Mae Hugh yn Rheolwr Prosiect Cynorthwyol i Burroughs
Astudiodd Hugh Jones y BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol ac MSc Modelu Gwybodaeth Adeiladu gyda Chynaliadwyedd yn PDC.
Diwrnodau Agored Gwneud Cais
Mae bellach yn Rheolwr Prosiect Cynorthwyol i Burroughs, sef ymgynghoriaeth peirianneg a rheoli prosiect annibynnol yng Nghaerdydd.
Disgrifiwch beth rydych chi'n ei wneud
Fel Rheolwr Prosiect Cynorthwyol, rwy'n rheoli amrywiaeth o brosiectau sector cyhoeddus a phreifat yn erbyn cost, amser ac ansawdd o'r cychwyn cyntaf hyd at y diwedd.
Beth ydych chi'n ei fwynhau amdano?
Rwy'n mwynhau'r her, natur bwrpasol y gwaith a gweithio fel rhan o dîm i gyflawni anghenion a dymuniadau cleient yn llwyddiannus.
Beth yw eich cyflawniadau mwyaf nodedig yn ystod y rôl bresennol?
Ar ôl cwblhau fy MSc dechreuais weithio i Burroughs fel rheolwr prosiect a chostau graddedig. O fewn deuddeg mis, rwyf wedi cael dyrchafiad ac yn ennill profiad mewn ystod o feysydd gyda gofynion pwrpasol, gan fy ngadael mewn sefyllfa dda ar gyfer ennill statws siarteriaeth gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Sut mae'r cymhwyster wedi eich helpu yn eich gyrfa?
Mae achrediad gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gyfer fy ngradd yn caniatáu i mi wneud cynnydd gydag ennill statws siartredig ar opsiwn 'llwybr carlam'. Ar ben hynny, mae enw da'r radd yn feincnod mae cyflogwyr yn edrych am wrth recriwtio.
Pam ei fod yn broffesiwn da?
Mae cyfleoedd diri i'r rheini gyda gradd mewn adeiladu neu dirfesureg meintiol o Brifysgol De Cymru. Mae'r gwaith yn heriol ac yn bwysicach, yn ysgogol gyda chydnabyddiaeth a buddion da.
Beth ddylanwadodd arnoch chi i wneud y cwrs Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol?
Ar ôl ysgol uwchradd, dechreuais weithio i fusnes y teulu mewn adeiladu domestig, tra'n ennill Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Adeiladu. Mynd i Brifysgol oedd y cam rhesymegol nesaf.
Beth oedd agweddau mwyaf gwerthfawr y cwrs?
Gan ei fod yn gwrs galwedigaethol ei natur, mae'r sgiliau a ddysgir yn uniongyrchol briodol i yrfa yn y diwydiant adeiladu.
Unrhyw beth arall yr hoffech ei grybwyll?
Mae staff addysgu'r brifysgol bob amser yn hawdd mynd atynt, yn gymwynasgar ac yn barod i fynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol i ddarparu profiad addysgu amhrisiadwy i bob myfyriwr.