Dan Sylw

Pam ddylech chi ddewis cwrs cyfrifeg achrededig?

Cyfrifeg a Chyllid
Two Accounting students working together at computer

Gallai astudio cwrs sydd wedi'i achredu gan gorff proffesiynol perthnasol roi hwb sylweddol i chi o ran dod o hyd i'ch swydd ddelfrydol.

Beth yw’r manteision?

Cyrff proffesiynol sy’n gosod y meincnodau ar gyfer y safonau maen nhw’n disgwyl i weithwyr eu cael, felly rydym wedi gwneud yn siŵr bod y safonau hyn yn rhan o’n graddau cyfrifeg. Ym Mhrifysgol De Cymru, achredwyd ein cyrsiau cyfrifeg sawl gwaith gan gyrff cyfrifeg proffesiynol o’r radd flaenaf, gan gynnwys Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW). 

Mae'r gydnabyddiaeth broffesiynol hon yn golygu bod yr hyn a ddysgwch ar ein graddau cyfrifeg a chyllid a chyfrifeg fforensig yn cyfrif tuag at gymwysterau proffesiynol pellach a all fod o fudd i chi yn eich gyrfa ac, mewn rhai achosion, mae'n ofyniad hanfodol ar gyfer llawer o swyddi cyfrifeg ar gyflogau uwch.

Eithriadau proffesiynol

I gydnabod ansawdd y deunydd y byddant yn dod ar ei draws yn ein gradd BA (Anrh.) Cyfrifeg a Chyllid(Yn agor mewn tab newydd) a’i berthnasedd i ddiwydiant, eithriwyd graddedigion rhag gorfod sefyll un neu fwy o arholiadau cyrff proffesiynol sy'n ofynnol i ddod yn gyfrifydd cymwys.

  • Yr uchafswm o naw eithriad sydd ar gael gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ar gyfer ein graddau cyfrifeg, cyllid a chyfrifeg fforensig, i fyfyrwyr sy’n astudio ein gradd am dair blynedd.
  • Yn dibynnu ar y cwrs a ddewiswch, a'r modiwlau a astudiwyd, gallwch ennill hyd at wyth eithriad sydd ar gael gan Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW).
  • Caniateir eithriadau hefyd o arholiadau Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), yn amodol ar y modiwlau a astudir.

Rhoi hwb i’ch gyrfa

P’un ai a yw’n fater o gael cynnig swydd â chyflog uwch, y cyfle i gael dyrchafiad neu i gael eich troed i mewn yn y lle cyntaf – mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â chymwysterau achrededig yn fawr. Mewn llawer o achosion, gall cyflogwyr noddi graddedigion i ymgymryd ag astudiaeth bellach i gwblhau eu cymwysterau proffesiynol yn rhan-amser.

Aelodaeth broffesiynol

Nid unig ddiben cyrff proffesiynol yw dyfarnu cymwysterau pellach. Mae aelodaeth broffesiynol yn rhoi llawer o fanteision i chi – mae’r rhain yn cynnwys mynediad at adnoddau ar-lein, gwahoddiadau i ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol a rhagor o gyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr.