Bioleg yn y Parc

Ymunwch â ni ar gyfer Bioleg yn y Parc, diwrnod o ddarganfod ym Mharc Margam.

Neilltuwch eich lle
schools-colleges-event-biology-in-the-park

Ymunwch â ni ar gyfer Bioleg yn y Parc, diwrnod o ddarganfod ym Mharc Margam.

Camwch i fyd diddorol bioleg yn un o fannau gwyrdd harddaf De Cymru. Mae'r digwyddiad hwyliog ac addysgiadol hwn yn llawn gweithgareddau a heriau ymarferol dan arweiniad arbenigwyr mewn ecoleg, bywyd gwyllt a chadwraeth o Brifysgol De Cymru a sefydliadau partner.

Beth sydd ar y gweill?

  • Cystadleuaeth tîm gyda gwobrau - A fydd eich ysgol neu goleg yn cipio'r goron?
  • Archwilio ecosystem fach - Rhowch gynnig ar dechnegau go iawn a ddefnyddir mewn ecoleg a chadwraeth.
  • Heriau arsylwi - Profwch eich sgiliau a datgelwch amrywiaeth anhygoel bywyd o'n cwmpas.

Dyddiadau

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 (neu gyfwerth) sy'n awyddus i ddysgu am ddyfodol biolegol cynaliadwy, ecoleg, a chadwraeth bywyd gwyllt.

Mae cymorth trafnidiaeth ar gael ar gais.

Mwy o fanylion am y digwyddiad