Camu i rôl ditectif
Myfyriwr blwyddyn olaf BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yw Lisa Russell. Mae’n sôn am ei phrofiadau ar y modiwl Materion Critigol wrth Ymchwilio i Droseddau.
Diwrnodau Agored Gwneud Cais
“Drwy’r modiwl, rwyf wedi cael profiad ymarferol o sut beth yw gweithio fel ditectif, mewn lleoliad anffurfiol. Gwnaed hyn drwy ymarfer efelychu safle trosedd lle’r oedd yn rhaid i ni weithio mewn timau i ddatrys trosedd. Mae’r profiad wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i mi ar sut mae ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal ac ar rôl y ditectif.
Ar gyfer yr ymarfer, aethpwyd â’n grŵp tiwtorial i safle trosedd ffug ar y campws i ymchwilio i achos o ladd. Roedd yn rhaid i ni archwilio’r corff a’r ardal gyfagos, cofnodi unrhyw dystiolaeth, lluniau teledu cylch cyfyng posibl a chyfweld â thystion a oedd yn bresennol ar y safle. Yna, fe wnaethom barhau â’r ymarfer mewn ystafell digwyddiadau mawr, lle cawsom ddiweddariadau rheolaidd gan uwch swyddogion ymchwilio. Rhoddwyd pytiau o wybodaeth i ni hefyd yn seiliedig ar unrhyw geisiadau a wnaethom; fel canlyniadau unrhyw brofion DNA.
Drwy astudio’r modiwl, rwyf wedi datblygu sgiliau allweddol sy’n cynnwys datrys problemau, gweithio mewn tîm a meddwl yn feirniadol. Mae wedi fy annog i feddwl yn greadigol ac edrych ar bethau o wahanol safbwyntiau. Rwyf wedi dysgu i fod â meddwl agored a pheidio â chanolbwyntio gormod ar un peth yn unig, gan y gallai hynny eich dallu i bosibiliadau eraill. Mae ennill y sgiliau hyn wedi rhoi hyder i mi yn fy ngallu i ymuno â phroffesiwn, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.”