Cyfleusterau ac Offer
Cynnal eich cynhadledd nesaf a dewiswch o amrywiaeth o fannau digwyddiadau proffesiynol wedi'u lleoli ar draws y tri champws. O gyfarfodydd bach i gynadleddau ar raddfa fawr, mae ein lleoliadau’n cyfuno cyfleusterau cyfoes, technoleg ddi-dor a chefnogaeth brofiadol i greu profiad digwyddiad llyfn a llwyddiannus.
Mannau a Chyfleusterau Cynadledda Cysylltwch i ymweld â ni
Angen cyfleusterau arbenigol?
P'un a oes angen labordai arloesol ac offer gwyddonol uwch arnoch, neu fynediad i theatrau, stiwdios creadigol, a chyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch.
Cysylltwch nawr
Campws Caerdydd
Ydych chi’n chwilio am leoliad trawiadol i gynnal seremoni wobrwyo? Neu ydych chi’n dechrau podlediad ac angen offer sain i sicrhau cynhyrchiad proffesiynol? Campws Caerdydd yw cartref ein holl gyfleusterau creadigol.
Campws Glyntaff
Mae’r cyfleusterau a’r offer sydd ar Gampws Glyn-taf yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, gan gynnwys gwyddoniaeth fforensig, gwyddorau deunyddiau, cemeg, cynhyrchion fferyllol, meddygol, bwyd, electroneg, modurol, peirianneg, a llawer mwy.
Campws Trefforest
Mae ein cyfarpar labordy seicolegol a'n hefelychydd hedfan o'r radd flaenaf wedi'u lleoli ar Gampws Trefforest.