Dan Sylw

Pam mae cynaliadwyedd yn allweddol i ddyfodol y diwydiant lletygarwch

Rheoli Gwesty a Lletygarwch
gren recycling logo made of plants on a wooden table

Yn hanesyddol, mae’r diwydiant lletygarwch wedi cael effaith ddramatig ar yr amgylchedd drwy ddefnyddio ynni a dŵr, a defnyddio nwyddau traul.

Gan fod cynaliadwyedd bellach yn broblem i bawb, mae arweinydd blaenorol ein cwrs BA (Anrh.) Rheoli Gwestai a Lletygarwch, Dr Gaurav Chawlea, yn trafod ymateb y diwydiant, a pham ei fod yn un o brif faterion ffocws y cwrs.

Mae llawer yn ystyried mai cynaliadwyedd yw’r allwedd i gael busnes llwyddiannus yn yr 21ain ganrif. Mae cynaliadwyedd neu gyfrifoldeb cymdeithasol yn prysur ddatblygu i fod yn bryder mawr i’r sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, a dyw’r diwydiant gwestai ddim yn eithriad. Ond beth mae’r term hwn yn ei olygu mewn gwirionedd?

Mewn geiriau syml, mae cynaliadwyedd yn golygu y gall ecosystemau naturiol barhau i gynnal bywyd a darparu adnoddau i ddiwallu anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn amlwg, mae’r sector gwestai’n rhoi mwy o bwysau ar yr amgylchedd ac yn rhoi pwysau mawr ar adnoddau naturiol. Fodd bynnag, mae’r diwydiant hefyd yn dibynnu ar yr un amgylchedd naturiol – tirweddau heb eu difetha, traethau tywodlyd, dyfroedd gwyrddlas, rhewlifoedd, rhaeadrau, riffiau cwrel ac awyr iach; pob un ohonynt yn atyniadau gwych i dwristiaid. Felly, mae perygl cynhenid y gallem ni niweidio’r union sail dros gael lletygarwch yn y lle cyntaf.

Ar ben hynny, mae pryderon busnes eraill, fel costau cynyddol, pwysau cynyddol gan y llywodraeth a gweithredoedd cystadleuwyr wedi cymell darparwyr gwestai i gofleidio cynaliadwyedd a’i wneud yn rhan annatod o’r agenda gorfforaethol. Mae twristiaid eu hunain hefyd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o gynaliadwyedd, gan ddisgwyl i westai ysgwyddo cyfrifoldeb a chynnal eu busnes mewn ffordd gynaliadwy.    

Mae’r diwydiant wedi ymateb yn gyflym i’r newidiadau hyn ac yn mynd ati’n gynyddol i droi’n ‘wyrdd’. Rhoddwyd polisïau ac arferion ar waith er mwyn ailgylchu, ailddefnyddio dŵr llwyd, atal gwastraff, lleihau’r defnydd o ynni a lleihau ôl troed carbon. Yn wir, mae’r holl brif ddarparwyr yn y sector gwestai (Hilton Worldwide, Intercontinental Hotel Group, Marriott, Starwood a Carlson Rezidor i enwi rhai) yn cyhoeddi eu hadroddiadau cynaliadwyedd yn rheolaidd, ac yn adrodd am gynlluniau i leihau’r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. I lawer o leoliadau, fel Gwesty’r Green House yn Bournemouth, mae cynaliadwyedd yn rhan o’r profiad craidd, gan mai mantra eu busnes yw ‘difetha’r gwesteion heb ddifetha unrhyw beth arall’. 

Fodd bynnag, mae llawer mwy i gynaliadwyedd na rheoli amgylcheddol, mae hefyd yn ymwneud â chynnydd economaidd a datblygiad cymdeithasol. Mae pryderon cymdeithasol fel cynwysoldeb, hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, hyrwyddo iechyd a lles gweithwyr, caffael cyflenwadau’n lleol ac ysgogi entrepreneuriaeth i gyd yn rhan o’r agenda cynaliadwyedd.

Mae mwy i gynaliadwyedd na bod yn broffidiol, mae hefyd yn golygu dangos synnwyr busnes da. Mae ymchwil yn awgrymu bod mwy a mwy o gwsmeriaid yn fodlon gwobrwyo busnesau sy’n cael eu hystyried yn gynaliadwy drwy brynu cynnyrch a gwasanaethau ganddynt. Mae llawer o lywodraethau ac asiantaethau rhyngwladol (fel yr UE) yn cynnig gwobrau treth a chymhellion ariannol eraill er mwyn hyrwyddo'r achos hwn. Mae tystiolaeth hefyd bod gweithwyr yn teimlo mwy o falchder yn eu gwaith ac felly eu bod yn cymryd mwy o ddiddordeb ac yn fwy cynhyrchiol. Does dim amheuaeth mai profiad cwsmeriaid yw sylfaen lletygarwch, ond mae nawr angen iddynt gael eu gwreiddio ar feddylfryd cynaliadwy.  

Bydd y cwrs BA(Anrh) Rheoli Gwestai a Lletygarwch yn ymgorffori meddwl cynaliadwy drwy gydol eich dysgu, gan eich paratoi ar gyfer yr her o reoli gwesty’n llwyddiannus a lleihau'r ôl troed amgylcheddol ar yr un pryd, a rhoi rhywbeth ychwanegol i chi ei gynnig i gyflogwyr pan fyddwch yn graddio.