ar gyfer Hyfforddwyr Gweithredol ac Uwch
Mae'r Dystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol wedi'i chynllunio ar gyfer uwch reolwyr neu weithwyr proffesiynol AD/DS sydd eisiau datblygu eu harbenigedd a'u hygrededd ym meysydd hyfforddi a mentora. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer hyfforddwyr a mentoriaid proffesiynol sy'n dymuno cyfoethogi ac achredu eu profiad gyda chymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Holi Nawr Archebwch Lle Nawr
Am y Cwrs
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:
- Deall dibenion strategol hyfforddi a mentora ar lefel weithredol neu uwch
- Dadansoddi'r wybodaeth, y sgiliau, yr ymddygiadau a'r arferion sy'n angenrheidiol ar gyfer hyfforddi neu fentora effeithiol ar lefel weithredol neu uwch
- Cynllunio, cyflwyno ac adolygu eich hyfforddi neu fentora effeithiol eich hun ar lefel weithredol neu uwch
- Deall pam mae dysgu adfyfyriol yn bwysig ar gyfer eich ymarfer proffesiynol
- Cynllunio eich gweithgareddau datblygiad proffesiynol eich hun yn y dyfodol fel hyfforddwr neu fentor yn gweithredu ar lefel weithredol neu uwch
- Cysyniadau Craidd: Deall y gwahaniaethau rhwng hyfforddi a mentora, a'r egwyddorion a'r amodau ar gyfer hyfforddi effeithiol ar lefel weithredol neu uwch.
- Datblygu Sgiliau: Gwella eich sgiliau cyfathrebu, dysgu modelau hyfforddi sydd â ffocws ar gyflawni nodau, ac ymarfer sgiliau bod yn bresennol a gwrando. Datblygu technegau fel cwestiynu Socratig a chynnig adborth adeiladol.
- Rheoli Prosesau: Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora, gan gynnwys contractio, sesiynau cynllunio, ac ymarfer adfyfyriol.
- Technegau Datblygedig: Archwilio seicoleg gadarnhaol, hyfforddi'n seiliedig ar gryfderau, cyfweld ysgogol, hyfforddi ymddygiad gwybyddol, a rhoi niwrowyddoniaeth ar waith wrth hyfforddi.
- Cyd-destun Sefydliadol: Creu diwylliant hyfforddi, cynyddu ymddiriedaeth, deall gwerthoedd a chymhelliant, a mesur effaith hyfforddi.
- Datblygiad Personol: Datblygu strategaethau ar gyfer gwytnwch, eich rheoli eich hun fel hyfforddwr, a chreu cynllun datblygu personol a phroffil hyfforddi.
Mae'r ILM Lefel 7 ar gyfer rhai sy'n dymuno gweithredu ar lefel weithredol gyda ffocws strategol, gyda phwyslais ar sgiliau hyfforddi uwch a strategol ar gyfer amgylcheddau cymhleth ac archwiliad dyfnach o fodelau hyfforddi. Bydd hyfforddeion o rôl uwch neu strategol.
Mae ein model dysgu yn cynnwys 7 gweithdy ystafell ddosbarth rithwir byw dros 7 mis gyda dysgu hunan-arweiniol rhwng sesiynau. Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu trwy aseiniad ysgrifenedig, Portffolio Tystiolaeth sy'n dangos 20 awr o ymarfer hyfforddi (2 neu 3 hyfforddai), a Chyfnodolyn Adfyfyriol.
Trwy archebu eich lle, rydych chi’n ymrwymo i wneud y canlynol:
- Mynychu a chymryd rhan weithredol ym mhob un o'r saith sesiwn a addysgir, fydd yn cydamseru gyda hwylusydd yn ein gofod ystafell ddosbarth MS Teams
- Cyflwyno recordiad fideo o sesiwn hyfforddi i gael adborth ysgrifenedig
- Cymryd rhan mewn 4 awr o oruchwyliaeth hyfforddi
- Cymryd rhan mewn grwpiau triad hyfforddi cymheiriaid
- Ategu eich presenoldeb gyda darllen, ymchwil a gwaith ychwanegol ar gyflwyno eich aseiniad
- Byddwch yn cael mynediad i'n platfform dysgu rhithwir a deunyddiau cwrs cynhwysfawr
Nid oes proses ymgeisio ffurfiol, ond mae angen i ni sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o'r ymrwymiad sylweddol i'r rhaglen a'ch bod yn cofrestru ar gyfer cymhwyster â’r lefel fwyaf addas.
Cyfanswm yr ymrwymiad yw blwyddyn, sy'n cynnwys dyddiadau cau yr aseiniadau.
Rydyn ni wrth ein bodd yn siarad felly mae croeso mawr i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau
Hyfforddi a Mentora ILM Lefel 7: 27 Hydref (Cyflwyno), 4 Tachwedd, 9 Rhagfyr, 13 Ionawr, 11 Chwefror, 10 Mawrth, 15 Ebrill, 13 Mai, 13 Gorffennaf (Grŵp Goruchwylio) a 17 Awst (Grŵp Goruchwylio).
Mae Hyfforddwyr yn Grymuso Arweinwyr i Archwilio Beth sy’n Bosibl
Drwy’n rhaglenni Hyfforddiant ILM, gallwch ddatblygu’ch gwybodaeth, hyder, cymhwysedd a’ch effeithiolrwydd fel hyfforddwr a mentor. Rydym wedi creu’r cwrs ar gyfer unigolion sy’n hyfforddi ar hyn o bryd ar lefel canol neu sydd â mynediad i reolwyr a arweinwyr canol.
Holi NawrBeth yw manteision cymhwyster hyfforddiant ILM?