochr â’u gradd.
Cefais gyfle i ymgymryd â lleoliad gwahanol bob blwyddyn. Roedd y rhain yn brofiadau mor dda i weld yn union sut mae elfennau o fy nghwrs yn cyd-fynd ag addysg mewn gwironedd. Wrth gwrs, roedd yna heriau. Mae weithiau’n gallu bod yn her i reoli ymddygiad mewn ysgolion. Fodd bynnag, roedd yr athrawon mor gefnogol a chroesawgar. Roedden nhw’n deall fy sefyllfa gan eu bod wedi bod yn y sefyllfa honno eu hunain.
Rydw i wrth fy modd â fy swydd. Rydw i’n mynd i’r gwaith gyda gwên bob dydd. Rydw i’n meddwl mai bod yn athro neu gynorthwyydd addysgu mewn lleoliad blynyddoedd cynnar fyddai fy swydd ddelfrydol, ond rydw i wrth fy modd yn gweithio yn y feithrinfa.
Fy nghyngor i unrhyw un ag anabledd, sy’n dyheu am fynd i’r brifysgol, yw mynd amdani. Rhoddodd Prifysgol De Cymru y feddalwedd i mi i gynorthwyo fy astudiaethau ac fe gefais i gefnogaeth anhygoel. Os mai dyna yw eich breuddwyd, ewch amdani.”
Os hoffech chi ddilyn ôl traed Jon a helpu i ysbrydoli a siapio cenedlaethau’r dyfodol, dysgwch fwy am BA (Anrh) Addysg ac Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar (gyda statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar).