Newidiadau i werthuso cyrsiau ar gyfer 2024-25

Eleni, mae'r Brifysgol yn newid sut mae cyrsiau a modiwlau yn cael eu gwerthuso.

Bydd Loop, system gwerthuso modiwlau a chyrsiau ar-lein y Brifysgol, yn cael ei hatal ar gyfer 2024/25. Yn hytrach, bydd adborth myfyrwyr yn cael ei sianelu gan Gynrychiolwyr Cwrs drwy'r broses Grŵp Cyswllt Cyrsiau Staff a Myfyrwyr (SSCLG).

Cynrychiolaeth y Cwrs

Mae Cynrychiolydd Cwrs yn fyfyriwr sydd wedi cael ei ethol gan ei gyfoedion i gynrychioli barn a phryderon academaidd eu carfan. Ei brif rôl yw casglu adborth gan gyd-ddisgyblion gan ddefnyddio amrywiaeth o fecanweithiau, gan gynnwys trafodaethau rheolaidd, e-byst, cyfryngau cymdeithasol neu arolygon.

Penodir Cynrychiolwyr Cwrs yn ystod wythnosau cyntaf y tymor – gallwch chi ddysgu mwy am eu rôl a sut y gallwch chi wneud cais yma.

Beth yw Grŵp Cyswllt Cyrsiau Staff a Myfyrwyr?

Yn y Grŵp Cyswllt Cyrsiau Staff a Myfyrwyr (SSCLG), mae Cynrychiolwyr Cwrs yn cyfarfod ag Arweinydd eu Cwrs ac aelodau o dîm y cwrs i roi adborth ar y cwrs i helpu i wella'r profiad i bawb. Ar ôl y cyfarfod hwn, mae Cynrychiolwyr Cwrs yn adrodd yn ôl i'w carfan gydag unrhyw ganlyniadau a chamau gweithredu. Dylai'r cyfarfodydd hyn gael eu cynnal bob tymor.

Lle nad oes gan gwrs Gynrychiolydd Cwrs, anogir myfyrwyr i gysylltu â'u Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr yn uniongyrchol i sicrhau bod adborth yn cael ei gasglu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected].

https://advice.southwales.ac.uk/cyngor/a2z/adborth/