Dan Sylw

Mae’r cyfleoedd profiad gwaith yn anhygoel

Myfyriwr ail flwyddyn BA (Anrh) Rheoli Gwestai a Lletygarwch o Brunei yw Esther Zee Wong.

Rheoli Gwesty a Lletygarwch
Esther Zee Wong hospitality and management student standing in celtic manor restaurant

Ar hyn o bryd mae gan Esther rôl oruchwylio yng Nghyrchfan y Celtic Manor ar gyfer ei phrofiad dysgu yn y gwaith.

“Mae’r cwrs Rheoli Gwestai a Lletygarwch yn cynnig y cydbwysedd delfrydol rhwng theori ac ymarfer. Mae’r cyfle i ddysgu yn y gwaith yng Ngwesty’r Celtic Manor wedi bod yn anhygoel. Rydw i wedi cael gweld gwahanol swyddogaethau’r gyrchfan. Drwy fy astudiaethau, rwyf wedi rhoi fy hun mewn sefyllfa dda ar gyfer ystod eang o yrfaoedd mewn diwydiant. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli gwestai, trefnu digwyddiadau a chydlynu cynadleddau a gwleddoedd.

Strwythurwyd y cwrs fel eich bod yn dysgu’r gofynion gweithredol o weithio i westy yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr ail flwyddyn, byddwch chi’n ymgymryd â rôl oruchwyliol yn y gweithle. Rydw i’n gweithio yn yr adran cymhennu ar hyn o bryd, lle rydw i’n cynllunio ac yn rheoli tasgau yn yr adran. Rydw i hefyd yn sicrhau y bodlonnir y safonau uchel sy’n ofynnol gan westy pum seren. Yn y drydedd flwyddyn a’r flwyddyn olaf, byddaf yn gyfrifol am reoli digwyddiad yn y gyrchfan. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hyn.

Ers dechrau’r cwrs, rydw i wedi magu hyder, wedi gwella’r ffordd rydw i’n cyfathrebu ac rydw i hefyd wedi gwella fy sgiliau rheoli amser a gwneud sawl tasg ar unwaith. Mae cymaint mwy y mae’n rhaid i mi ei ddysgu a’i ddatblygu, ond rwy’n edrych ymlaen at yr heriau sydd o’m blaen (yn enwedig y lleoliad y byddaf yn ymgymryd ag ef yn nes ymlaen eleni, gyda Campus Living Villages). Mae'n gwrs dwys, ond mae’n werth chweil ac yn rhoi boddhad llwyr. Mae’n helpu i lunio eich dyheadau o ran gyrfa, gan fod gennych gyfle i brofi’r cyfleoedd sydd ar gael i chi yn y diwydiant lletygarwch.”