Dan Sylw

Mae gyrfa mewn ceiropracteg yn cynnig posibiliadau di-rif

Mae Daniel Morgan o Bort Talbot, sy’n fyfyriwr Meistr graddedig mewn Ceiropracteg, yn gweithio gydag athletwyr elît, ac mewn clinigau preifat ym Mhort Talbot ac Abertawe.

Meistr Ceiropracteg
Daniel Morgan working in chiropractic clinic

Mae Daniel Morgan o Bort Talbot, sy’n fyfyriwr Meistr graddedig mewn Ceiropracteg, yn gweithio gydag athletwyr elît, ac mewn clinigau preifat ym Mhort Talbot ac Abertawe.

Mae hefyd yn cyfrannu at brosiectau ymchwil a gynhelir gan Sefydliad Ceiropracteg Cymru a’r Uned Ymchwil Technoleg a Diagnosteg Glinigol.

"Roedd fy mhrofiadau ar radd ceiropracteg Prifysgol De Cymru yn gadarnhaol o’r dechrau i’r diwedd. Fe wnes i fwynhau fy mhrofiadau a datblygu cyfeillgarwch sy’n debygol o bara am oes.

Yr hyn wnaeth yr argraff fwyaf arnaf oedd parodrwydd y staff i fynd yr ail filltir i helpu eu myfyrwyr. Roedd y darlithwyr bob amser yn barod i helpu ac ymateb yn gyflym i negeseuon e-bost ac ymholiadau, ac roeddent yn frwdfrydig, yn brydlon ac yn benderfynol o gael y gorau ohonom

Roedd y lleoliadau clinigol yn amhrisiadwy. Roedd y lleoliad yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr yn ddiddorol dros ben. Cawsom y cyfle i ymuno ag un o brif lawfeddygon orthopedig y glun a’r traed ar ei rowndiau, gweld llawdriniaeth yn y Theatr Llawdriniaethau a thrafod y cluniau roedd yn eu newid, llawdriniaethau ac esblygiad yr offer llawfeddygol.

Roedd y labordy cyrff marw hefyd yn brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio, am y rhesymau cywir i gyd! Roedd hwn yn gyfle gwych i weld a theimlo anatomeg ddynol ar ei ffurf fwyaf pur. Cawsom ein holi am wahanol rannau o’r corff, gan gynnwys y fraich, y goes, yn ogystal â’r pen a’r gwddf – dyma ddysgu ymarferol ar ei orau.

Fe wnaeth y cwrs ceiropracteg hefyd danio fy niddordeb mewn ymchwil. Doeddwn i erioed wedi dychmygu fy hun yn gwneud gwaith ymchwil, ond pan ddaeth y cyfle ym mlwyddyn tri, sylweddolais fy mod yn ei fwynhau.

Oherwydd hyn, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr â champwyr proffesiynol elît yn Academi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a mynd ymlaen i wneud fy MSc Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Rydw i wrthi’n cwblhau’r cymhwyster Ymarferydd Ceiropracteg Chwaraeon wedi’i Ardystio’n Rhyngwladol (ICCSP) a fydd, os caf fy newis, yn caniatáu i mi drin athletwyr yn y gemau Olympaidd yn 2020.

Mae ceiropracteg yn yrfa sy’n cynnig posibiliadau di-rif. Os ydych chi’n ymddiddori mewn paediatreg ac obstetreg, chwaraeon elît, neu hyd yn oed reoli poen cronig, mae Ceiropracteg yn cynnig llwybrau i helpu a thrin pobl sydd ag amrywiaeth eang o broblemau.

Fel ceiropractydd, y wobr fwyaf yw gweld cleifion yn ymateb i ofal. Does dim teimlad gwell na chywiro problemau tymor hir neu dymor byr cleifion a gweld yr effaith y mae hynny’n ei gael ar eu bywydau.”