Canllaw i Ddefnyddio VR yn PDC

Ar ôl troi’r Meta Quest ymlaen, yn gyntaf bydd yn rhaid i chi sefydlu System Terfynau Guardian, nodwedd ddiogelwch hanfodol wedi’i dylunio i’ch helpu i aros o fewn terfynau eich gofod chwarae tra byddwch wedi ymgolli mewn VR. Mae'n helpu i'ch atal rhag taro i mewn i wrthrychau yn y byd go iawn. Mae sefydlu system terfynau yn hanfodol i fwrw ymlaen â defnyddio VR gan na fydd cynnwys yn hygyrch.

Ar ôl i chi droi'r penset ymlaen, efallai y byddwch yn cael hysbysiad a fydd naill ai:

  1. yn rhoi gwybod i chi nad yw'r terfyn wedi'i ganfod
  2. yn rhoi gwybod i chi fod yn rhaid i chi greu un newydd.

Dewiswch yr opsiwn “create new boundary”. Yna, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a fydd yn dangos i chi sut i greu eich terfyn eich hun neu, dewiswch “stationary boundary” a fydd yn ffurfio cylch penodol o'ch cwmpas.

Bydd y terfyn yn ymddangos i chi fel cylch glas ar y llawr a bydd yn dod yn weladwy fel cawell po agosaf y byddwch yn ei gyrraedd.

Mae gan bob rheolydd Meta Quest sawl botwm a rheolydd:

  • Botwm Sbardun: Mae hwn ar flaen y rheolydd, dyma'r prif fotwm ar gyfer dewis a rhyngweithio o fewn yr amgylchedd rhithwir.
  • Botwm Gafael: Mae hwn ar yr ochr, ac mae’n aml yn cael ei ddefnyddio i fachu neu ddal gwrthrychau yn yr amgylchedd rhithwir.
  • Botwm bawd: Gellir symud hwn i unrhyw gyfeiriad ar gyfer mynd o gwmpas yr amgylchedd rhithwir. Gellir ei wasgu i lawr hefyd fel botwm ar gyfer rhyngweithiadau ychwanegol.
  • Botwm Dewislen: Defnyddir y botwm hwn i agor y ddewislen neu i oedi profiad rhithwir.

Mae gan bob rheolydd strap arddwrn.

Rhaid cau'r strap arddwrn fel bod y rheolydd yn gadarn yn eich dwylo bob amser. Gall methu â gwneud hyn arwain at ddifrodi'r offer.

  • Dylai defnyddwyr ffotosensitif geisio cyngor meddygol CYN defnyddio unrhyw offer VR.
  • Dylai defnyddwyr gadw eu dwy droed ar y llawr bob amser (oni bai eu bod yn cerdded neu'n troi). Ni fydd yn ofynnol ar unrhyw adeg i ddefnyddwyr ddefnyddio rhannau o'u corff nad ydynt wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â darn.
  • Prifysgol De Cymru DEFNYDDIO VR YN PDC - CANLLAWIAU HOLLGYNHWYSOL Cyflwyniad Diogelwch Meta Quest 2 gan Ganolfan Ddiogelwch Meta Quest, o offer VR (dwylo neu ben) i gymryd rhan mewn profiad.
  • Lle bo'n ymarferol, dylid clirio'r holl ddodrefn o'r man defnyddio i gyrion yr ystafell. ·Dylai defnyddwyr fod ag isafswm o 2m o le i bob cyfeiriad ac ni ddylent allu cyrraedd y nenfwd gyda'u braich a'u bysedd wedi'u hymestyn yn llawn.
  • Peidiwch â defnyddio penset VR yn yr awyr agored gan y gallai hyn achosi difrod anadferadwy i'r uned.
  • Ceisiwch osgoi gwrthdaro’r rheolyddion ac osgoi unrhyw wrthdrawiadau trwm rhwng y rheolyddion a'r penset, gan y gallai hyn ddifrodi camerâu a synwyryddion sydd arno.
  • Ni ddylai neb fynd i mewn i derfyn “gofod chwarae” neu “Guardian” y defnyddiwr oni bai y caniateir hyn yn benodol gan y defnyddiwr. Os caniateir, rhaid i'r defnyddiwr aros yn llonydd gyda breichiau wrth eu hochrau bob amser oni bai y rhoddir cyfarwyddyd gan rywun nad yw’n ddefnyddiwr o fewn y terfyn neu'r gofod chwarae.
  • Rhaid i bob defnyddiwr gweithredol aros yn llonydd gyda’u breichiau wrth eu hochrau ar unwaith os cânt eu cyfarwyddo gan rywun nad yw'n ddefnyddiwr/goruchwyliwr. Rydym yn argymell cytuno ar air gorchymyn cyfarwyddyd gyda defnyddwyr cyn i'r sesiwn ddechrau. Ceisiwch osgoi dewis y gair “STOP”, neu unrhyw eiriau a ddefnyddir yn gyffredin o fewn yr ystafell ddosbarth/pwnc i osgoi dryswch.
  • Os yw defnyddiwr yn cyrraedd ymyl eu gofod chwarae neu fod terfyn y Guardian yn ymddangos ar eu sgrin, dylid naill ai:
    - Mynd i’r modd gweld mewn amser real, lle mae ar gael
    neu
    - Godi fisor yr uned (penset VR)
    a dychwelyd i ganol eu gofod chwarae/terfyn cyn gynted â phosibl.
  • Pan fydd pensetiau wedi'u clymu’n sownd (lle defnyddir tennyn neu gebl), rhaid i'r cebl fod yn sownd uwchlaw uchder y wasg i osgoi baglu.
  • Lle bo’n bosibl, dylai defnyddwyr bob amser gael eu goruchwylio gan rywun nad yw’n ddefnyddiwr, er mwyn sicrhau bod gwrthdrawiadau damweiniol yn cael eu hosgoi, i oruchwylio diogelwch y gofod defnyddio, i fonitro amser defnyddwyr mewn VR, ac i gynorthwyo os bydd unrhyw salwch/anaf yn digwydd o ganlyniad i ddefnyddio pensetiau VR.
  • Rydym yn argymell bod defnyddwyr newydd yn cyfyngu ar amser mewn VR i uchafswm o 30 munud y sesiwn gydag 20 munud o amser egwyl rhwng sesiynau.
  • Rydym yn argymell bod defnyddwyr profiadol yn cyfyngu amser mewn VR i uchafswm o 1 awr y sesiwn gydag 20 munud o amser egwyl rhwng sesiynau.
  • Dylai defnyddwyr gael rhywbeth i’w yfed rhwng sesiynau VR.
  • Os yw defnyddiwr yn teimlo'n benysgafn, yn sâl, neu'n dechrau chwysu'n ormodol yn ystod sesiwn mewn VR, dylent roi'r gorau i'w ddefnyddio ar unwaith, tynnu eu hoffer VR pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, gadael yr amgylchedd defnyddio corfforol pan fo'n briodol, a gorffwys (cael rhywbeth i’w yfed os oes angen). Os bydd y symptomau'n parhau, dylai defnyddwyr ofyn am gyngor meddygol cyn defnyddio eto.
  • Cofiwch lanhau eich clustffonau a'ch rheolyddion gyda'r cadachau glanweithiol ar ôl eu defnyddio. PEIDIWCH â sychu'r lensys y tu mewn i'r penset.
  • Diffoddwch y pŵer a dychwelyd yr holl offer VR i'r doc gwefru ar ôl eu defnyddio.

