Dan Sylw

Anna Chappell - Syrfeo Meintiau

"Yn ystod fy lleoliad, fe wnes i weithio ar ysgol uwchradd newydd sbon gwerth £40 miliwn"

Amgylchedd Adeiledig
quantity surveyor Anna Chappell standing in front of a building site wearing an hi-vis jacket and hard hat

Mae Anna Chappell, o Gastell-nedd, yn astudio’r BSc (Anrh.) Syrfeo Meintiau a Rheoli Masnachol. 

Yn ddiweddar, fe wnaeth hi gwblhau blwyddyn o interniaeth â thâl gyda Bouygues UK, fel syfrewr meintiau dan hyfforddiant.

Pam wnes ti ddewis Syrfeo Meintiau?

Cyn dechrau yn y Brifysgol, ro’n i’n gweithio fel rheolwr cynorthwyol gyda masnachwr adeiladu lle cefais gipolwg ar y diwydiant adeiladu. Roedd rôl Syrfewr Meintiau’n apelio ataf gan ei fod yn seiliedig ar fathemateg ac ro’n i wedi astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth ar lefel Safon Uwch. Mae’r swydd mor amrywiol, ac mae pob prosiect rydych chi’n gweithio arnynt yn unigryw. Unwaith y byddwch chi’n gymwys, gallwch weithio yn unrhyw le yn y byd, ac mae gweld prosiect yn cael ei gwblhau yn rhoi boddhad mawr i chi!

Pam wnest ti ddewis mynd ar leoliad?

Yn ystod fy ail flwyddyn, ro’n i’n teimlo bod gan y myfyrwyr a oedd yn gweithio fantais enfawr – roedden nhw’n gallu ychwanegu profiad personol at drafodaethau ac aseiniadau yn y dosbarth, ond doedd gen i ddim profiad o’r diwydiant. Gwnaeth un o’m darlithwyr fy enwebu ar gyfer y cynllun Gwobrau Myfyrwyr Menywod mewn Eiddo, ac roedd cyfarwyddwr rhanbarthol Bouygues UK ar y panel cyfweld. Soniais fy mod yn chwilio am brofiad gwaith ac ychydig wythnosau’n ddiweddarach cefais alwad gan yr adran Adnoddau Dynol.

Disgrifia beth wnest ti ar y lleoliad

Mae Syrfewr Meintiau yn ymwneud ag agweddau rheoli costau, caffael a chytundebol prosiect adeiladu. Pan ro’n i’n gweithio i brif gontractwr, ro’n i’n gyfrifol am y canlynol:

  • Rheolaeth ariannol grŵp o isgontractwyr – o ardystio taliadau i gyfarwyddo gwaith ychwanegol sydd ei angen ar y safle.
  • Caffael pecynnau gwaith – cynhyrchu pecyn tendro, ei gyflwyno i is-gontractwyr, ac adolygu’r cynigion rydych chi’n eu cael yn ôl, yna dyfarnu a chynhyrchu gorchymyn is-gontract.
  • Cynorthwyo’r Rheolwr Ansawdd a Safonau gyda’r gwaith adrodd misol.

Ar ba brosiectau wnaethoch chi weithio arnyn nhw?

Treuliais amser ar dri phrosiect – pob un yn brosiectau gwahanol iawn ac ar wahanol gamau yn y gwaith adeiladu. Dros y chwe mis diwethaf, gweithiais ar Ysgol Bae Baglan – ysgol uwchradd newydd sbon gwerth £40 miliwn lle cafodd tair ysgol uwchradd ac ysgol gynradd eu huno. Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn, a chafodd ei chwblhau dair wythnos yn gynnar.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau am y prosiect?

Ro’n i wrth fy modd yn cael bod ar y safle a gweld y newidiadau i’r adeilad ac amgylchedd y safle bob dydd. Roedd cael rhoi’r hyn ro’n i wedi’i ddysgu mewn darlithoedd ar waith a gweld sut mae’n cyd-fynd â’r realiti ar brosiect adeiladu yn brofiad amhrisiadwy. Wrth weithio gyda thîm prosiect profiadol, cefais fy addysgu am swydd Syrfewr Meintiau, a hefyd am swyddi eraill y tîm prosiect.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Wrth i mi ymuno â’r prosiect, cafwyd cyfarwyddyd gan y cleient i godi dau adeilad allanol ychwanegol – podiau dosbarth. Roedd yn brofiad gwych i fod yn rhan o’r broses o wneud yr adeiladau hyn yn realiti, mewn cyfnod byr iawn! Roedd y rhaglen ar gyfer y gwaith adeiladu’n dynn iawn, ond roedd y gwaith rheoli prosiect cadarn yn golygu bod y podiau ystafelloedd dosbarth yn barod i’w defnyddio pan agorwyd yr ysgol. O safbwynt fy ngwybodaeth bersonol am adeiladu, roedd yn brofiad amhrisiadwy.

Pa sgiliau a gwybodaeth newydd wnaethoch chi eu hennill?

Dysgais gymaint – popeth o wella fy sgiliau Microsoft Excel i wybodaeth adeiladu.  Bydd yr hyn rwyf wedi'i ddysgu eleni’n helpu gyda fy mlwyddyn olaf ac mae'n wych i'w gael ar fy CV.