Mae Fay’n weithiwr cymdeithasol ward mewn ysbyty seiciatrig diogel. Mae’n rheoli llwyth achosion o 20 o gleifion gwrywaidd, llawer ohonynt â phroblemau iechyd meddwl a hanes o droseddu.
Graddiodd Fay â gradd Gwaith Cymdeithasol yn 2015.
“Rydw i’n mwynhau fy swydd yn fawr. Er ei fod yn llawn straen ar adegau, rwy’n hoffi’r ffaith fy mod yn cael cyfle i dreulio amser ar sail un-i-un gyda fy nghleifion, gan ddod i’w hadnabod nhw a’u teuluoedd. O’m mhrofiad i, mae hyn yn rhywbeth sy’n gallu bod ar goll mewn timau cymunedol pan fydd gan weithwyr cymdeithasol lwyth achosion mawr iawn dros ardal ddaearyddol fawr.
Ar ben hynny, rwy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm o weithwyr cymdeithasol ond hefyd fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar fy ward. Mae hyn wedi fy ngalluogi i gael cipolwg ar amrywiaeth o safbwyntiau o ran salwch meddwl, sydd yn ei dro wedi helpu i ddatblygu fy ymarfer fy hun.
Pam gwaith cymdeithasol
Cyn gwneud y cwrs gwaith cymdeithasol, ro’n i’n gweithio i asiantaeth faethu annibynnol. Ro’n i wrth fy modd gyda’r swydd hon; cael gweithio gyda phobl, gan gynnwys cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr, i wneud gwahaniaeth i blant a oedd yn haeddu’r cariad a’r gefnogaeth nad oeddent efallai’n eu cael pan oeddent yn dod i ofal.
Rhoddodd gweithio i’r asiantaeth gipolwg go iawn i mi ar rôl y gweithiwr cymdeithasol ac ar ôl sawl blwyddyn o deimlo’n ansicr o’r hyn ro’n i eisiau ei wneud mewn gwirionedd o ran gyrfa – roedd yn ymddangos bod sawl peth yn apelio am y rôl hon.
Y cwrs gwaith cymdeithasol
Gan fy mod yn dychwelyd i addysg ar ôl egwyl o bron i 10 mlynedd, ro’n i’n pryderu ynghylch sut y byddwn yn ymdopi. Dangosodd ein darlithwyr yn eithaf clir o'r diwrnod cyntaf na fyddent yn rhoi popeth ar blât i ni o ran ein sgiliau astudio; fodd bynnag roedd llawer o gefnogaeth ar gael gan staff y llyfrgell o ran adnoddau, ysgrifennu academaidd, strwythuro aseiniadau ac ati.
Roedd llawer o gefnogaeth ar-lein hefyd, ac roedd hyn fel arfer yn ddigon i ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau a oedd gen i. Ac er nad oedd ein darlithwyr yn dal ein llaw, roedden nhw’n barod iawn i fynd drwy adborth ar gyfer aseiniadau gyda ni yn unigol ac roedden nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth i ni am bob aseiniad o ran y deilliannau dysgu roedden nhw’n disgwyl i ni eu dangos.
Rhannwyd cynnwys academaidd y cwrs yn weddol gyfartal drwy gydol y tair blynedd rhwng cyfraith a pholisi cymdeithasol, theori ac ymarfer myfyriol ac ymarfer ar sail tystiolaeth. Roedd cymysgedd o ddarlithoedd ffurfiol, ymarferion chwarae rôl (gan gynnwys achos llys lle’r oedd yn rhaid i ni gyflwyno cais am orchymyn gofal i aelod cyfreithiol go iawn, ac er bod hyn yn teimlo’n frawychus ar y pryd, roedd yn hynod fuddiol wrth edrych yn ôl), gwaith grŵp ac ymwneud ag asiantaethau allanol.
