Profiad gwaith ymarferol yng Nghyrchfan 5 seren y Celtic Manor
Diwrnodau Agored Gwneud Cais
Bydd cyfle i fyfyrwyr ar y cwrs BA (Anrh) Rheoli Gwestai a Lletygarwch gyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrofiad ymarferol yng nghyrchfan fyd-enwog y Celtic Manor.
Mae’r Celtic Manor yn gyrchfan golff, sba a gwesty hamdden yng Nghasnewydd, De Cymru. Mae’n cynnwys tri gwesty, tafarn wledig, cabanau moethus, dau sba, chwe bwyty, tri chwrs golff safon pencampwriaeth, cyrsiau rhaffau uchel, golff antur a chanolfan gynadledda amlbwrpas. Y gyrchfan 5* oedd y lleoliad ar gyfer Cwpan Ryder 2010 a chynhaliwyd uwchgynhadledd NATO yno yn 2014.
Yn ystod pob blwyddyn o’r cwrs, bydd myfyrwyr yn cwblhau blociau o brofiad gwaith ymarferol yng Nghyrchfan y Celtic Manor, lle byddwch yn ennill amrywiaeth eang o sgiliau sy’n ofynnol ar lefelau gweithredol, goruchwylio a rheoli yn y diwydiant lletygarwch – yn amrywio o’r adran ystafelloedd, bwyd a diod, cynhadledda, gwledda a rheoli digwyddiadau.
Ym mlynyddoedd un a dau, yn ogystal â’ch amser yng Nghyrchfan y Celtic Manor yn ystod y tymor, cewch eich annog hefyd i geisio am waith dros yr haf, naill ai mewn sefydliadau bwtîc llai o faint neu gyda darparwyr gwestai a lletygarwch eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.