Mae Elena Woollard yn astudio’r radd Hanes Naturiol ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae hi’n bwriadu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau y mae hi’n eu datblygu ar y cwrs gwyddorau naturiol i ddechrau gyrfa ym maes cadwraeth bywyd gwyllt.
Sut byddet ti’n disgrifio dy gwrs?
Hanes Naturiol yw hanes bywyd a gwyddorau’r amgylchedd naturiol a phopeth sydd ynghlwm â hynny. Rydyn ni’n dysgu am anifeiliaid a phlanhigion, eu hamgylchedd a sut mae’r pethau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd.
Y pethau gorau y gwnest ti ar y radd Hanes Naturiol?
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfleoedd mor anhygoel i deithio i wledydd fel Sbaen, Gwlad yr Iâ a Botswana, rhywbeth a oedd yn sefyll allan i mi wrth wneud cais am le yn y brifysgol. Cefais gyfnod preswyl da iawn yn Sir Benfro yn y flwyddyn gyntaf. Fe wnaethon ni wylio morfilod yn ogystal â gwylio adar ac ymweld â’r boblogaeth o balod ar Ynys Sgomer. Ro’n i wrth fy modd yn treulio cymaint o amser yn yr awyr agored ac yn dysgu sgiliau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Rydyn ni’n mynd i Sbaen ym mis Mai, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at hynny!
Pa sgiliau ymarferol wyt ti wedi’u dysgu?
Mae astudio Gwyddorau Naturiol wedi fy nysgu sut i gynnal arolygon afonydd gan ddefnyddio technegau fel cic samplu i ganfod yr organebau sy’n bresennol, gall hyn roi arwydd o lefelau llygredd mewn ardal. Rydyn ni wedi cael ein dysgu sut mae cynnal proffiliau pridd ac adnabod llystyfiant, ynghyd â dulliau adnabod morfilod, adar y môr a morloi bach, sy’n ddefnyddiol iawn – ac yn dipyn o hwyl!
Rydw i wedi datblygu sgiliau microsgopeg trwy ddadansoddi celloedd planhigion a phaill. Mae dadansoddi data’n ystadegol yn yr ail flwyddyn yn eich dysgu sut mae gwerthuso data a gesglir gennych a mynd gam ymhellach â'r canfyddiadau. Yn y modiwlau Sŵoleg, addysgir technegau dyrannu i ni er mwyn deall anatomeg anifeiliaid.
Mae'r modiwl GIS yn rhoi'r sgiliau i chi grynhoi setiau data i gynrychioliadau gweledol a dadansoddi newidiadau a thueddiadau mewn amgylcheddau i helpu i amddiffyn a rheoli ardaloedd o bwys biolegol. Mae hwn yn fodiwl hynod ddefnyddiol gan ei fod yn cwmpasu cymaint o'r sgiliau ymarferol rydym wedi'u dysgu (fel sut i gynnal Arolwg Cynefinoedd Cam 1) ac yn addysgu set newydd o sgiliau i chi ar yr un pryd gan ddefnyddio meddalwedd a thechnegau a ddefnyddir ar raddfa fyd-eang. Bydd pob un o’r rhain yn fuddiol iawn er mwyn cwblhau fy nhraethawd hir ac ar gyfer swyddi yn y dyfodol!
Yn olaf, mae’r modiwlau ffotograffiaeth a chynhyrchu digidol wedi codi cwr y llen ar fyd newydd sbon! Maen nhw wedi dysgu’r grefft o gyflwyno’r byd naturiol i mi gan ddefnyddio sgiliau ac offer newydd ac rydw i wedi’i fwynhau’n fawr.
Hoff bynciau?
Mae Sŵoleg anifeiliaid asgwrn cefn mor ddiddorol! Rydw i wedi dysgu gwerthfawrogi esblygiad a’r galluoedd a’r addasiadau anhygoel sydd gan anifeiliaid sy’n gwneud pob un ohonynt yn unigryw ac yn berffaith i’w hamgylcheddoedd.
Mae Ecoleg Ymddygiadol yn fodiwl arall rwy’n ei fwynhau oherwydd mae wedi fy nysgu am ddeallusrwydd anifeiliaid a’r ffordd maen nhw’n defnyddio ac yn deall yr amgylchedd mewn cymaint o ffyrdd na allwn ni eu gweld. Mae'r modiwl hwn yn trafod pynciau fel cwsg, mudo a chanfod y ffordd, gan gynnwys rhywfaint o niwrofioleg, ac mae hyn yn ddiddorol iawn i mi.