Mae Livvy wedi graddio gyda BSc (Anrh) Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol a bellach yn gweithio fel Ecolegydd Cynorthwyol i Arup.
Mae’n dweud mwy wrthym am ei swydd, beth oedd ei hoff adegau o’r cwrs a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Alli di ddisgrifio diwrnod arferol yn dy swydd bresennol?
“Ar hyn o bryd, mae fy swydd yn ymwneud yn bennaf â rheoli offer ar gyfer arolygon ecolegol – fel arfer, canfod ac archebu unrhyw offer newydd sydd ei angen, ac archwilio/cynnal a chadw offer presennol. Rydw i wir yn mwynhau hyn gan fy mod i’n cael profi llu o dechnoleg newydd fel teclynnau canfod ystlumod, sydd hefyd yn golygu mai fi yw’r person i ddod ato fel arfer os oes unrhyw un am ddysgu sut i ddefnyddio darn newydd o offer neu feddalwedd. Fi sydd hefyd yn rheoli’r data sy’n dod yn ôl o arolygon ecolegol ac yn cael cyfle i helpu gydag arolygon ar rywogaethau a warchodir fel moch daear a madfallod dŵr cribog pan fydd amser yn caniatáu.”
Sut mae’r cymhwyster wedi helpu dy yrfa?
Does dim dwywaith bod y cwrs hwn wedi rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i gael gyrfa ym maes cadwraeth neu ecoleg. Roedd cymaint o’r profiad ymarferol yn apelio’n fawr at gyflogwyr oherwydd eu bod yn gwybod bod gennyf ddealltwriaeth o weithio yn y maes a chyfuniad o sgiliau theori a mwy ymarferol. Rydw i’n bendant wedi gwella fy sgiliau meddal fel trefnu a chyfathrebu drwy’r brifysgol hefyd – rydych chi’n dysgu sut i gydbwyso llwyth gwaith eithaf dwys ac yn cael eich asesu drwy arholiadau, sesiynau labordy, traethodau, cyflwyniadau, profion ac ati.
Felly, beth nesaf?
Rwy’n bwriadu gweithio tuag at fy nhrwydded ystlumod a thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau eraill a warchodir drwy ennill profiad ar arolygon ecolegol masnachol yn y DU. Gall y trwyddedau hyn fod o gymorth mawr o ran cyflogadwyedd a chamu ymlaen â gyrfa ym maes ecoleg gan eu bod yn eich galluogi i gynnal arolygon gwell o rywogaethau a warchodir yn gyfreithiol, fel arolygon o glwydfeydd gaeafgysgu ystlumod
Beth ddylanwadodd arnot ti i ddewis gradd BSc (Anrh) Bioleg Bywyd Gwyllt Ryngwladol?
Ar ôl taith maes lwyddiannus i Madagascar i wirfoddoli ar daith Operation Wallacea fel myfyriwr chweched dosbarth, sylweddolais fy mod am astudio bioleg a chadwraeth bywyd gwyllt. Roedd y BSc (Anrh) Bioleg Bywyd Gwyllt Ryngwladol(Yn agor mewn tab newydd) yn berffaith i mi ac yn gwbl unigryw, gyda chymaint o gyfleoedd i astudio dramor a chael profiad ymarferol yn y byd go iawn.”
Pa brofiadau ar dy gwrs oedd yn sefyll allan i ti a pham?
Mae cynifer o'r darlithwyr ar y cwrs hwn yn gefnogol iawn, ac yn gwneud ymdrech wirioneddol i wneud eu darlithoedd yn ddiddorol. Rwy'n teimlo ei bod yn fantais wirioneddol i fod ar gwrs gyda nifer mor fach o fyfyrwyr gan eich bod yn dod i adnabod eich darlithwyr yn dda iawn.
Fy hoff brofiad yw moment a sefodd allan ar daith maes i Dde Affrica, lle’r oeddem yn ddigon ffodus i wylio haid o gŵn gwyllt Affricanaidd yn lladd ysglyfaeth y tu mewn i’n gwersyll. Mae cŵn gwyllt yn eithriadol o brin ac ychydig o bobl sy’n cael cyfle i’w gweld o gwbl, felly roedd wir yn fraint i’w gweld yn eu helfen fel haid o gŵn hela, a byddaf yn cofio hynny am weddill fy oes. Roedd gennym lwyth gwaith eithaf dwys ar y daith ei hun (gan gwblhau’r rhan fwyaf o ddau fodiwl mewn pum wythnos ar y maes) ond rhoddodd y foment honno ddigon o ysbrydoliaeth i ni wneud yn dda.
Ble roeddet ti’n byw tra roeddet ti yn y Brifysgol?
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roeddwn i’n byw yn Neuaddau’r Mynydd, ar Gampws Pontypridd, Trefforest, ac fe wnes i fwynhau hynny’n fawr iawn. Ro’n i’n ffodus iawn o’m cyd-letywyr ac roeddwn i’n ffrindiau da gyda nhw i gyd. Drwy aros mewn neuadd fe wnes i gwrdd â myfyrwyr eraill o wahanol gyfadrannau na fyddwn i wedi cwrdd â nhw fel arall. Roedd cymysgedd go iawn o bynciau yn fy fflat – y gyfraith, bioleg, chwaraeon a nyrsio. Ar ôl hynny, symudais i dŷ gyda rhai o'm ffrindiau ar y cwrs, ac fe wnes i fwynhau hynny'n fawr gan ein bod yn cyd-dynnu’n dda gan fod gennym ni ddiddordebau tebyg ac yn helpu mawr i’n gilydd gyda gwaith cwrs ac adolygu.