  • Rydym yn argymell y gall y defnyddiwr ymestyn ei freichiau gyda bysedd wedi'u hymestyn yn llawn i bob cyfeiriad, heb ddod ar draws gwrthrych neu wal arall. Lle nad yw hyn yn bosibl, sicrhewch fod y defnyddiwr yn ymwybodol o'r gwrthrychau yn eu cyffiniau. Fodd bynnag, ni ddylai fod unrhyw ddefnyddwyr eraill o fewn cyrraedd braich estynedig defnyddiwr i osgoi gwrthdrawiad damweiniol. -Pan fydd defnyddiwr yn eistedd wrth ddesg, sicrhewch nad oes unrhyw wrthrychau ar y ddesg, gan gynnwys cyfrifiaduron, monitorau, neu sgriniau.
  • Os oes rhaid i ddefnyddiwr eistedd yn ystod profiad, symudwch unrhyw ddodrefn ychwanegol i gyrion yr ystafell a defnyddiwch gadeiriau troi heb freichiau lle bo modd, i leihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiad neu anaf.
  • Sicrhewch fod cefn y gadair mewn safle cyfforddus, yn syth a'i fod wedi'i gloi yn ei le i osgoi symud neu dipio damweiniol.
  • Lle bo modd, sicrhewch fod y sedd ar uchder cyfforddus i'r defnyddiwr, fel bod pengliniau'r defnyddiwr wedi'u plygu i tua 90 gradd a'u traed yn gorffwys yn gyfforddus ar y llawr pan fyddant yn eistedd.

  1. Cymerwch seibiannau: Camwch allan o VR yn rheolaidd i orffwys ac i yfed rhywbeth.
  2. Cyfyngwch hyd y sesiwn: Anelwch at tua awr o ddefnydd parhaus, ac yna egwyl.
  3. Defnydd graddol: Dechreuwch gyda sesiynau byrrach a chynyddwch yn raddol.
  4. Dewiswch brofiadau cyfforddus: Dewiswch gynnwys VR llai dwys i ddechrau.

Mae salwch VR, a elwir hefyd yn salwch realiti rhithwir neu’n seibrsalwch, yn digwydd pan fydd amgylchedd rhithwir yn achosi symptomau tebyg i salwch symud i ddefnyddwyr. Dyma'r symptomau cyffredin sy'n gysylltiedig â salwch VR:

  1. Cyfog: Teimlo'n sâl.
  2. Pendro: Pen yn troi neu’n simsan.
  3. Cur pen: Poen neu anghysur yn y pen.
  4. Straen llygaid: Anghysur neu flinder yn y llygaid.
  5. Ymwybyddiaeth o’r stumog: Mwy o ymwybyddiaeth o synhwyrau’r stumog.
  6. Chwydu: Taflu i fyny.
  7. Gwelwder: Y croen yn welw.
  8. Chwysu: Chwys gormodol.
  9. Blinder: Teimlo'n flinedig neu wedi ymlâdd.
  10. Syrthni: Eisiau cwsg.
  11. Dryswch: Teimlo ar goll neu'n ddryslyd.
  12. Difaterwch: Diffyg diddordeb neu frwdfrydedd.

Y Prif Ffactorau

Arwyddion yn Gwrthdaro: Pan fydd eich ymennydd yn gweld symudiad yn yr amgylchedd rhithwir tra bod eich corff yn aros yn llonydd, mae'n creu datgysylltiad, gan arwain at gyfog a symptomau eraill.

Cyfraddau adnewyddu sgrin: Gall cyfraddau adnewyddu isel mewn pensetiau VR gyfrannu at anghysur.

Gwahaniaethau unigol: Mae tueddiad i fod yn sâl yn amrywio ymhlith unigolion yn seiliedig ar ffactorau fel rhywedd, oedran, a pha mor gyfarwydd ydynt â VR.