Dan Sylw

Pam astudio hanes naturiol ym Mhrifysgol De Cymru?

Hanes Naturiol
shark swimming with mouth open, woman swimming alongside

Mae Rebekka Goddard yn astudio’r BSc (Anrh.) Hanes Naturiol.

Mae hi’n codi cwr y llen ar ei hamser ar y cwrs, o ysgrifennu ei thraethawd hir i wylio Goleuni’r Gogledd o dwba twym yng Ngwlad yr Iâ!

Pam benderfynest ti astudio’r BSc (Anrh) Hanes Naturiol?

“Ro’n i’n chwilio am radd a fyddai’n fy ngalluogi i weithio’n ddiweddarach ym maes cadwraeth bywyd morol. Er bod llu o raddau fel sŵoleg, ecoleg a bioleg forol ar gael mewn mannau eraill a fyddai’n fy arwain i lawr y llwybr hwn, doedd y modiwlau ddim yn apelio ataf – roedden nhw i gyd yn ymddangos yn ddamcaniaethol iawn ac yn seiliedig ar lyfrau yn hytrach nag yn ymarferol. Ro’n i'n gwybod y byddai tair blynedd nesaf fy mywyd yn cylchdroi o amgylch y radd y byddwn yn ei dewis felly roeddwn i am iddi fod yn un a fyddai'n cynnal fy mrwdfrydedd.

"Mae'r cwrs BSc (Anrh.) Hanes Naturiol(Yn agor mewn tab newydd) yn eich galluogi i astudio llu o bynciau, gan gynnwys sŵoleg, ecoleg, bioleg forol a mwy, gyda’r pwyslais ar sgiliau maes yn y DU a thramor. Roedd hyn yn apelio'n fawr gan fy mod am i'm gyrfa fynd â mi ar draws y byd a byddai'r profiad rhyngwladol y byddai’r cwrs hwn yn ei roi i mi o fudd enfawr."

Pa daith faes oedd yr un fwyaf diddorol i ti fod arni, a pham?

"Fe wnes i fwynhau’r holl deithiau maes yn eithriadol ac roedden nhw’n ddiddorol iawn. Wrth gwrs, roedd Portiwgal a Gwlad yr Iâ yn anhygoel oherwydd eu lleoliad; mae’r amrywiaeth o rywogaethau a thirweddau y gallwn ni eu hastudio yn ddiddorol iawn. Hefyd, mae’r llety’n gyfforddus iawn, er enghraifft, yng Ngwlad yr Iâ, rydych chi’n treulio’r nosweithiau mewn twba twym yn gwylio Goleuni’r Gogledd.

“Y daith i Sir Benfro wnaeth fy synu fwyaf o ran mwynhad. Cyn i ni fynd, doedd y daith heb fy nghyffroi o gwbl, ond mewn gwirionedd roedd y cynnwys yn ddiddorol iawn; ein prif ffocws oedd teulu’r morfil ac roedd y sgiliau a gefais ar y daith hon yn ymwneud yn uniongyrchol â’r hyn ro’n i’n gobeithio ei wneud yn y dyfodol. Mae hyn wedi arwain at gael swydd fel intern gwyddor mamaliaid morol yr haf hwn. Ond, dwi’n meddwl efallai mai’r daith sydd ar y gweill i Botswana fydd yr enillydd – rydyn ni’n treulio pythefnos yn y gwyllt, yn cysgu mewn pebyll ac yn tracio anifeiliaid gwyllt.”

Beth oedd dy hoff fodiwl/maes diddordeb, a pham?

“Maen nhw i gyd wedi bod yn ddiddorol iawn ac mae’r amrywiaeth eang o bynciau’n golygu nad yw’r cynnwys yn mynd yn ddiflas. Roedd rhai nad oeddwn i’n teimlo a oedd yn addas i mi, ond roeddent yn ddifyr iawn, fel palaeontoleg.

"Mae'n debyg mai fy nhraethawd hir yw'r un rwyf wedi ei fwynhau fwyaf oherwydd ein bod yn astudio amrywiaeth o feysydd pwnc a gallwch fynd â'ch prosiect i unrhyw gyfeiriad rydych chi’n dymuno. Mae’r amrywiaeth o feysydd pwnc eleni’n cynnwys rhaglenni dogfen sy’n seiliedig ar y cyfryngau, ynni adnewyddadwy, ecoleg adar ac ymchwil ryngwladol yn y maes i gythreuliaid Tasmanaidd, a drefnwyd gan Operation Wallacea, corff anllywodraethol sy’n gweithio’n agos gyda’r Brifysgol.

"Dewisais gasglu data am fis yn y maes ar forgwn morfilaidd yn y Maldives, gan ymchwilio i'w patrymau thermoreoli. Ro’n i’n gwybod erioed fy mod i eisiau gwneud fy nhraethawd hir dramor gan y byddai'n brofiad gwych ac yn fy helpu i gael swydd yn y dyfodol. Mae'r rhyddid sydd gennych wrth ddewis pwnc yn wych, ac yn fuddiol iawn wrth wneud cais am swyddi ôl-raddedig, gan y gallwch ei deilwra i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar gyfer y math o waith rydych chi am ei wneud. Hefyd, rhoddodd y Brifysgol yr holl gefnogaeth roedd ei hangen arna’ i.”

Enwa bump sgil newydd rwyt ti wedi'u dysgu ar y cwrs hwn a sut maen nhw wedi gwella dy ragolygon gyrfa yn y dyfodol

  1. Sut mae cofnodi data yn y maes yn gywir wrth arsylwi bywyd gwyllt er mwyn amcangyfrif maint y boblogaeth
  2. Sut i gynnal dadansoddiad ystadegol gan ddefnyddio rhaglen broffesiynol SPSS, sydd ei angen ar lawer o gyflogwyr a chyrsiau MSc
  3. Sut i ddefnyddio ArcMap GIS – unwaith eto, dyma ddarn defnyddiol arall o feddalwedd, sy’n eich galluogi i fapio gwybodaeth fiolegol ac sy’n cael ei ddefnyddio’n eang mewn sawl agwedd ar gadwraeth.
  4. Yn y daith sydd ar y gweill i Botswana, byddwn yn dysgu sut i dracio anifeiliaid gwyllt
  5. Mae fy nhraethawd hir wedi dysgu sgiliau i mi ar sut i reoli prosiect mawr, y mae'n rhaid i chi ei gwblhau ar eich pen eich hun, rhywbeth sy’n debygol o fod yn rhan o’m gyrfa yn y dyfodol.

 

Beth wyt ti’n gobeithio ei wneud ar ôl graddio?

“Rydw i wedi llwyddo i sicrhau lle ar interniaeth gyda mamaliaid morol yr haf hwn ym Mhortiwgal. Yn dilyn hynny, rydw i hefyd wedi cael cynnig swydd fel Arweinydd Trywydd Eco o amgylch De Ddwyrain Asia, gyda chorff anllywodraethol y gwnes i wirfoddoli gyda nhw ar brosiect cadwraeth forol yn Cambodia cyn dechrau yn y brifysgol. Rydw i'n gobeithio y bydd y swydd hon yn arwain at ddod yn gydlynydd ymchwil ar un o'u prosiectau rhyngwladol. Yn dilyn hyn, rwy'n gobeithio dechrau MSc mewn Gwyddor Mamalaidd Forol."