Datblygiad Proffesiynnol

ILM Lefel 7 Arwain a Rheoli

Darganfyddwch a datblygwch y cryfderau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gyda'n cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth ILM Lefel 7.

Datblygiad Proffesiynnol Archebwch lle nawr
A group of businesspeople talking around a table in an office.

Mae angen set unigryw o sgiliau ac ymddygiadau i ddod yn arweinydd dros newid



Am y Cwrs

Bydd y rhaglen hon a gymeradwyir gan ILM yn eich helpu i wneud y canlynol:   

  • Gwneud penderfyniadau mwy cydweithredol i rymuso eraill   
  • Rheoli disgwyliadau cynyddol gweithwyr, cwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid eraill   
  • Sbarduno trawsnewid digidol yn eich sefydliad   
  • Adeiladu a defnyddio ecosystemau i annog arloesedd a gwytnwch   
  • Meithrin ymdeimlad cyffredin o bwrpas ar bob lefel   
  • Datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddulliau damcaniaethol o arwain   
  • Datblygu hunanymwybyddiaeth a dod yn arweinydd mwy effeithiol   
  • Ehangu eich rhwydwaith personol a phroffesiynol   

Byddwn yn ymdrin â sbectrwm eang o bynciau, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr hanfodion mewn manylder.  

Dyma sut mae’r cynnwys yn cael ei rannu ar draws sesiynau:   

  • Datblygu eich Sgiliau Arwain Uwch   
  • Yr Amgylchedd Arwain Strategol    
  • Deallusrwydd Emosiynol a Gwneud Penderfyniadau      
  • Arwain Trawsnewid Digidol   
  • Arweinyddiaeth Strategol – Datblygu Strategaethau, Offer a Thechnegau   
  • Datblygu Uwch Arweinyddiaeth – Meddwl yn Feirniadol   
  • Datblygu Uwch Arweinyddiaeth – Gwybyddiaeth Meta   
  • Arwain Prosiectau a Rhaglenni   

Rydym ni wedi creu’r cwrs ar gyfer unigolion sydd â llawer o gyfrifoldeb rheoli, naill ai ar lefel uwch ar hyn o bryd, neu sydd yn dyheu i ddringo’r ysgol. Os ydych chi’n awyddus i ddysgu strategaethau newid trawsnewidiol, fe wnawn ni eich arfogi.  

Disgwyl y Profiadol   

Mae Datblygiad Proffesiynol Prifysgol De Cymru yn cynnig dysgu drwy brofiad o dan arweiniad arbenigwyr. Mae pob cwrs wedi’i gynllunio i roi’r profiad dysgu gorau posibl i chi. Gallwch ddisgwyl gadael ein rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda’r offer a’r technegau sydd eu hangen arnoch i ffynnu, ond dyma beth i’w ddisgwyl o’r cwrs ei hun:  

Amgylchedd Rhithwir   

Rydym yn cyflwyno dysgu rhithwir mewn amser real, gydag arweinwyr go iawn wrth y llyw. Mae amrywiaeth o adnoddau amlgyfrwng, sgyrsiau byw ac ystafelloedd ymneilltuo ar gael, sy’n creu amgylchedd trochi ar-lein i ymgysylltu ag ef.    

Dysgu Atyniadol   

Byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o fformatau, o weithdai i heriau grŵp cydweithredol.   

Siaradwyr Arloesol   

Mae ein hwyluswyr arloesol ymysg rhai o'r goreuon yn y maes, ac maent yn meddu ar wybodaeth eang am theori ac ymarfer i rannu gyda chi.   

Rhwydweithio a Rhannu Gwybodaeth   

Rydym ni’n cadw’r niferoedd yn gyfyngedig er mwyn creu awyrgylch mwy personol, sy’n golygu bod digon o gyfleoedd i gysylltu ac i rwydweithio â hyfforddwyr a’r rheini sy’n bresennol.   

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cynnwys, gofynnwn i chi ymrwymo’n llawn i’r broses. Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan weithredol yn y sesiwn sefydlu a 9 gweithdy rhithiol diwrnod llawn, ochr yn ochr â dysgu hunan-gyfeiriedig rhwng sesiynau: sy'n para tua 10 awr yn ystod y rhaglen.    

Mae Tystysgrif Lefel 7 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol yn dangos sut rydych chi’n datblygu eich gallu i arwain a rheoli yn strategol. Mae'r dasg asesu yn eich galluogi i gysylltu eich dysgu'n uniongyrchol â phrofiadau yn eich sefydliad, gan ofyn i chi gyfuno theori ag ymarfer.    

Byddwch yn creu: 

  • 1 aseiniad ysgrifenedig rhwng 5,000 a 6,000 o eiriau ar drawsnewid digidol strategol yn eich maes cyfrifoldeb.   
  • 3 fideo MP4, 5 i 10 munud o hyd, yn canolbwyntio ar y tri phwnc hyn: 
    • Myfyrdodau beirniadol ar fy arddull arwain a fy natblygiad personol   
    • Myfyrdodau beirniadol ar arweinyddiaeth yng nghyd-destun fy sefydliad   
    • Myfyrdodau beirniadol ar fy ngallu i arwain newid 

Mae’r rhaglen yn costio £1,995.00, sy’n cynnwys holl ddeunyddiau’r cwrs a chofrestru gydag ILM.  

Dechrau Hydref 2025

  • Ymsefydlu: 9 Hydref 2025
  • Sesiynau a addysgir: 15 Hydref (yn bersonol), 11 Tachwedd, 27 Tachwedd, 10 Rhagfyr, 7 Ionawr, 10 Chwefror, 10 Mawrth, 15 Ebrill (yn bersonol) a 13 Mai.

Fformat: Trwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir. 

Gellir cyflwyno’r cwrs uchod drwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni pwrpasol yn eich sefydliad. Os ydych chi’n awyddus i gael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu eich sefydliad, edrychwch ar ein llwybrau cyllido neu gwnewch ymholiad i siarad â’n cynghorwyr. 

Mae Meddwl Agored yn Agor Drysau

Dysgu drwy brofiad yw’r ffordd orau o wneud cynnydd. Mae cynnwys y rhaglen hon yn herio eich ffyrdd o wneud pethau a’ch meddylfryd er mwyn rhyddhau eich arweinydd mewnol. Dewch yn barod i drafod, ac yn anad dim, i gofleidio arddulliau a sgiliau newydd.

Archebwch eich lle nawr