Gwasanaethau Busnes

Hub Ymgysylltu Casnewydd

Mae Hub Ymgysylltu Casnewydd yn ofod dynamig sydd wedi'i gynllunio i ysbrydoli cydweithio, meithrin arloesedd, a gyrru twf.

Archebwch daith Archebwch ystafell gyfarfod
Meeting taking place with view of Newport

Gyda chyfoeth adnoddau Cyfnewidfa PDC a phŵer entrepreneuraidd Stiwdio Sefydlu, dyma lle mae syniadau yn ffynnu, perthnasoedd yn cael eu meithrin, a chyfleoedd ar gyfer arloesedd a thwf yn dod yn fyw. Hub Ymgysylltu Casnewydd yw eich porth i gydweithio, creadigrwydd a llwyddiant.


Archebwch ystafell

Newport Engagement Hub meeting room
Newport Engagement Hub pod meeting room
Newport Engagement Hub boardroom

student-25

Cyfnewidfa PDC

Mae Cyfnewidfa PDC yn borth i adeiladu partneriaethau cryf a chydweithredol sy’n gyrru arloesedd ac yn mynd i’r afael â heriau byd-eang. Rydym yn cysylltu busnesau, sefydliadau ac entrepreneuriaid ag arbenigedd y brifysgol, gan feithrin cyfnewid gwybodaeth a chreu cyfleoedd ar gyfer cydweithio ystyrlon.

Fel prif bwynt cyswllt ar gyfer ymgysylltu busnesol, mae ein tîm ymroddedig o Reolwyr Ymgysylltu yn cynnig cymorth wedi’i deilwra, gan gynnwys mynediad at arbenigedd academaidd, cyfleoedd ymchwil, a chyfeirio at gyllid. P’un a ydych yn chwilio am ddatblygu syniadau newydd, cael mynediad at wybodaeth arbenigol, neu adeiladu partneriaethau hirdymor, mae Cyfnewidfa PDC yma i’ch helpu i wneud gwahaniaeth.


Hub Ymgysylltu Casnewydd Archebwch daith

Archebwch nawr
student-25

Stiwdio Sefydlu

Mae Stiwdio Sefydlu yn Hub Ymgysylltu Casnewydd yn ofod bywiog sydd wedi’i gynllunio i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau newydd eu sefydlu. Rydym yn cynnig rhaglen gymorth fusnes bwrpasol, gan ddarparu mynediad at arbenigwyr diwydiant, mentora, a lle gwaith cydweithredol croesawgar. P’un a ydych angen lle proffesiynol i gwrdd â chleientiaid, gofod gwaith hyblyg, neu gyfle i ehangu eich rhwydwaith, mae Stiwdio Sefydlu yma i’ch helpu i dyfu.

Mae aelodau’n cael mynediad at ystod o ddigwyddiadau busnes, siaradwyr ysbrydoledig, a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i gysylltu ag entrepreneuriaid o’r un anian. P’un a ydych newydd ddechrau neu’n barod i dyfu, mae Stiwdio Sefydlu yn darparu’r adnoddau, y gymuned, a’r cymorth i helpu’ch busnes i lwyddo.


Cwestiynau Cyffredin

Mae Hub Ymgysylltu Casnewydd yn ofod cydweithredol wedi’i gynllunio i ddod â busnesau, start-ups, myfyrwyr ac academyddion ynghyd i feithrin arloesedd, cyfnewid gwybodaeth, a phartneriaethau. Mae’r hub yn gartref i Cyfnewidfa PDC, Stiwdio Sefydlu, Clinig Busnes Ysgol Busnes De Cymru, a thimau ymgysylltu allanol.

Gall oriau agor Hub Ymgysylltu Casnewydd amrywio yn dibynnu ar ddigwyddiadau a bwcio’r gofod. Fel arfer, mae’r hub ar agor yn ystod oriau safonol y brifysgol:

Dydd Llun – Dydd Gwener: 9:00 AM – 5:00 PM

Ar gyfer oriau agor penodol, oriau estynedig, neu fynediad ar benwythnosau, cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu yn uniongyrchol.

Gallwch archebu gofod drwy gysylltu â thîm Ymgysylltu PDC.

Ie! Mae’r hub wedi’i gynllunio i gefnogi busnesau, start-ups, a sefydliadau cymunedol sy’n chwilio am gyfleoedd i gydweithio gyda myfyrwyr ac academyddion PDC.

Mae manylion prisio yn dibynnu ar natur yr archeb. Mae gofodau am ddim i’w defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, cydweithio, a gweithgareddau di-fasnachol i aelodau Rhwydwaith Cyfnewidfa, aelodau Stiwdio, ac ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig â PDC. Fodd bynnag, os yw busnes yn defnyddio’r gofod at ddibenion masnachol, megis cyflwyno hyfforddiant neu ddigwyddiadau taledig, bydd tâl yn berthnasol. Cysylltwch â ni am fanylion prisio.

Mae’r hub yn cynnal amrywiaeth o weithdai, digwyddiadau cymorth busnes, digwyddiadau rhwydweithio, clinigau busnes, darlithoedd gwadd, a sesiynau mentora ar gyfer start-ups. Cadwch lygad ar ein calendr digwyddiadau am gyfleoedd sydd i ddod.

Dilynwch Cyfnewidfa PDC a Stiwdio Sefydlu ar gyfryngau cymdeithasol, neu cofrestrwch i’n Rhwydwaith Cyfnewidfa i dderbyn newyddlen reolaidd sy’n cynnwys ein rhaglen ddigwyddiadau sydd ar ddod, cyfleoedd rhwydweithio, a’r wybodaeth ddiweddaraf am gydweithio ac arloesedd ledled PDC.

Mae’r hub wedi’i leoli yn Campws Casnewydd PDC ac mae’n hawdd ei gyrraedd trwy drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car.

Prifysgol De Cymru
Usk Way,
Casnewydd,
NP20 2BP

Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Sut i gyrraedd Campws Casnewydd.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, archebion, neu gyfleoedd partneriaeth, cysylltwch â ni.

Mae’r hub ar agor i bartneriaid allanol, busnesau lleol, entrepreneuriaid, grwpiau cymunedol, aelodau Stiwdio, cyn-fyfyrwyr PDC, ac academyddion. Mae wedi’i gynllunio i gefnogi rhwydweithio, twf busnes, a chydweithio.