Cartrefi Dinas Casnewydd
Dewisodd Cartrefi Dinas Casnewydd (CDC) dîm Datblygiad Proffesiynol PDC i ddarparu STRIVE: Y Rhaglen Datblygu Rheolwyr, rhaglen gwbl bwrpasol sy’n cyd-fynd â’u pedwar gwerth craidd: Gweithgar, Cydweithredol, Cynhwysol, a Dibynadwy.
Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
Roedd pob un o'r pedwar diwrnod yn canolbwyntio ar un o'r gwerthoedd craidd, gan sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â fframwaith ymddygiad CDC
Wedi’i dylunio mewn cydweithrediad agos â CDC, mae’r rhaglen yn gwella’r arfer o gydweithio ar draws adrannau, yn cryfhau deinameg y tîm, ac yn rhoi offer i ddysgwyr ar gyfer tyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.
Yr angen
Roedd ar CDC angen rhaglen datblygu rheolwyr i reolwyr canol presennol a fyddai'n adlewyrchu eu gwerthoedd craidd yn llawn yn ogystal â mynd i'r afael â heriau yn y gweithle, gwella cyfathrebu, a gwella’r arfer o gydweithredu ar draws ystod amrywiol o rolau. Gyda gweithlu sy’n cynnwys arbenigwyr data, gweithwyr maes, a chrefftwyr, roedd ar CDC angen ffordd o weithredu a fyddai’n uno’r safbwyntiau amrywiol hyn ac yn cryfhau cydlyniant y tîm, yn enwedig wrth i weithwyr addasu i ffyrdd gwahanol o weithio ar ôl y pandemig.
Er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn mynd i'r afael â heriau gwirioneddol yn y gweithle a’i bod yn berthnasol i’r cyfranogwyr, cynhaliwyd grŵp ffocws cychwynnol fisoedd cyn ei lansio. Gwnaeth hyn helpu i sicrhau ymrwymiad grŵp o reolwyr, wrth iddyn nhw rannu o’u dealltwriaeth werthfawr er mwyn llywio cynnwys y rhaglen.
Yr Ateb
Gwnaeth Datblygiad Proffesiynol PDC gyd-ddylunio a chyd-ddarparu STRIVE gyda thîm Dysgu a Datblygu CDC i 120 o ddysgwyr ar draws 14 carfan, gan sicrhau ei bod wedi'i theilwra i anghenion unigryw'r sefydliad. Datblygwyd y rhaglen dros amser ar sail adborth gan gyfranogwyr ac wrth i ofynion newid. I gloi pob digwyddiad, byddai Digwyddiad Dathlu yn cael ei gynnal, lle byddai’r dysgwyr yn arddangos yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu a sut maen nhw wedi ei roi ar waith. Roedd yr elfennau allweddol yn cynnwys:
- Gweithdai a Fframweithiau: Roedd y staff yn archwilio modelau fel Pwyntiau Cwmpawd, Myers-Briggs, a Rolau Tîm Belbin, gan wella dealltwriaeth o ddeinameg y tîm ac arddulliau gweithio. Dyluniwyd pob sesiwn i adlewyrchu ac atgyfnerthu un o werthoedd craidd CDC.
- Defnydd Ymarferol: Gwnaeth y cyfranogwyr ymgorffori’r offer a'r fframweithiau yn eu gwaith, gan eu gosod i gyd-fynd â diwrnodau cwrdd i ffwrdd chwarterol a sesiynau cynllunio cydweithredol, gyda ffocws clir ar 'Ffordd CDC'.
- Dull Cyd-ddylunio: Datblygwyd y rhaglen ar y cyd, gan ymgorffori adborth gan grŵp bach o reolwyr a gymerodd ran mewn gweithgaredd cychwynnol. Roedd hyn yn sicrhau bod yr hyfforddiant yn bodloni heriau penodol y sefydliad.
- Digwyddiadau Dathlu: Cynhaliwyd sesiwn arddangos i gloi pob diwrnod, a oedd yn caniatáu i’r cyfranogwyr ddangos yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu a sut y mae modd eu defnyddio yn ymarferol, gan atgyfnerthu eu hymrwymiad i werthoedd CDC.
Yr Effaith
Cyd-fynd â Gwerthoedd Craidd: Roedd pob diwrnod hyfforddi yn canolbwyntio ar un o werthoedd craidd CDC (Gweithgar, Cydweithredol, Cynhwysol, a Dibynadwy), gan sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd yn llawn â 'Ffordd CDC'.
Cydweithredu’n Well fel Tîm: Fe wnaeth fframweithiau fel Pwyntiau Cwmpawd helpu i bontio gwahaniaethau mewn arddulliau gweithio, gan feithrin amgylchedd tîm mwy cynhyrchiol a chydweithredol. Daeth diwrnodau cwrdd i ffwrdd chwarterol yn gyfleoedd i ddefnyddio’r offer hyn a gyflwynwyd yn ystod y rhaglen ac ehangu arnyn nhw.
Cryfhau Perthnasoedd Rhyngbersonol: Cyfeiriodd y cyfranogwyr am well perthnasoedd â chydweithwyr, rhyngweithio’n well wyneb yn wyneb, ac ymdeimlad cryfach o ddiwylliant “un tîm” ar draws CDC.
Twf Personol a Phroffesiynol: Gwnaeth y gweithwyr ddatblygu hyder, gwella rheolaeth straen, a dod yn arweinwyr mwy cefnogol sy’n cyfathrebu’n well. Roedd offer fel gwrando’n weithredol wedi’u hintegreiddio'n ddi-dor i arferion dyddiol, gan wella effeithlonrwydd y tîm.
Effaith Barhaol: Hyd yn oed flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r egwyddorion a'r arferion a gyflwynwyd yn ystod STRIVE yn parhau i ddylanwadu'n gadarnhaol ar weithrediadau dydd-i-ddydd CDC, gan helpu’r gweithwyr i fynd i'r afael â heriau yn y gweithle a gwella cydlyniant y tîm.