Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er cof am fyfyrwraig Prifysgol De Cymru (PDC), Emma Abberley, a ysbrydolodd ei chyfoedion a'i thiwtoriaid gyda'i hymroddiad at wella bywydau plant a'i hangerdd dros ddadansoddi ymddygiad. Roedd Emma yn aelod gwerthfawr o dîm gwirfoddoli ein clinig a’i nod oedd bod yn Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig.

Mae Ysgoloriaeth Emma Abberley yn helpu plant ag awtistiaeth ac anawsterau datblygiadol eraill i gael mynediad at wasanaethau asesu ac ymyrryd Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Clinig Dadansoddi Ymddygiad PDC.

Ffurflen gais

Nod Ysgoloriaeth Emma Abberley yw helpu plant ag awtistiaeth ac anawsterau datblygiadol eraill i gael mynediad at wasanaethau asesu ac ymyrryd Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Clinig Dadansoddi Ymddygiad PDC. Mae'n darparu cyllid ar gyfer tair sesiwn yr wythnos am un flwyddyn academaidd.

Y meini prawf ar gyfer ymgeisio am yr ysgoloriaeth yw:

  • Rhaid i’r plentyn fod rhwng 2 a 5 oed ar 1 Medi 2024.
  • Rhaid i rieni neu ofalwyr ddisgrifio pryderon ynghylch diffyg y plentyn i gyrraedd cerrig milltir datblygiadol. Nid oes angen diagnosis ffurfiol.
  • Rhaid i ddeiliaid yr ysgoloriaeth beidio â bod yn derbyn unrhyw gyllid arall sy’n talu am therapi yn seiliedig ar Ddadansoddiad
  • Ymddygiadol Cymhwysol.
  • Rhaid i’r deiliad allu ymrwymo at dair o sesiynau yr wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd i gynnwys tair sesiwn hanner diwrnod neu 1.5 sesiwn diwrnod llawn.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys ar gyfer un budd-dal neu fwy isod:

  • Cymhorthdal Incwm (gyda chyfrifoldeb dros blant)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (gyda chyfrifoldeb dros blant)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymorth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn Seiliedig ar Incwm)
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith dilynol - a delir am 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith

I wneud cais, cliciwch yma am y ffurflen gais.

Mae telerau ac amodau i'w gweld yma.

Dylai ymgeiswyr lenwi pob adran o'r ffurflen atodedig. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o gymhwysedd budd-dal gyda'r cais. Ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hystyried.

Rhaid i geisiadau gael eu derbyn drwy e-bost [email protected] yn ddim hwyrach na 5:00pm ar 14 Awst 2024.

Gellir cyfeirio ymholiadau anffurfiol am yr ysgoloriaeth at [email protected] neu (07786461618).