ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli
Dewch i ddarganfod a datblygu’r cryfderau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn gyda rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth Prifysgol De Cymru.
Datblygiad Proffesiynnol Archebwch eich lleAr gyfer rheolwyr canol sydd am ysgogi newid, magu hyder a chymryd y cam nesaf i arweinyddiaeth.
Bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn barod i arwain. Trwy ddysgu drwy brofiad, byddwch yn herio eich agwedd, yn ogystal â nodi cyfleoedd i’ch sefydliad ddod o hyd i ddatrysiadau digidol mwy effeithiol, esblygu ei ecosystemau a sbarduno newid ystyrlon. Mae arweinwyr go iawn yn dychmygu beth sy’n bosibl, ac yn helpu eu pobl i wneud i hynny ddigwydd. P’un ai a ydych chi’n rheolwr canol ar hyn o bryd neu’n dyheu i fod yn arweinydd, rhowch hwb i’ch llwybr at lwyddiant drwy fynd â’ch sgiliau i lefel newydd, a datblygu i fod y grym trawsnewidiol sydd ei angen ar eich sefydliad.
Am y Cwrs
Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i wneud y canlynol:
- Deall y rôl hanfodol y mae’r naill a’r llall yn ei chwarae o ran cyflawni perfformiad uchel
- Canolbwyntio ar ddeall a chymhwyso theori tîm mewn amgylchedd gwaith modern
- Archwilio’r sgiliau rhyngbersonol hanfodol sydd eu hangen ar arweinydd heddiw
- Creu awyrgylch sy’n annog arloesi
- Datblygu hunanymwybyddiaeth a dod yn arweinydd mwy effeithiol
- Ehangu eich rhwydwaith personol a phroffesiynol
Byddwn yn ymdrin â sbectrwm eang o bynciau, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr hanfodion mewn manylder. Dyma sut mae’r cynnwys yn cael ei rannu ar draws y modiwlau:
- Y Cyd-destun Arweinyddiaeth
- Cyflawni Perfformiad Uchel
- Yr Arweinydd Hyfforddi
- Adeiladu a datblygu timau
- Sgyrsiau Dewr
- Ffynnu ar sail atebolrwydd a Sicrhau Canlyniadau
- Deall y rhifau
- Sbarduno Trawsnewid Digidol
- Rheoli Arloesedd a Newid
Rydym ni wedi creu’r cwrs ar gyfer unigolion sydd â chyfrifoldeb rheoli, naill ai ar lefel rheolwyr canol ar hyn o bryd, neu sydd yn dyheu i ddringo’r ysgol. Os ydych chi’n awyddus i ddysgu hanfodion newid trawsnewidiol, fe wnawn ni eich arfogi.
Disgwyl y Profiadol
Mae Datblygiad Proffesiynol Prifysgol De Cymru yn cynnig dysgu drwy brofiad o dan arweiniad arbenigwyr. Mae pob cwrs wedi’i gynllunio i roi’r profiad dysgu gorau posibl i chi. Gallwch ddisgwyl gadael ein rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda’r offer a’r technegau sydd eu hangen arnoch i ffynnu, ond dyma beth i’w ddisgwyl o’r cwrs ei hun:
Amgylchedd Rhithwir
Rydym yn cyflwyno dysgu rhithwir mewn amser real, gydag arweinwyr go iawn wrth y llyw. Mae amrywiaeth o adnoddau amlgyfrwng, sgyrsiau byw ac ystafelloedd ymneilltuo ar gael, sy’n creu amgylchedd trochi ar-lein i ymgysylltu ag ef.
Dysgu Atyniadol
Byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o fformatau, o weithdai i heriau grŵp cydweithredol.
Siaradwyr Arloesol
Mae ein hwyluswyr arloesol ymysg rhai o'r goreuon yn y maes, ac maent yn meddu ar wybodaeth eang am theori ac ymarfer i rannu gyda chi.
Rhwydweithio a Rhannu Gwybodaeth
Rydym ni’n cadw’r niferoedd yn gyfyngedig er mwyn creu awyrgylch mwy personol, sy’n golygu bod digon o gyfleoedd i gysylltu ac i rwydweithio â hyfforddwyr a’r rheini sy’n bresennol.
Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cynnwys, gofynnwn i chi ymrwymo’n llawn i’r broses. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan weithredol mewn 7 gweithdy diwrnod llawn rhithwir, ochr yn ochr â dysgu hunan-gyfeiriedig rhwng sesiynau, sy'n para tua 10 awr yn ystod y rhaglen.
Mae Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dangos sut rydych chi’n datblygu eich gallu i arwain a rheoli. Mae'r dasg asesu yn eich galluogi i gysylltu eich dysgu'n uniongyrchol â phrofiadau yn eich sefydliad, gan ofyn i chi gyfuno theori ag ymarfer.
Byddwch yn creu:
- 2 aseiniad ysgrifenedig o 2,500 o eiriau ar faes cyfrifoldeb.
Gellir cyflwyno’r cwrs uchod drwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni pwrpasol yn eich sefydliad. Os ydych chi’n awyddus i gael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu eich sefydliad, edrychwch ar ein llwybrau cyllido neu gwnewch ymholiad i siarad â’n cynghorwyr.
Cost
Mae cymhwyster ILM Lefel 5 yn costio £1,695.00, sy’n cynnwys holl ddeunyddiau’r cwrs a chofrestru. Cadwch eich lle drwy lenwi ein ffurflen archebu.
Mae prentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn ar gael hefyd. Gwnewch ymholiad i drefnu ymgynghoriad.
Dyddiadau'r Cwrs:
- Anwythiad: 15 Hydref 2024
- Dyddiad dechrau: 22 Hydref 2024
- Sesiynau a Addysgir: 19 Tachwedd, 11 Rhagfyr, 14 Ionawr 2025, 11 Chwefror 2025, 12 Mawrth 2025 a 2 Ebrill 2025.
Mae Meddwl Agored yn Agor Drysau
Dysgu drwy brofiad yw’r ffordd orau o wneud cynnydd. Mae cynnwys y rhaglen hon yn herio eich ffyrdd o wneud pethau a’ch meddylfryd er mwyn rhyddhau eich arweinydd mewnol. Dewch yn barod i drafod, ac yn anad dim, i gofleidio arddulliau a sgiliau newydd.
Archebwch lle nawr