Straeon Llwyddiant

Tarian Drums

Defnyddiodd Tarian Drums ein rhaglen Partneriaeth ac Ymgysylltu i fynd i’r afael â her fusnes yr oeddent wedi treulio 4 blynedd yn ymlafnio â hi.

Cysylltu â ni Ymuno â’n Rhwydwaith
a brown wooden tarian drum set sitting on a work bench

O freuddwydio am greu ei git drymiau ei hun fel plentyn, mae Rhys bellach yn darparu citiau drymiau o ansawdd uchel i berfformwyr a dylanwadwyr ledled y wlad.


student-25

trodd ei angerdd o chwarae drymiau i’w gwneud

Gyda chefndir fel cerddor proffesiynol ac wedi tyfu i fyny mewn gweithdai gyda dau ddad-cu oedd yn seiri coed meistrolgar a medrus, roedd Rhys Thomas bob amser wedi breuddwydio am greu ei git drymiau ei hun.

Astudiodd Rhys gerddoriaeth, a threuliodd 10 mlynedd yn gweithio mewn theatrau, yn chwarae i artistiaid, ac yn addysgu drymio yn lleol yn ne Cymru. Pan ddechreuodd deulu ei hun, newidiodd ei flaenoriaethau yn naturiol, ac nid oedd ganddo amser i’w neilltuo i berfformio mwyach.


“Dechreuodd fel hobi,” meddai Rhys. “Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi cynnig arni, felly fe wnes i un drwm ac roedd yn eithaf da. Gofynnodd ffrind a allai ei beintio, ac roedd yn edrych yn anhygoel, felly gyda’n gilydd fe benderfynom fynd amdani. Dros chwe mis, fe gymeron ni’r holl gamau angenrheidiol i roi busnes ar waith - rhannu syniadau am enw, cwblhau’r holl ddogfennau cyfreithiol - roedd yn gyffrous. Fe rannom ein creadigaethau gydag ychydig o ddrymwyr ac roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben. Dechreuodd pobl ofyn amdanynt - roedd gennym alw go iawn - ond dyna pryd y sylweddolom ni fod gennym broblem fawr.”

I wneud cragen drwm yn hollol grwn, mae angen mowld i sicrhau nad yw’r corff yn anffurfio ac yn effeithio ar y sain. Roedd Rhys wedi bod yn defnyddio mowld pren, a oedd wedi bod yn gweithio’n dda, nes i’r galw am ei greadigaethau gynyddu. 

Byddai’r mowld pren yn dirywio ar ôl gwneud tua 10 drwm, ac roedd hi’n cymryd diwrnod cyfan i wneud mowld newydd. Aeth Rhys ymlaen i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio mowld dur, ond roedd yn ddrud ac yn annibynadwy o ran ansawdd. 

Cysylltodd Rhys â Chyfnewidfa Prifysgol De Cymru, y porth ar gyfer ymgysylltu â busnesau ym Mhrifysgol De Cymru, gyda’i broblem.


“Roeddem ni’n teimlo ein bod ni’n wynebu brwydr enfawr, a doedden ni ddim yn ennill o gwbl,” meddai Rhys. “Fe wnaethon ni siarad â’r tîm yng Nghyfnewidfa Prifysgol De Cymru, ac fe awgrymon nhw ein bod ni’n mynd drwy’r Rhaglen Partneriaeth ac Ymgysylltu. Rhoddodd hyn gyllid i ni er mwyn i academyddion yn yr adran peirianneg archwilio ein problem ‘mowldio’ a cheisio dod o hyd i ddatrysiad. 

“Doedd dim angen meddwl ddwywaith - roedd wedi bod yn costio llawer i ni i arbrofi, a nawr roedd cyfle i beirianwyr medrus arbrofi gyda sicrwydd y cyllid grant o’r rhaglen. Fe wnaethom gwrdd â Phennaeth yr Adran Peirianneg Fecanyddol, a awgrymodd wneud argraffiad 3D o'r mowld. Fe wnaethon nhw greu prototeip i ni, ac roedd yn berffaith. Hyd yma, rydym wedi gwneud 20 o ddrymiau ac ni fu unrhyw ddirywiad o gwbl - rydym yn rhagweld y bydd yn cadw i fynd ac yn creu cannoedd, os nad miloedd, o ddrymiau.

“Fe dreuliom ni dair neu bedair blynedd yn mynd ar drywydd y mowld hwn, ac fe ganiataodd y Rhaglen Partneriaeth ac Ymgysylltu i ni gyflawni’r hyn roeddem ni’n dechrau amau ei fod yn amhosib. Nawr, rydym yn ceisio sicrhau cyllid i greu 15 o fowldiau tebyg. Mae wedi chwyldroi ein busnes, ac ni allem fod yn fwy diolchgar.” 

Dywedodd Rhodri Ryland, Rheolwr Ymgysylltu Allanol Prifysgol De Cymru: "Gall cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant chwarae rhan ganolog wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu BBaChau a busnesau. Yn aml, gall rhannu syniadau, trosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd cyfunol ddatgloi’r hyn sy’n ymddangos fel problem anorchfygol a darparu datrysiadau a allai, fel arall, ymddangos yn amhosibl eu cyflawni. 

“Mae'r cyfleoedd i'r byd academaidd a diwydiant gefnogi ei gilydd yn enfawr, o recriwtio graddedigion hyd at ymchwil, arloesi a datblygu, a byddwn yn annog pob sefydliad i ystyried ac archwilio sut y gallant integreiddio cydweithio academaidd-diwydiant yn eu huchelgeisiau strategol.”

Tarian Drums yw’r unig weithgynhyrchwyr drymiau yng Nghymru sy’n cynhyrchu eu cregyn eu hunain. O freuddwydio am greu ei git drymiau ei hun fel plentyn, mae Rhys bellach yn darparu citiau drymiau o ansawdd uchel i berfformwyr a dylanwadwyr ledled y wlad.

MAE'R RHAGLEN PARTNERIAETH AC YMGYSYLLTU GYDA PHRIFYSGOL DE CYMRU WEDI EIN GALLUOGI I GYFLAWNI'R HYN YR OEDDEM YN DECHRAU AMAU EI FOD YN AMHOSIBL.

Rhys Thomas

Prif Grefftwr, Tarian Drums