Mynd i'r afael â: Seiberddiogelwch

Camwch i ddyfodol diogelwch digidol gydag amrywiaeth o brofiadau ymarferol wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr 16 – 18 oed.

Cysylltwch â ni i drefnu eich lle
student in red hoodie with black hat, working at desk, handling electronic equipment

Camwch i ddyfodol diogelwch digidol gydag amrywiaeth o brofiadau ymarferol wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr 16 – 18 oed.

Yn gartref i Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol Cymru (NCSA), mae Prifysgol De Cymru – a gydnabyddir fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd (ACE) mewn addysg seiberddiogelwch – yn eich gwahodd i ddiwrnod rhyngweithiol wedi’i gynllunio i ddatblygu a gwella eich gwybodaeth, sgiliau a hyder yn y maes seiberddiogelwch.

Trwy sesiynau ymarferol, diddorol, byddwch yn archwilio meysydd allweddol fel:

  • Peirianneg Gymdeithasol – Dysgwch sut mae ymosodwyr yn manteisio ar ymddygiad dynol.
  • Diogelwch Rhwydwaith – Darganfyddwch sut i ddiogelu systemau a data rhag bygythiadau seiber.
  • Deallusrwydd Ffynhonnell Agored (OSINT) – Ymchwiliwch i sut y gellir defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ar gyfer dadansoddi.
  • Fforensig Ddigidol – Datgelwch y technegau a ddefnyddir i adfer a dadansoddi tystiolaeth ddigidol.


P’un a ydych yn chwilfrydig am fygythiadau seiber neu’n ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch, bydd y profiad hwn yn eich helpu i feithrin sgiliau hanfodol a chael cipolwg ar y rolau cyffrous sy’n llunio dyfodol diogelwch ar-lein.

Dyddiadau

  • 22 Ebrill 2026
  • 8 Gorffennaf 2026