Profiad Gwaith a Lleoliadau
Yn PDC, mae cyflogadwyedd yn ganolog i'n cyrsiau. Rydym yn cynnig cyfleoedd a rhagolygon ardderchog i fyfyrwyr, o brosiectau yn seiliedig ar arferion gweithio i dreulio amser yn y gweithle.
Gyda chymuned amrywiol o fyfyrwyr ar gampysau ledled De Cymru, mae PDC yn ganolbwynt sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a all ychwanegu gwerth at eich busnes:
- Enillwch syniadau newydd, persbectif newydd ac asedau gwerthfawr yn eich gweithle.
- Cymerwch y cam nesaf gyda phrosiect neu faes ymchwil a allai fod wedi cael ei oedi oherwydd diffyg adnoddau.
- Nodwch ddarpar gyflogai yn seiliedig ar gyfnod prawf heb ymrwymiad.
Ymgysylltwch â myfyrwyr PDC trwy:
- Lleoliadau Rhyngosod - hyd at 12 mis o hyd, fel arfer yn cael ei wneud yn ystod y blwyddyn olaf ond un o astudio.
- Lleoliadau Haf - hyd at 3 mis o hyd, a ellir eu cynnig ar ffurf hyblyg.
- Lleoliadau Byr - wedi'u hintegreiddio i mewn i gwrs. Gall hyn hefyd gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli yn y trydydd sector.
- Briffiau Prosiect - heriau gwaith go iawn a osodir gennych chi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â [email protected].