Mae prentisiaid yn elwa ar fwy o sgiliau a gwell cyflogadwyedd drwy raglen sy’n cyfuno gwaith ac astudio, tra bod cyflogwyr yn elwa o fwy o gynhyrchiant, gwell perfformiad busnes a chyfraddau cadw gweithwyr uwch.

Mae prentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd yn ddewis amgen i astudio traddodiadol yn y brifysgol, gan roi cyfle i’ch gweithwyr ennill cymhwyster uwch, dysgu sgiliau proffesiynol a datblygu gwybodaeth arbenigol. 

 

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu partneriaethau cydweithredol, ymatebol a gwydn - byddwn yn gweithio'n agos gyda chi ar bob cam, o gychwyn datblygu rhaglenni i raddio. Rydym yn deall yr ardoll hyfforddi, a’r prosesau sy’n gysylltiedig â datblygu rhaglenni prentisiaeth.

Wedi’u creu ar y cyd â diwydiant, mae ein cynlluniau i raddedigion yn datblygu talent yn benodol ar gyfer eu maes gwaith. Gan weithio gyda Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru ac Academi Wales, mae ein darpariaeth bresennol yn cynnwys elfen MSc Gwasanaethau Ariannol Cymru, Gwyddor Data Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ond nid rhaglenni meistr arferol mohonynt, mae'r cynlluniau wedi'u dylunio i ddiwallu galw ac anghenion y diwydiant. Mae graddedigion yn cael eu recriwtio o ddisgyblaethau amlweddog sy’n ymwneud â’r weledigaeth o greu a chadw talent yn y rhanbarth.

 

Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru

Mae Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru yn rhaglen waith, hyfforddiant ac astudiaethau academaidd amser llawn dros ddwy flynedd sy’n unigryw i Gymru, sydd wedi’i chyd-gynllunio ac sy’n cael ei chyd-gyflwyno gan sefydliadau gwasanaethau ariannol blaenllaw sy’n ceisio recriwtio 40 o raddedigion er mwyn datblygu cronfa dalent o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Mae’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn cynnwys Admiral, Atradius, Vauxhall Finance UK plc, DS Smith, Hodge Bank, Lexis Nexis, V12 Retail Finance, Composite Legal Expenses, Banc Datblygu Cymru, Optimum Credit, Cymdeithas Adeiladu Principality, Legal & General, Motonovo a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy.  

 

Bellach yn ei 7fed blwyddyn, mae’r MSc yn cynnwys Modiwlau Dysgu Seiliedig ar Waith sy’n cyd-fynd â’u prosiectau yn y gweithle. Mae hyn yn rhoi manteision gwirioneddol i’r graddedigion a’r cyflogwyr. Hyd yn hyn, mae 95% o'r graddedigion sydd wedi cwblhau'r rhaglen wedi cael eu cyflogi gan aelod o'r consortiwm neu gwmnïau gwasanaethau ariannol eraill yn y rhanbarth.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Raglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru.

 

Rhaglen Graddedigion Gwyddorau Data Cymru

Diffinnir gwyddor data fel maes amlddisgyblaethol sy’n defnyddio dulliau, prosesau, algorithmau a systemau gwyddonol i echdynnu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddata er mwyn datrys problemau. Yn seiliedig ar yr un model cyflwyno â'r rhaglenni Gwasanaethau Ariannol, mae graddedigion yn cael eu lleoli o fewn consortiwm o gyflogwyr ac yn ymgymryd â thri lleoliad ar gylchdro 8 mis. 

Maen nhw’n gweithio ar brosiectau ar gyfer eu modiwlau dysgu seiliedig ar waith, sy’n cael effaith ar y busnesau perthnasol, ac yn eu helpu nhw i wella’r cynnyrch y maen nhw’n ei gynnig.

Mae’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn cynnwys ActiveQuote, Admiral Group, Atradius, Centrica, GoCompare, Henry Howard Finance, Hodge Bank, LexisNexis Risk Solutions, MotoNovo Finance, Optimum Credit a Chymdeithas Adeiladu Principality, Pricewaterhousecoopers, Talent Ticker.  

 

Mae swyddi nodweddiadol yn cynnwys Modelwr Ystadegol, Peiriannydd Data, Dadansoddwr Meintiol, Dadansoddwr Risg Credyd, Dadansoddwr Prisio, a Modelwr Rhagfynegol / Gwyddoniaeth Penderfyniadau.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Raglen Graddedigion Gwyddorau Data Cymru.

 

Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan

Mae’r rhaglen hon i raddedigion yn fenter gan Academi Wales sydd wedi’i chynllunio’n benodol i ddatblygu talent yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer y dyfodol a bwrw ymlaen ag agenda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a gwreiddio Gwerthoedd Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae'r radd Meistr mewn arweinyddiaeth a llywodraethu yn cael ei hastudio gan y graddedigion wrth iddynt weithio mewn cylchdro o fewn clwstwr rhanbarthol. Mae'r MSc yn ymdrin â'r damcaniaethau arweinyddiaeth, yr arferion gorau a'r datblygiadau diweddaraf, ac yn cymhwyso hyn i'r gweithle wrth i'r myfyriwr gwblhau ei fodiwlau dysgu seiliedig ar waith a thraethawd estynedig sy'n benodol i'r sector, gan fynd i'r afael â materion go iawn ym maes gwasanaethau cyhoeddus.