Ysbrydolwch eraill trwy rannu eich profiadau unigryw, gwybodaeth am yrfaoedd ac arbenigedd.
Mae ein cynllun mentora'n rhoi'r cyfle i chi gefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau eu hunain am yrfa. Rydym yn hwyluso'r cysylltiad rhwng gweithwyr proffesiynol (mentoriaid) a myfyrwyr (mentoreion).
Pam dod yn fentor?
Rhoi hwb i'ch sgiliau, fel cyfathrebu a hyfforddi.
Rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
Cysylltu â darpar recriwtiaid.
Rhoi hwb i welededd eich sefydliad.
Ennill persbectif newydd.
Cadw i fyny gyda diweddariadau ym maes addysg uwch a fframweithiau cymwysterau.
Ehangu eich Rhwydwaith Proffesiynol.
Mae'r cynllun yn cynnig hyblygrwydd i'r ddwy ochr, gydag ymrwymiad o chwe mis a chyfarfodydd misol. Gallwch gysylltu â'ch mentorai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein - pa bynnag ffordd sydd orau i chi'ch dau. Mae disgwyl cyswllt e-bost o'r cychwyn a thrwy gydol y cynllun. Gall mentoriaid hefyd wahodd mentoreion i'w cysgodi nhw yn y gwaith neu i fynychu cyfarfodydd i arsylwi ei rôl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn fentor, e-bostiwch [email protected]
MAE'N FUDDIOL IAWN GWELD CYNNYDD Y MYFYRWYR A GWYBOD FY MOD YN HELPU.
Andy James Ltd
RWY'N GWYBOD Y BUASWN WEDI BOD YN DDIOLCHGAR IAWN I GAEL GWEITHIWR PROFFESIYNOL YN Y DIWYDIANT I ROI ARWEINIAD YMARFEROL I MI, FELLY RWY'N DDIOLCHGAR I FOD Y PERSON HWNNW AR GYFER Y MYFYRWYR HYN.