Rhaglen Arweinyddiaeth i Fenywod
Kate Hillier
Defnyddiais y rhaglen fel llwyfan i wella fy hun, magu hyder a meithrin y rhwydwaith roedd angen arnaf i symud ymlaen.
Dod o hyd i'r hyder i gymryd y cam nesaf
Ar ôl 20 mlynedd ym myd addysg, dechreuodd Kate Hillier ystyried newid i yrfa newydd. Ond pan ddaeth cyfle i'r amlwg y tu allan i faes addysg, roedd hi bron â phenderfynu peidio â gwneud cais. Nid oedd hi'n credu ei bod yn bodloni pob rhan o feini prawf y swydd.
Rhoddodd y Rhaglen Arweinyddiaeth i Ferched yr hyder i Kate feddwl yn wahanol am yr hyn oedd ganddi i'w gynnig ac, yn bwysicach fyth, i fanteisio ar y cyfle.
"Roeddwn i bron â rhwystro fy hun rhag gwneud cais am nad oeddwn i'n credu fy mod yn bodloni pob rhan o feini prawf y swydd, ond fe wnaeth y rhaglen fy annog i feddwl yn wahanol, manteisio ar y cyfle a mynd amdani. Dyma'r peth gorau rydw i wedi'i wneud erioed."
I Kate, rhoddodd y rhaglen gyfle i gamu'n ôl oddi wrth bwysau dyddiol bywyd gwaith ac ystyried beth oedd hi eisiau ei wneud nesaf. Arhosodd y syniad o "chwyddo i mewn a chwyddo allan" (neu edrych yn fanwl ac edrych ar y darlun ehangach) yn ei meddwl yn arbennig; fe'i hannogodd i edrych ar ei gyrfa o safbwynt gwahanol ac ystyried beth y gallai ei wneud yn wahanol.
Fe wnaeth y rhaglen hefyd ei chyflwyno i fenywod oedd yn gweithio ar draws sectorau gwahanol ac ar lefelau arweinyddiaeth amrywiol. Er gwaethaf eu profiadau gwahanol, gwelodd Kate fod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, gan greu amgylchedd lle gallai ddysgu gan eraill, rhannu profiadau a meithrin cysylltiadau dilys.
Mae'r perthnasoedd hynny wedi parhau ar ôl diwedd y rhaglen, gan roi rhwydwaith o fenywod i Kate y gall droi atynt am gyngor, safbwyntiau newydd, cyfeillgarwch a chefnogaeth.
"Defnyddiais y rhaglen fel llwyfan i wella fy hun, magu hyder a meithrin y rhwydwaith roedd angen arnaf i symud ymlaen."
Bellach mewn swydd newydd y tu allan i faes addysg, mae Kate yn parhau i ddefnyddio'r hyn a ddysgodd, yn enwedig pwysigrwydd arweinyddiaeth sy'n dangos empathi a chymryd yr amser i ddeall beth allai cydweithwyr fod yn ei brofi, yn bersonol ac yn broffesiynol.