Sicrhaodd John Stowell, 23, o Hwlffordd, a Gareth Godwin, 21 oed, o Bont-y-pŵl, raddau 2:1 ac erbyn hyn maent yn gweithio fel diffoddwyr tân yng ngorsaf dân Pontypridd, dafliad carreg o gampws Trefforest Prifysgol De Cymru.
Ar ôl gweld aelodau o’r teulu’n dod yn ddiffoddwyr tân, fe wnaethon nhw benderfynu gwneud ceisiadau i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ystod eu hastudiaethau. Ar ôl ychydig fisoedd anodd o hyfforddiant, llwyddodd John a Gareth i gyfuno eu hastudiaethau â chael eu galw allan i danau a sefyllfaoedd achub – gan roi profiad bywyd go iawn hanfodol iddynt o’u gyrfa yn y dyfodol.
“Bod yn ddiffoddwr tân wrth gefn yw’r penderfyniad gorau y gallwn fod wedi’i wneud,” meddai John. “Mae fy narlithwyr wedi bod mor gefnogol i’m gwaith rhan-amser ac rydw i wedi gallu trefnu shifftiau o amgylch fy astudiaethau.”
Mae John a Gareth bellach yn ymgeisio am swyddi diffoddwyr tân amser llawn ledled y wlad, ar ôl cael canlyniadau gwych yn y brifysgol. “Mae yna gyfeillgarwch mawr rhyngom ni i gyd yn yr orsaf dân” meddai Gareth. “Er ei fod yn waith dwys ac yn anodd ar adegau, mae’n rhoi cymaint o foddhad a fyddwn i ddim am i bethau fod yn wahanol o gwbl.”
Mae’r radd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fynd i amrywiaeth eang o yrfaoedd, fel swyddogion carchar, parafeddygon, trinwyr galwadau’r heddlu, swyddogion tai, gweithwyr ieuenctid ac athrawon.
I gael rhagor o fanylion am wneud cais i fod yn ddiffoddwr tân wrth gefn, ewch i https://www.decymru-tan.gov.uk/.