Sumaya Khan - Busnes a Rheolaeth
"Un o'r pethau gorau am astudio busnes a rheoli yw ei fod yn faes mor eang, felly rydych chi’n cael cyfle i roi cynnig ar ychydig o bopeth."
Busnes a Rheolaeth
I Symaya, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, sbardunwyd ei phenderfyniad i ddilyn gradd Busnes a Rheoli gan ei diddordeb mewn entrepreneuriaeth.
Drwy gydol ei hastudiaethau, mae hi wedi mwynhau dysgu am wahanol agweddau ar redeg busnes, gan gynnwys cyllid, marchnata, gweithrediadau a strategaeth - "Un o'r pethau gorau am astudio Busnes a Rheolaeth yw ei fod yn faes mor eang, felly rydych chi'n cael y cyfle i roi cynnig ar ychydig o bopeth."
"Uchafbwynt fy nghwrs yn bendant oedd fy lleoliad 10 wythnos fel Intern Marchnata gyda Hoop Recruitment. Mi wnes i wir fwynhau rhoi’r cysyniadau rydyn ni’n dysgu amdanynt ar waith yn y byd go iawn.” Taniodd y profiad hwn ei brwdfrydedd dros farchnata, gan arwain ei chynlluniau gyrfa yn y pen draw. Sicrhaodd interniaeth 12 mis fel Cynorthwy-ydd Marchnata i Dîm Cymru, lle cafodd brofiad ymarferol gwerthfawr o greu cynnwys a nodi cyfleoedd marchnata. Cafodd Sumaya hefyd y cyfle i deithio i Botswana fel rhan o raglen interniaeth eeUIP Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, lle mae'n dweud, "Rwy'n sicr wedi gwneud ffrindiau am oes!"
Mae taith Sumaya’n dangos manteision y profiadau ymarferol yn y byd go iawn sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru. Fe ddarganfyddodd ei hangerdd dros farchnata, mireinio ei sgiliau, a chreu rhwydwaith rhyngwladol.
Ei chyngor i fyfyrwyr y dyfodol yw “cadw meddwl agored a bod yn barod i brofi gwahanol feysydd o fewn y maes, mae mwy nac un llwybr at lwyddiant. Byddwch chi’n barod i herio eich hun.”