Graddiodd Kayode gyda gradd dosbarth cyntaf ac atgofion a fydd yn para oes
Diwrnodau Agored Gwneud Cais
Beth wnest ti ei astudio ym Mhrifysgol De Cymru a pham?
Astudiais radd Llwybr Carlam LLB y Gyfraith. Penderfynais astudio’r cwrs hwn yn bennaf oherwydd bod y posibilrwydd o astudio gradd lawn yn y gyfraith mewn dwy flynedd yn hytrach na thair (neu fwy mewn gwledydd eraill!) yn apelio ataf. Ar ôl astudio am radd lawn yn fy ngwlad enedigol, roedd y cwrs hwn yn ddelfrydol i mi. Hefyd, wrth bori drwy lyfryn a gwefan y Brifysgol, roeddwn i'n hoff iawn o'r cyfleusterau oedd ar gael a'r cyfle i astudio ar gampws hardd yn y wlad a oedd hefyd yn digwydd bod yn agos at ddinas ffyniannus. Rwy'n credu fy mod wedi gwylio pob fideo ar sianel Youtube Prifysgol De Cymru cyn dod yma i gael blas ar sut beth oedd bywyd myfyriwr yma!
Beth oedd yr adegau gorau i ti drwy gydol dy radd a dy gyflawniadau mwyaf?
Fy nghyflawniadau mwyaf yw graddio gyda gradd dosbarth cyntaf a derbyn gwobr fel y myfyriwr gorau yn fy nosbarth, a chyflawni'r rhain er gwaethaf yr heriau oedd ynghlwm â bod mewn pandemig byd-eang. Roedd llawer o adegau anhygoel eraill drwy gydol y radd. Rwy’n cofio’r ymarfer ffug lys yn y flwyddyn gyntaf, pan wnes i wneud cystal er gwaethaf rhai heriau cychwynnol gyda fy ngrŵp. Roedd hefyd yn deimlad gwych i gael fy newis ar gyfer rhai prosiectau gan y Clinig Cyngor Cyfreithiol a chwrdd â’r Arglwydd Lloyd-Jones, un o Ustusiaid Goruchaf Lys! Mae rhai o'm huchafbwyntiau hefyd yn ddigwyddiadau cyffredin bob dydd fel gwneud ffrindiau da ar fy nghwrs gyda myfyrwyr o bob cwr o'r byd, a rhannu adegau llawn hwyl a heriau academaidd gyda'n gilydd.
Sut oeddet ti’n teimlo am yr addysgu ym Mhrifysgol De Cymru a pha gymorth y cest ti?
O ddiwrnod cyntaf y cyfnod sefydlu, roeddwn i’n teimlo bod y criw hwn o ddarlithwyr wir yn malio am eu myfyrwyr a wir am ein gweld yn llwyddo. Gan fy mod yn dod o gefndir diwylliannol gwahanol, roedd yn sioc i ddechrau i fod yn cyfarch darlithwyr gyda’u henwau cyntaf! O ran cymorth, roedd gan ddarlithwyr bolisi drws agored, a pharhaodd hyn yn rhithwir pan ddechreuon ni ddysgu ar-lein. Doedd dim y fath beth â chwestiwn dwl yn eu barn nhw a doedd dim pryder yn amherthnasol, gan fod pob darlithydd yn mynd i'r afael â'n heriau academaidd a hyd yn oed ein heriau personol mewn ffordd ragweithiol. Roedd yn gwbl normal i gael paned o goffi gyda darlithwyr yn Crawshays (cyn COVID) a rhannu hwyl hyd yn oed wrth astudio cysyniadau cyfreithiol a oedd yn gymhleth ar adegau.
Treuliodd darlithwyr lawer o amser yn rhoi arweiniad digonol ar gyfer pob asesiad, gan sicrhau bod pawb yn deall beth oedd y disgwyliadau. Roedden nhw hefyd wedi ymrwymo i roi adborth cynhwysfawr ar berfformiad ac mae’n rhaid cyfaddef fod hyn wedi fy helpu i wneud yn well mewn asesiadau dilynol. Hyd yn oed pan nad oedd graddau gystal â’r disgwyl, roedden nhw bob amser yn hael yn eu hanogaeth ac yn cynnig beirniadaeth garedig. Roedd pob un ohonyn nhw’n gyfuniad unigryw o arbenigedd a phersonoliaethau unigryw a oedd yn golygu eu bod yn cyflwyno pob modiwl yn dda gyda thalpiau helaeth o gefndir proffesiynol a phrofiadau personol pob darlithydd. Roedd fy narlithwyr yn ei gwneud hi'n hawdd cysylltu'n bersonol â nhw tra'n cynnal eu galluoedd proffesiynol. Gallaf ddweud yn hyderus na fyddwn wedi gwneud hanner cystal ag rwyf wedi gwneud heb gefnogaeth, anogaeth a chyfeillgarwch cyson fy narlithwyr.
Pa brofiadau gawsoch chi wrth weithio gyda Chlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol De Cymru?
