Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol lle gall ein holl fyfyrwyr a graddedigion ffynnu a rhagori. Mae ein corff myfyrwyr yn adlewyrchu amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau a safbwyntiau a fydd yn cynnig mewnwelediadau a sgiliau unigryw i'ch sefydliad.
Archwiliwch sut mae PDC yn ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Mae CareersPlus, ein tîm ymroddedig a ariennir gan Medr, yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i brofiad gwaith a chyfleoedd. Rydym yn awyddus i gydweithio â chyflogwyr i ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau pwrpasol ar gyfer Myfyrwyr a Graddedigion PDC. Am gyfleoedd partneriaeth, cysylltwch â ni yn [email protected].
Mae creu partneriaeth â ni yn golygu cofleidio a hyrwyddo EDI yn eich gweithle. P'un a ydych newydd ddechrau neu'n gwella arferion presennol, mae ein tîm yma i'ch arwain. Dyma rai adnoddau i gefnogi ein cenhadaeth o ddarparu cyfle cyfartal i bawb:
Cyfle Cyfartal a Recriwtio
Blaenoriaethu sgiliau, cymwysterau, a photensial dros ffactorau fel hil, rhyw, anabledd, neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar (add web page).
Gweithleoedd Hygyrch
Sicrhau cynhwysiant trwy gynnig addasiadau rhesymol. Darganfyddwch fwy am ddod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar (add web page).
Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol
Ymunwch â ni i ddathlu ein cymuned myfyrwyr rhyngwladol amrywiol, sy'n cyfoethogi ein campws a’r gymuned ehangach. Archwiliwch gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion rhyngwladol yn rhwydd ar (add web page).
Awgrym: Tynnwch sylw at eich sefydliad drwy groesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol am swyddi lefel graddedig yn eich hysbysebion swydd a'ch disgrifiadau.
Ymunwch â ni i groesawu amrywiaeth a chynhwysiant i ddatgloi potensial llawn eich sefydliad!