Y modiwlau ymarfer seiliedig ar dystiolaeth wnes i eu mwynhau fwyaf. Roedd y rhain yn cynnwys llawer o gyfranogiad gan ddefnyddwyr gwasanaeth o amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys asiantaethau amddiffyn plant, diogelu oedolion a chyffuriau ac alcohol. Roedd y modiwlau hyn yn rhoi ymarfer gwaith cymdeithasol mewn cyd-destun i mi ac yn fy annog i feddwl am fy sgiliau a sut roedd angen i mi eu datblygu ymhellach.
Y lleoliadau ymarfer
Dominyddwyd blynyddoedd dau a thri gan gyfle dysgu ymarfer 80 diwrnod a 100 diwrnod. Roedd y rhain yn gyfle i roi’r hyn roeddem wedi’i ddysgu ar waith, tra’n cael ein goruchwylio gan y brifysgol a’r asiantaethau roedd yr Awdurdodau Lleol wedi ein lleoli ynddynt.
Ym mlwyddyn un, cefais leoliad 20 diwrnod mewn cartref preswyl i oedolion ag anableddau dysgu. Roedd hon yn ffordd dda i mi ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth o grŵp cleient gwahanol i’r rhai roeddwn i wedi gweithio gyda nhw o’r blaen, a rhoddodd gipolwg i mi ar sut roedden nhw wedi cael profiad o ymyriad gwaith cymdeithasol o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth.
Roedd fy lleoliad ail flwyddyn yn 80 diwrnod gyda gwasanaethau plant Sir Fynwy, yn gweithio gyda’r tîm plant ag anableddau. Fe wnes i fwynhau’r lleoliad hwn yn fawr, ac er fy mod eisoes yn gwybod fy mod am weithio gydag oedolion mewn lleoliad iechyd meddwl, rhoddodd y lleoliad hwn gyfle i mi daflu fy hun i mewn i leoliad statudol a'r pwysau oedd yn dod gyda hynny. Fe wnaeth y lleoliad hwn fy nhaflu i mewn i’r pen dwfn – roedd gen i lwyth achosion bach o achosion plant mewn angen ac amddiffyn plant, gan roi cyfleoedd i mi brofi amrywiaeth o ymyriadau a fforymau lle’r oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud.
Byddwn yn bendant yn cynghori pobl i herio eu hunain mewn lleoliadau gwahanol. Roedd gen i deimlad pendant fy mod i eisiau gweithio gydag oedolion, ond rwy’n falch fy mod i wedi cael profiad o’r gwasanaethau plant – mae hyn wedi bod yn fuddiol iawn o ran deall rhai o’r problemau y gall oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl eu hwynebu o ganlyniad i blentyndod trawmatig a/neu anhrefnus.
Roedd fy lleoliad olaf mewn lleoliad iechyd meddwl fforensig. Treuliais 100 diwrnod yn gweithio ar ward ddiogel isel i gleifion gwrywaidd, yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gan roi persbectif gwaith cymdeithasol i gynlluniau gofal a thriniaeth pob claf. Ro’n i wrth fy modd â hyn gan ei fod yn caniatáu i mi weithio’n uniongyrchol gydag amrywiaeth o gleifion, a oedd wedi cael amrywiaeth o ddiagnosisau gwahanol ac yn profi problemau cysylltiedig.
Yn ogystal â’r gwaith uniongyrchol, rhoddodd lawer iawn o brofiad i mi hefyd o ysgrifennu adroddiadau ar gyfer fforymau a oedd yn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys Tribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl, a oedd yn frawychus i ddechrau ond buan iawn y daeth yn ail natur i mi. Ar ôl y lleoliad, ro’n i’n ddigon ffodus i gael cynnig contract 12 mis yn yr ysbyty fel gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso ac rwyf wedi bod yma byth ers hynny.
Dydi gwaith cymdeithasol ddim yn addas i bawb, ond i’r rheini sydd am weithio gyda phobl agored i niwed a helpu i wneud gwahaniaeth yn eu bywydau, mae’n swydd gwerth chweil. Rydw i wrth fy modd bod pob diwrnod yn wahanol; mae yna adegau da a drwg, ond ar y cyfan rydw i’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach, sy’n ei gwneud yn haws i mi godi ar fore gwlyb a glawog a dweud hwyl fawr wrth fy merch.”