Cyrsiau Byr

Niwed i'r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol

Bydd y cwrs ar-lein hwn yn gwella eich ymwybyddiaeth o, a’ch gwybodaeth am Niwed i’r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol

Archebwch eich lle Cyrsiau Byr
Person with brain injury

Dewch i ddeall cymhlethdodau datblygiad, adnabyddiaeth a chymorth ARBD drwy fodiwlau hyfforddi penodedig ar gyfer: Cefndir, Datblygiad, Rheolaeth a Chymorth, ac Argymhellion Arferion.


Manylion y Cwrs

Dyluniwyd y cwrs hwn i wella eich ymwybyddiaeth o Niwed i’r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol. Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth ynghylch achoseg, nifer yr achosion a’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig ag ARBD. Amlinellir trosolwg o’r dystiolaeth gyfredol sy’n sail i asesiadau a gofal parhaus i’r sawl sy’n byw gyda ARBD.

Yn dilyn hyn, cynigir canllawiau i’ch helpu i ddefnyddio’r wybodaeth hon yn eich arferion beunyddiol, yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â diogelu ac asesiadau capasiti mewn oedolion agored i niwed.

Mae dwy Haen gydag adnoddau cysylltiedig i’w lawrlwytho. Mae Haen 1 ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae Haen 2 yn cynnig gwybodaeth fwy manwl ar gyfer ymarferwyr sydd yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â gofal penodol a chymorth i’r rhai sydd ag ARBD.

Mae pob haen o’r hyfforddiant yn cynnwys modiwlau. Er mwyn gallu symud ymlaen i Haen 2, rhaid cwblhau Haen 1 yn gyntaf. Caiff y modiwlau canlynol eu cynnwys:

Modiwlau Cwrs Haen 1 (yn cymryd 2-4 awr i’w cwblhau):

  • Cefndir: Amcangyfrifon mynychder poblogaeth, amodau cysylltiedig, a ffactorau risg.
  • Datblygiad: Ffactorau corfforol, seicolegol ac ymddygiadol allweddol gan gynnwys cyngor ac arweiniad cyfredol ynghylch yfed alcohol.
  • Adnabod: Meini prawf a phrosesau adnabod, sgrinio ac asesu; Nodweddion a nodweddion cysylltiedig ag ARBD.
  • Rheolaeth a Chymorth: Trosolwg o argymhellion rheoli arfer gorau cyfredol, gan nodi gwybodaeth cyfeirio a chynnig awgrymiadau ar gyfer arfer o ddydd i ddydd, waeth beth fo'ch rôl.
  • Argymhellion cymorth a gofal ehangach: Trafodir ystyriaethau ymarferol mewn perthynas â gweithio gydag unigolion ag ARBD ac atal llithro'n ôl.

Modiwlau Cwrs Haen 2 (yn cymryd 6-8 awr i’w cwblhau):

  • Cefndir: Yn ymdrin â chymhlethdodau sefydlu amcangyfrifon mynychder; unigolion a niwed cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag anhwylderau defnyddio alcohol; trafodaeth fanwl am gydran gwrthdroadwyedd ARBD.
  • Datblygiad: Mae'n darparu gwybodaeth fanylach mewn perthynas â'r cysylltiad rhwng yfed alcohol a datblygiad namau gwybyddol, ymddygiadol a swyddogaethol.
  • Adnabod: Cipolwg ar gymhlethdodau asesu gwybyddol a diagnosis o ARBD. Trosolwg o bwysigrwydd gwaith amlddisgyblaethol ac asesiadau cyfannol.
  • Rheolaeth a Chymorth: Canllawiau ac argymhellion rheoli cyfredol, gan gynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth thiamine, cyfoethogi diet a maeth, a strategaethau gwybyddol.
  • Argymhellion cymorth a gofal ehangach: Adran bwrpasol ar ddiogelu, eiriolaeth ac asesu gallu unigolion â nam gwybyddol yn ymwneud ag ARBD.

Mae Haen 1 yn berthnasol i bawb sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r wybodaeth wedi’i churadu er mwyn bod yn berthnasol beth bynnag fo’ch swyddogaeth neu gefndir.

Mae Haen 2 yn fwy manwl ac yn cynnig mwy o fanylion ym mhob cam. Felly, bwriedir yr haen hon ar gyfer pobl sy’n ymwneud yn fwy uniongyrchol â gofal a chymorth y rhai sydd ag ARBD, yn cynnwys rhai sy’n cynllunio neu’n cynnal gwasanaethau. Er enghraifft:

  • Gweithwyr Cymorth Alcohol
  • Gwasanaethau cymunedol ac aciwt Staff y Tîm Gofal Alcohol
  • Timau gofal sylfaenol a nyrsio ardal
  • Seicolegwyr arbenigol a therapyddion galwedigaethol
  • Meddygon teulu
  • Sefydliadau iechyd cyhoeddus
  • Llywodraeth, y trydydd sector a chomisiynwyr y GIG
  • Staff meddygol acíwt
  • Rheolwyr gwasanaeth
  • Seiciatryddion

  • Mae astudio cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) byr ym Mhrifysgol De Cymru yn cynnig nifer o fanteision, mae’n ffordd hyblyg i symud ymlaen ym maes yr yrfa o’ch dewis, ymestyn eich gwybodaeth a chael cydnabyddiaeth.
  • Mae’r rhaglen ar gael ar blatfform digidol y mae modd mynd ato ar unrhyw adeg, gan wneud dysgu’n fwy hyblyg i gyd-fynd â’ch amserlen.
  • Cynhelir asesiadau byr drwy gydol y cwrs i wirio’r dysgu, gydag asesiad ar ddiwedd y cwrs a fydd, o’i gwblhau, yn cynnig cymhwyster digidol i chi o’ch portffolio CPD. Mae’r cwrs CPD ar-lein yn unig hwn yn cynnig dysgu, ble y gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun er mwyn cyd-fynd â’ch amserlen waith brysur. I gofrestru eich diddordeb ac am fwy o wybodaeth, byddwch cystal â llanw ein ffurflen ymholiad.
  • Dylech gael gwybod bod mynediad i'r deunyddiau dysgu ar-lein yn ddilys am gyfnod o dri mis o'r dyddiad cofrestru. Sicrhau bod y cwrs yn cael ei gwblhau'n brydlon o fewn yr amserlen hon.

Mae pris y cwrs hwn fel a ganlyn:

  • Haen 1 = £80
  • Haen 2 = £160

Arbedwch £10 - bydd Haen 1 a Haen 2 a archebir ar yr un pryd yn costio £30. 

Fformat: Trwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir.