Dan Sylw

Profiad Alex o astudio cymdeithaseg

Cymdeithaseg
Alex Gilson sitting on a red window bench smiling to camera

Graddiodd Alex Gilson gyda BSc (Anrh) Cymdeithaseg.

Mae’n rhannu ei brofiad o’r cwrs, o gael profiad gwaith gyda Phrosiect Atgofion Pontypridd y YMCA, i ymuno â’r gymdeithas Hanes. 

“Fe ges i leoliad gwaith gyda Phrosiect Atgofion Pontypridd y YMCA yn ystod ail flwyddyn y cwrs cymdeithaseg. Roedd y YMCA yn arfer bod yng nghalon y dref ac roedd yn bwynt cyfeirio da ar gyfer cwrdd yn gymdeithasol. Bu ar gau am flynyddoedd lawer, ond rhoddwyd cynllun ariannu ar waith i ailagor yr adeilad. Fy swydd i yn y tîm atgofion oedd archifo eitemau hŷn y YMCA, gan eu defnyddio i ddatblygu stori yn dangos y broses drawsnewid. Ar gyfer y lleoliad, roedd yn rhaid i mi wneud 30 awr o waith. Yn y pen draw, roeddwn i yno am dri mis. Mae hynny’n dangos, am wn i, cymaint ro’n i’n mwynhau’r prosiect.

I fanteisio i’r eithaf ar fy mhrofiad ym Mhrifysgol De Cymru, ymunais â’r Gymdeithas Hanes i gwrdd â phobl â diddordebau tebyg. Fe es i ar drip y gymdeithas i Berlin, ac roedd yn anhygoel. Tra roeddwn i yno, fe wnes i ymweld â llawer o safleoedd hanesyddol. Fe wnaethom ni ymweld â’r Reichstag, Brandenburg a’r Tŵr Buddugoliaeth. Yn ystod y daith, fe wnes i fanteisio i’r eithaf ar yr agwedd gymdeithasol o fod mewn cymdeithas, gan wneud ffrindiau gwych.

Roedd y modiwl Gwrthdaro, Rhyfel a Heddwch yn agoriad llygad a dyma oedd fy ffefryn ar y cwrs. Fe wnaeth fy addysgu ynghylch pam mae gwrthdaro'n digwydd a sut mae systemau gwleidyddol yn ei chael hi'n anodd cynnal heddwch. Agorodd fy llygaid i lygredd mewn gwleidyddiaeth a’r rhesymau pam ei fod yn digwydd. Er enghraifft, byddai’n well gan rai gwledydd beidio â gwerthu arfau i wledydd eraill, ond maen nhw’n debygol o barhau, oherwydd yr elw enfawr maen nhw’n ei wneud.”