Mae’r Clinig Cyngor Cyfreithiol yn un o atyniadau gwych y cwrs gan ei fod yn amgylchedd lle gellir datblygu sgiliau ymarferol dan oruchwyliaeth. Ar ôl dysgu am y gwahanol brosiectau roedd y Clinig yn eu cynnig, gwirfoddolais yn frwd i gymryd rhan yn rhai ohonynt. Cymerais ran yng Nghyfraith y Stryd sy'n brosiect addysg gyfreithiol cyhoeddus yn Nhribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd. Ar ôl cael hyfforddiant ar gyfraith cyflogaeth a gweithdrefn y Tribiwnlys, bydd myfyrwyr yn cyflwyno’n fisol i aelodau o’r cyhoedd sy’n cynrychioli eu hunain mewn gwrandawiadau sydd ar y gweill neu wrandawiadau sy’n mynd yn eu blaen.
Cymerais ran hefyd mewn Cystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid genedlaethol a oedd yn cynnwys prifysgolion o bob cwr o Gymru a Lloegr. Er na wnaethom ni ennill, roedd yn ffordd dda iawn o ennill profiad o ddelio â chleientiaid a sgiliau cyfathrebu gyda chleientiaid. Yn fy mlwyddyn olaf, fe wnes i leoliad 12 wythnos yn y Clinig fel rhan o fodiwl. Yma, fe wnes i fynd i'r afael â gwahanol agweddau o'r gyfraith, dysgu sut i gyfweld â chleientiaid go iawn, gwneud ymchwil ymarferol, a llunio llythyrau cynghori. Cefais hefyd ysgrifennu darn myfyriol estynedig yn manylu ar sut y datblygais sgiliau cyfreithiol craidd fel cyfathrebu, ymchwil, ysgrifennu, gwaith tîm, sgiliau rhyngbersonol a hyder. Mae cwmnïau cyfreithiol, siambrau a sefydliadau nad ydynt yn gyfreithwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau hyn yn fawr.
Drwyddi draw, roedd fy mhrofiadau yn y Clinig yn gyfle rhagorol i ategu fy astudiaethau cyfreithiol academaidd gan fy mod wedi ennill sgiliau proffesiynol go iawn mewn lleoliad lle gallwn wneud camgymeriadau a chael cywiriadau dan arweiniad. Roedd hefyd yn gyfle i gysylltu â’r gymuned leol a’i gwasanaethu gan fy mod yn delio â phobl go iawn a oedd yn cael problemau go iawn ac angen mynediad at gyfiawnder.
Wyt ti’n teimlo bod y cwrs wedi dy baratoi ar gyfer byd gwaith?
Ydw, rwy'n teimlo bod y cwrs wedi cael ei ddylunio mewn ffordd sy’n datblygu cyflogadwyedd myfyrwyr. Er enghraifft, yn y flwyddyn gyntaf, astudiais fodiwl sgiliau cyfreithiol a oedd yn cynnwys sesiynau ar ysgrifennu CVs a llythyrau eglurhaol. Hefyd, mae gan yr ysgol gysylltiadau â llawer o gwmnïau lleol ac roedd y darlithwyr yn aml yn hysbysebu cyfleoedd gwaith. At hynny, mae cynghorydd gyrfaoedd cyfreithiol penodol ac fe wnes i droi atynt sawl gwaith i gael arweiniad ar ysgrifennu ceisiadau a chynnal ffug gyfweliadau.
Mae’n debyg mai’r Clinig Cyngor Cyfreithiol oedd y fforwm gorau i mi er mwyn datblygu fy nghyflogadwyedd wrth i mi ddysgu sgiliau ymarferol go iawn a oedd yn ychwanegiad amhrisiadwy at fy CV. Yn wir, yn fuan ar ôl fy arholiadau terfynol, fe wnes i sicrhau lleoliad byr gydag elusen gyfreithiol o'r enw Advocate (uned pro-bono y Bar). Yn ystod y cyfweliad, roedd bron pob un o’r enghreifftiau a ddefnyddiais i ddangos fy ngalluoedd yn deillio o’m gweithgareddau yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol.
A oes gen ti unrhyw gyngor i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'r cwrs?
Byddwn yn cynghori unrhyw fyfyrwyr sy'n dymuno astudio'r cwrs i fod yn chwilfrydig ac yn feddwl-agored ac yn barod i ddysgu. Byddwn yn dweud wrthyn nhw am beidio â gwrando gormod ar bobl sy’n dweud bod y gyfraith yn anodd, a’i fod yn hytrach yn un o’r pynciau mwyaf diddorol y gallai unrhyw un ei astudio. Byddwn yn cynghori myfyrwyr i ymgysylltu â'r cwrs, mae cymaint ar gael a gall y darlithwyr roi cymaint o gefnogaeth. Gofynnwch gwestiynau bob amser, does dim y fath beth a chwestiynau twp yn yr ysgol gyfraith hon ac mae darlithwyr bob amser yn awyddus i roi atebion neu eich cyfeirio lle bo hynny’n briodol.
Hefyd, byddwn yn eich cynghori i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Clinig Cyfreithiol. P'un ai a ydych am ymarfer y gyfraith wedyn ai peidio, mae'n amgylchedd amhrisiadwy i ddysgu sgiliau ymarferol y gallwch eu trosglwyddo i'r rhan fwyaf o swyddi a hyd yn oed i hunangyflogaeth.