Straeon Llwyddiant

Onesta

Cynlluniodd dau fyfyriwr Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru legins ar gyfer athletwyr Tîm Cymru – wedi’u gwneud o ddeunyddiau cynaliadwy – i’w gwisgo yng Ngemau’r Gymanwlad Birmingham 2022, gyda’r brand ffasiwn Onesta.

Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
bethan jones and olivia soady standing with commonwealth games trophy

Enillodd dau fyfyriwr blwyddyn olaf, Bethan Jones ac Olivia Soady, gystadleuaeth ddylunio a gynhaliwyd gan Gemau’r Gymanwlad Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.


student-25

Y prosiect

Gweithiodd y myfyrwyr yn agos gydag Onesta, brand dillad cynaliadwy arobryn o Lanelli, i ddod â’u dyluniadau’n fyw, ac fe wnaeth Onesta gynhyrchu 360 pâr o legins ar gyfer Tîm Cymru.
Fe’u datgelwyd yn swyddogol yr wythnos diwethaf (dydd Gwener 1 Gorffennaf) pan aeth Taith Baton y Frenhines drwy Lanelli, gan stopio yn stiwdio Onesta, lle modelodd y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Jasmine Joyce, oedd yn cario'r baton, git Tîm Cymru.
Datblygwyd y prosiect cydweithredol gyda chyllid gan Raglen Partneriaeth ac Ymgysylltu Cyfnewidfa Prifysgol De Cymru, sy'n galluogi sefydliadau i elwa'n uniongyrchol ar gymorth cwmpasu a dichonoldeb, yn ogystal â chael mynediad at arbenigedd academaidd Prifysgol De Cymru.


Yn dilyn brîff gan Dîm Cymru, canolbwyntiodd dyluniadau Bethan ac Olivia yn drwm ar gynaliadwyedd, gan sicrhau bod y legins yn ymarferol, yn hirhoedlog a bod ganddynt hunaniaeth Gymreig glir.


Dywedodd Stacey Grant-Canham, darlithydd mewn Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru, a weithiodd gyda Bethan ac Olivia ar y prosiect: “Ymgollodd y dylunwyr yn llwyr yn y diwydiant o’r diwrnod cyntaf ar y cwrs Dylunio Ffasiwn yma ym Mhrifysgol De Cymru; manteisiodd y ddwy ar ein dewis o flwyddyn allan mewn diwydiant, ac mae ganddyn nhw ymwybyddiaeth fasnachol a chreadigrwydd sy’n seiliedig ar wybodaeth gadarn am gylcholdeb ffasiwn. Mae’n gyfuniad effeithiol iawn. Mae’r ffaith eu bod wedi dewis cydweithio yn dyst i’r ffordd gyfannol maen nhw’n gweld eu lle yn y diwydiant byd-eang hwn hefyd.”


Dywedodd Olivia: “O’r cychwyn, fe’i gwnaed yn glir iawn yn y briff bod angen i'r legins hyn fod yn ymarferol ac yn wydn, sy’n rhywbeth y gwnaeth Bethan a minnau ei ystyried drwy gydol y broses ddylunio. Roeddwn i wedi darllen erthygl ar yr holl bethau anhygoel hyn a oedd wedi deillio o Gymru, a roddodd y syniad i mi fod ein gwlad yn fach ond yn nerthol.”

Ychwanegodd Bethan: “Roedd gan Olivia a minnau gysyniadau tebyg iawn. Roedd fy ngwaith yn ymwneud â symbolau pŵer Cymreig, a bod yn falch o’n Cymreictod, ochr yn ochr â phwysigrwydd cynhyrchu cynaliadwy. Felly, fe wnaethom ni uno’r syniadau er mwyn creu rhywbeth cyfoes iawn, ac rydym ni’n falch iawn o hynny. Roedd cael y cyfle i weithio ar y prosiect hwn gyda Thîm Cymru yn gyfle cyffrous i mi, ac yn rhywbeth sy’n alinio â’m gwerthoedd fel unigolyn ac fel dylunydd.” 

Dywedodd Gabriella Diana, perchennog a sylfaenydd Onesta: “Rydym ni’n falch o fod wedi cael ein dewis fel y gweithgynhyrchwr legins ar gyfer Tîm Cymru, sydd wedi’u dylunio ar y cyd â myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Nid yn unig yw gweithgynhyrchu yng Nghymru yn lleihau ôl troed carbon ein dillad, ond mae hefyd yn rhoi arian yn ôl i’r economi leol, gan gryfhau diwydiant yma yn y DU, a darparu swyddi medrus i bobl leol a graddedigion. Ar ben hynny, rydym ni’n gwybod bod ein holl ddillad yn cael eu gwneud gan ddwylo hapus. Mae gweithio ar y prosiect hwn gyda Thîm Cymru wedi bod yn gyffrous iawn, ac rydym wedi bod wrth ein bodd yn datblygu dillad chwaraeon cynaliadwy ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.”

Ychwanegodd Cathy Williams, Pennaeth Ymgysylltu Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae’r bartneriaeth rhwng Gemau’r Gymanwlad Cymru a Phrifysgol De Cymru wedi dod yn gryfach ac yn gryfach dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n wych ein bod unwaith eto’n gallu denu unigolion ifanc a thalentog fel Bethan ac Olivia i greu rhywbeth arbennig i’r tîm. 

“Fe wnaethom gynnal y gystadleuaeth hon gyntaf gyda Phrifysgol De Cymru ar gyfer Gemau Arfordir Aur 2018, ac rydym ni wedi adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, ac rydym ni wrth ein bodd yn gweld yr athletwyr yn gwisgo’r dyluniad gorffenedig.” 

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru: “Mae gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol De Cymru ar brosiectau o’r fath yn bwysig iawn i’r sefydliad; mae’n darparu llwyfan i ddylunwyr ifanc a myfyrwyr prifysgol gael ymdeimlad o’r diwydiant yn y byd ‘go iawn’, yn ogystal ag agor ein rhwydwaith cymorth i bobl na fyddent o reidrwydd yn cael eu denu i fyd chwaraeon. 

“Mae Gemau’r Gymanwlad yn fwy na digwyddiad chwaraeon – mae’n gyfle i ymgysylltu â chymunedau ledled y wlad a chefnogi Cymru ar lwyfan byd-eang. Llongyfarchiadau i’r ddau ddylunydd, a hoffwn ddiolch i Brifysgol De Cymru ac Onesta am eu holl waith caled.”

RYDYM NI’N FALCH O FOD WEDI CAEL EIN DEWIS FEL Y GWEITHGYNHYRCHWR LEGINS AR GYFER TÎM CYMRU, SYDD WEDI’U DYLUNIO AR Y CYD Â MYFYRWYR PRIFYSGOL DE CYMRU.

Gabriella Diana

Perchennog a sylfaenydd Onesta