Destiny Kirk

Sylfaenydd Yellow Hat Digital Marketing

Straeon Hwb Ymgysylltu
Destiny Kirk

Mae'r Hyb wedi rhoi gofod proffesiynol i fi weithio, cwrdd â chleientiaid a gwneud cysylltiadau newydd, ac osgoi’r pethau sy’n tynnu’r sylw pan fo rhywun yn gweithio o gartref.


I Destiny Kirk, sy’n arbenigo mewn marchnata digidol ac yn siaradwr cyhoeddus llawrydd, roedd dod o hyd i'r gweithle cywir yn golygu mwy na dim ond cael desg, roedd hefyd yn golygu dod o hyd i le lle gallai wir ganolbwyntio, teimlo bod gwir groeso iddi, a thyfu ei busnes.

Yn wreiddiol o Bermuda a bellach yn byw yn Abertyleri, mae Destiny wedi bod yn rhedeg ei busnes ers chwe blynedd. Yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol De Cymru, gwnaeth Destiny ddarganfod Hyb Ymgysylltu Casnewydd ar ôl cynnal cyfres o weithdai cyfryngau cymdeithasol yno, a sylweddolodd y byddai’n lle delfrydol iddi hi weithio.

Mae gweithio o bell yn aml yn golygu dewis rhwng goddef y cyfan sy’n tynnu sylw gartref neu oddef amgylchedd swnllyd caffis. Roedd Destiny eisiau rhywbeth gwahanol: amgylchedd proffesiynol, croesawgar lle gallai weithio'n gyfforddus, cwrdd â chleientiaid, a bod yn gynhyrchiol heb deimlo dan bwysau i brynu paneidiau di-ri’ i gyfiawnhau defnyddio sedd.

Drwy gynnig mannau cyfarfod â chleientiaid a chyfleoedd i adeiladu cysylltiadau proffesiynol newydd, mae'r Hyb wedi dod yn rhan hollbwysig o'i busnes. Mae wedi agor drysau i gydweithrediadau pellach ac wedi darparu amgylchedd cefnogol i weithio ynddo ac i ymgysylltu ag eraill.

Ac ydy, medd Destiny, mae'r peiriant siocled poeth (am ddim) yn haeddu sylw arbennig hefyd.

Ond yn ogystal â’r lluniaeth, mae’r Hyb yn cynnig rhywbeth nad yw’n wir ymhob man cydweithio: sef gwir ymdeimlad o berthyn. Yn hytrach na theimlo fel ei bod hi'n camu i ganol gofod rhywun arall, roedd y croeso’n gynnes o'r diwrnod cyntaf un.

Mae'r teimlad hwnnw'n rhan fawr o’r rheswm dros ddefnyddio’r Hyb fel ei gweithle, er gwaethaf y daith o Abertyleri.

Ei neges i weithwyr llawrydd eraill, gweithwyr o bell, a pherchnogion busnesau? "Mae 100% yn werth bod yma."

Boed yn chwilio am ddesg dawel, am ystafell gyfarfod broffesiynol i gwrdd â chleientiaid, neu am le hyblyg i gynnal gweithdai, mae Hyb Ymgysylltu Casnewydd yn cynnig amgylchedd croesawgar sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i ffynnu – a’r cyfan heb gost.