Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio ar gyfer y sgan gan ymarferwr gofal iechyd megis meddyg teulu, ceiropractydd, osteopath neu ffisiotherapydd (gellir lawrlwytho ffurflenni atgyfeirio o'r wefan hon). Pan fydd WIOC yn derbyn y ffurflen atgyfeirio, bydd yn cael ei hadolygu gan y gweithredwr cyn cael ei phasio i staff derbynfa'r clinig a fydd yn eich ffonio i drefnu dyddiad ac amser cyfleus ar gyfer yr apwyntiad.
Os oes rhaid i chi ganslo apwyntiad, dylech roi gwybod i ysgrifennydd y clinig ar 01443 483591 cyn gynted â phosib.
Ar ôl i chi fwcio apwyntiad, byddwch yn derbyn llythyr o gadarnhad / gwybodaeth a fydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau i gyrraedd mewn car, gwybodaeth ar drafnidiaeth leol a mannau parcio am ddim. Yn yr un amlen, byddwch hefyd yn derbyn holiadur a gofynnwn i chi gwblhau'r holiadur a dod ag ef gyda chi ar ddiwrnod eich apwyntiad.
Gallwch naill ai ffonio ysgrifennydd y clinig ar 01443 483555 neu 01443 483320 a fydd yn trefnu i rywun eich ffonio yn ôl, neu gallwch chi siarad â'r gweithredwr ar ddiwrnod eich apwyntiad.
Dylech roi gwybod i staff y dderbynfa yn Sefydliad Ceirpracteg Cymru a fydd yn rhoi gwybod i'r gweithredwr eich bod wedi cyrraedd. Byddant yn gofyn i chi eistedd yn yr ardal aros tan i'r gweithredwr eich galw.