Kyle Stead, Gweithiwr Llawrydd Creadigol Niwrowahanol
Fe wnaeth Kyle Stead, gweithiwr creadigol llawrydd niwrowahanol, gymryd rhan yn y Bŵt-camp i Fusnesau a gynhaliwyd gan Stiwdio Sefydlu. Wedi'i greu gan PDC, mae Stiwdio Sefydlu yn rhaglen cymorth cychwyn busnes ar gyfer graddedigion PDC, sy’n cynnig lle unigryw iddynt dyfu cysylltiadau busnes a rhagolygon trwy rwydweithiau, digwyddiadau a chynigion amrywiol.
Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
Gan weithio gyda PDC a thîm Stiwdio Sefydlu, llwyddodd Kyle i wneud y gorau o'i brosesau a gwella effeithlonrwydd ei fusnes gyda chymorth wrth law, cyfleusterau o'r radd flaenaf a digwyddiadau pwrpasol, sesiynau hyfforddi a chlinigau gwybodaeth gan sefydliadau ac entrepreneuriaid profiadol.
Yr angen
Yn wreiddiol o ardal RhCT, mae Kyle yn canolbwyntio ar weithio gydag artistiaid o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel. Fel unigolyn niwrowahanol dosbarth budd-daliadau, wynebodd heriau unigryw wrth lywio ei daith ei hun i'r diwydiant creadigol a cheisio gwella ei sgiliau busnes a'i effeithlonrwydd. Heb addysg ffurfiol ac wrth gael trafferth gyda diffyg man gwaith pwrpasol, roedd angen amgylchedd strwythuredig a chydweithredwyr oedd ar gael i atgyfnerthu ei strategaeth fusnes.
YR ATEB
Roedd Bŵt-camp i Fusnesau PDC yn cynnig yr ateb perffaith. Roedd y rhaglen deg wythnos yn darparu dysgu, yn ogystal â man gwaith hanfodol ar gyfer ffocws di-dor. Trwy sesiynau hanner diwrnod, roedd y Bŵt-camp yn ymdrin ag agweddau amrywiol ar ddatblygu busnes, gan ddarparu'r strwythur a'r offer sydd eu hangen i wneud y prosesau gorau posibl. Roedd dull gweledol ac ymarferol y rhaglen yn gweddu’n dda at Kyle, ac fe drodd agweddau ar fusnes, sydd fel arall yn gyffredin, yn ddiddorol ac yn hylaw.