Straeon Llwyddiant

NatWest Cymru

Mewn partneriaeth â NatWest Cymru, fe wnaethom lansio’r rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd – rhaglen bwrpasol sy’n ceisio mynd i’r afael â llawer o’r rhwystrau a amlygwyd yn Adolygiad Alison Rose o Entrepreneuriaeth Menywod.

Cysylltu â ni Gwasanaethau Busnes
Bank advisor and customer sat on a sofa with a laptop

Ym Mhrifysgol De Cymru, roeddem wrth law i helpu perchnogion busnesau bach a welodd gyfle yn ystod y cyfnod clo.



MAE GEN I INCWM RHEOLAIDD ERBYN HYN AC RWY’N YSTYRIED SUT Y BYDDAF YN ARIANNU AC YN DATBLYGU FY MENTER MEWN BLYNYDDOEDD I DDOD. FE WNAETH POB SESIWN FY YSBRYDOLI A FY HELPU I FAGU HYDER.

Laura Kingdon

Sylfaenydd Clarity at Work

student-25

Y rhaglen

Dywedodd Chris Wright, Rheolwr Cyfnewidfa Prifysgol De Cymru: “Mae'r rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd wedi bod yn enghraifft wych o sut mae Prifysgol De Cymru yn defnyddio ei harbenigedd cyfunol, gan gynnwys Menter Myfyrwyr, Ysgol Busnes De Cymru, Rhwydwaith Graddedigion Cyn-fyfyrwyr, Datblygiad Proffesiynol, Cyfnewidfa Prifysgol De Cymru a'n rhwydwaith o gyfryngwyr cymorth busnes i gefnogi her adferiad economaidd ar ôl y pandemig.” Roedd y rhaglen yn cynnwys dosbarthiadau meistr rhithwir i egin fusnesau, hyfforddiant busnes bach a chyfleoedd datblygu personol, digwyddiadau panel a chymorth cyfeillio gan ein hentrepreneuriaid graddedig ein hunain o Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru, gan alluogi cyfranogwyr i weld eu syniadau busnes yn dod yn fyw.



Dywedodd Cheryl Gourlay, Rheolwr Menywod mewn Busnes NatWest:

“Roeddem ni’n gwybod bod angen darparu ymyriadau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i lwyddiant ein cymuned fusnes wrth ailadeiladu ar ôl y pandemig, ac mae’r Rhaglen Datblygu Menywod Entrepreneuraidd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r menywod a gymerodd ran yn y rhaglen, gan roi’r adnoddau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu huchelgais."