Christopher yn rhoi’r clod i Brifysgol De Cymru am ei sgiliau
Mewn cyflwyniad, dylunio a marchnata.
Diwrnodau Agored Gwneud Cais
Penderfynodd Christopher, gweithiwr marchnata proffesiynol medrus o Nigeria, wella ei yrfa drwy ennill gradd mewn rheoli marchnata.
Pan ofynnwyd iddo am ei ddewis o brifysgol, dywedodd, "Wrth ymchwilio i ddewis ysgol, ro’n i'n chwilio am un a oedd yn cynnig gradd marchnata wedi'i hachredu gan y corff marchnata rhyngwladol, CIM. Drwy wneud hynny, rwy’n graddio gyda gradd ac efallai’n cael ardystiad y corff hwn yn y broses. A dyna ni, mi ddes i o hyd i hynny ar Gampws Trefforest Prifysgol De Cymru, mi wnes i gais, cael fy nerbyn, symud i’r DU, ac mae’r gweddill yn hanes.”
Twf oedd hanfod ei brofiad ym Mhrifysgol De Cymru. Dysgodd am farchnata digidol, ac o ran y sgil hon mae’n cyfaddefodd, “Doeddwn i ddim yn dda am wneud hyn cyn dod i Brifysgol De Cymru.” Ar ben hynny, mae’n ychwanegu, “Hefyd, sut i wneud rhai danteithion blasus sy’n tarddu o Gymru. Rydw i wrth fy modd yn coginio.”
Galluogodd ei gwrs iddo weithio gyda'i gyn-gyflogwr, gan roi’r wybodaeth a gafodd ym Mhrifysgol De Cymru ar waith mewn lleoliad gwaith cyfarwydd. Wrth bwyso a mesur y profiad hwn ar leoliad, dywedodd, "Roedd yn werth chweil gallu defnyddio’r wybodaeth rwyf wedi’i dysgu hyd yma i gael effaith cadarnhaol arnynt." Yn ystod y cyfnod hwn, dysgodd sut i ddefnyddio Canva, y cyfeiriodd ato fel “meddalwedd dylunio creadigol sy’n eich galluogi i greu amrywiaeth eang o ddeunyddiau hysbysebu golygyddol. Fel marchnatwr, mae gallu rhoi bywyd i’ch menter drwy ddyluniadau a wnaed gennych chi yn brofiad gwerth chweil.”
Wrth iddo baratoi i ailintegreiddio i’r diwydiant marchnata, mae Christopher yn hyderus bod “y cwrs hyd yma wedi bod yn gwneud yn dda o ran fy mharatoi ar gyfer hynny. Rydw i wedi dysgu sgiliau cyflwyno ac mae’n fantais i mi, credwch fi.” Mae’n canmol Prifysgol De Cymru am fireinio’r sgiliau hyn a oedd, yn ei farn ef, yn wendidau.
Dyma ei gyngor i ddarpar fyfyrwyr: "Os ydych chi am gael seiliau cadarn ym maes marchnata ac yn awyddus i hwn fod yn broffesiwn i chi yn y dyfodol agos, byddai cael gradd mewn marchnata yn eich paratoi'n dda ar gyfer bywyd yn y maes hwn. Mae’n gwrs gwerth chweil.” Mae’n annog dysgwyr y dyfodol i “fod o ddifrif ynglŷn â [chyfleoedd addysgol]. Dydych chi byth yn gwybod ble y bydd yn mynd â chi a dyw gwybodaeth byth yn wastraff.”