Mae Rhwydwaith75 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr Weithio, Ennill Cyflog a Dysgu. Mae myfyrwyr yn gweithio mewn busnes lleol 3 diwrnod yr wythnos ac yn mynd i’r brifysgol 2 ddiwrnod yr wythnos.

Ar y cyd â Phrifysgol De Cymru, mae pob myfyriwr yn elwa ar rai o'r graddau gorau sydd ar gael, cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf, ac addysgu rhagorol.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig i bob math o gwmnïau, o fusnesau bach a chanolig i sefydliadau rhyngwladol a sefydliadau nid-er-elw. Mae myfyrwyr yn cyrraedd gwraidd y broblem, ac yn cynhyrchu adroddiad manwl er mwyn cyflwyno’u hargymhellion.

Os oes gan eich sefydliad broblem neu fwlch penodol mewn gwybodaeth, byddai Clinig Busnes De Cymru yn falch iawn o glywed gennych.